Cardiff School of Education & Social Policy>Courses>Addysg Gynradd gyda Statws Athro Cymwysedig - BA (Anrh)

Addysg Gynradd (3-11) gyda Statws Athro Cymwysedig - BA (Anrh)

VIEW THIS PAGE IN ENGLISH

Cwrs israddedig tair blynedd ydy'r BA (Anrh) Addysg Gynradd gyda SAC (QTS), cwrs sy'n arwain at ddyfarniad gradd anrhydedd a statws athro cymwysedig. 

Nod y cwrs ydy paratoi darpar athrawon ar gyfer bod yn ymarferwyr medrus, hyderus, adfyfyriol gritigol a blaengar sydd wedi ymrwymo i ddysgu proffesiynol gydol oes ac i addysg pobl ifanc. 

Bydd graddedigion yn datblygu'r gwerthoedd a'r ymagweddau a fydd yn eu galluogi i fod yn gyflogadwy iawn ac yn barod i ddelio â galwadau'r ystafell ddosbarth.

Nid yw ceisiadau am BA (Hons) Primary Education with QTS ac Addysg Gynradd gyda Statws Athro Cymwysedig yn cael eu hystyried mwyach ar gyfer Medi 2021.

Yn anffodus, ni allwn ystyried ceisiadau gohiriedig ar gyfer y cwrs hwn.

Cyrsiau cysylltiedig:
BA (Anrh) Astudiaethau Addysg Gynradd
BA (Anrh) Addysg Blynyddoedd Cynnar ac Ymarfer Proffesiynol (gyda Statws Blynyddoedd Cynnar Proffesiynol)

Mae'r wybodaeth am y cwrs ar y dudalen hon yn cyfeirio at garfan ymgeiswyr 2021.

Nodweddion Arbennig y Radd


  • Profiad prifysgol ac ysgol sy'n hyfforddi darpar athrawon i addysgu Cwricwlwm Cymru ar draws yr ystod oed 3-11
  • Ymarfer clinigol yn seiliedig ar ymchwil lle bydd cyfleoedd strwythuredig yn galluogi darpar athrawon i ddefnyddio theori i gwestiynu'r ymarfer ac i'r gwrthwyneb.
  • Hinsawdd dysgu cefnogol a chydweithrediadol
  • Dyddiau hyfforddi mewn ysgol dan arweiniad ysgolion a nodwyd eu bod yn ddarparwyr blaengar o addysg a datblygiad proffesiynol
  • Diwrnod 'dychwelyd' i'r brifysgol a/neu i ysgolion arweiniol partneriaeth bob wythnos yn ystod ymarfer clinigol er mwyn atgyfnerthu a chydlynu y hyn a ddysgwyd
  • Cyfle i ymgymryd â Chymorth Achrededig Agored Cymru yn hyfforddiant Lefel 2 Ysgol y Goedwig 
  • Ymrwymiad i ddatblygu sgiliau Cymraeg pob darpar athro yn seiliedig ar eu profiad a’u hanghenion personol

Partneriaeth Caerdydd ar gyfer Addysg Gychwynnol i Athrawon

Mae hyfforddi i addysgu ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd yn gyfle cyffrous i ddysgu o fewn Partneriaeth Caerdydd ar gyfer Addysg Gychwynnol i Athrawon, darparwyr achrededig Cyngor Gweithlu Addysg o AGA yn Ne Ddwyrain Cymru. 

Mae Partneriaeth Caerdydd ar gyfer Addysg Gychwynnol i Athrawon yn cynnwys Prifysgol Metropolitan Caerdydd a'i hysgolion cysylltiedig, gan weithio ar y cyd â Phrifysgol Rhydychen, Prifysgol Caerdydd, Consortiwm Canolbarth y De (CSC), Gwasanaeth Cyflawni Addysg (EAS), a Chyngor Dinas Caerdydd. Gyda'i gilydd, mae Partneriaeth Caerdydd yn cydweithio i sicrhau bod ein hathrawon dan hyfforddiant nid yn unig yn cyflawni, ond yn ceisio rhagori ar y safonau proffesiynol ar gyfer SAC drwy addysg broffesiynol o ansawdd uchel sy'n drylwyr yn ymarferol ac yn ddeallusol heriol.

Darganfod mwy am Bartneriaeth Caerdydd.

Datblygu'r Gymraeg

Neilltuir 36 awr o addysgu datblygu'r Gymraeg yn uniongyrchol ar gyfer pob darpar athro.

Bydd myfyrwyr cyfrwng Cymraeg yn derbyn sesiynau Gloywi Iaith a fydd yn mynd i'r afael ag elfennau gramadegol y Gymraeg a chaiff darpar athrawon hyfforddiant ar ddulliau o ddatblygu sgiliau llythrennedd personol disgyblion a dealltwriaeth o gefndiroedd ieithyddol-gymdeithasol y dysgwyr. 

Bydd dysgwyr Cymraeg a siaradwyr Cymraeg sy'n dod i'r amlwg yn dilyn cynllun iaith cydnabyddedig: 'Cynllun Colegau Cymru'. Mae'r cwrs hwn yn delio ag anghenion darpar athrawon sy'n bwriadu addysgu Cymraeg Ail Iaith mewn ysgolion cyfrwng Saesneg yng Nghymru. Mae'r cwrs yn sicrhau, ar ôl ei gwblhau, bod darpar athrawon wedi cael cyflwyniad cadarn i'r Gymraeg ac wedi datblygu lefel sylfaenol o Lafaredd. Addysgir darpar athrawon mewn grwpiau bach wedi'u ffrydio yn ôl profiad a chymhwyster blaenorol.


Astudio drwy gyfrwng y Gymraeg 

Mae modd astudio rhan o'r cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'r manylion fel a ganlyn:

  • Gallwch ymgymryd ag o leiaf traean o'ch gradd drwy gyfrwng y Gymraeg (yn cyfateb i leiafswm o 40 credyd am bob blwyddyn academaidd)
  • Gellir cyflwyno pob aseiniad a'u hasesu drwy gyfrwng y Gymraeg.
  • Gall holl leoliadau ysgol fod mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg
  • Neilltuir tiwtor personol Cymraeg ei h/iaith ar eich cyfer

Am ragor o wybodaeth am opsiwn i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg, cysylltwch â Bethan Rowlands browlands2@cardiffmet.ac.uk


Cynnwys y Cwrs

Mae gradd BA (Anrh) gyda SAC yn fodiwlaidd o ran strwythur, gyda modiwlau yn amrywio o 20 i 40 o gredydau. Llunnir modiwlau sydd werth mwy nag 20 credyd fel bod sylw dyladwy yn cael ei dalu i gydberthynas ac ystod y meysydd cwricwlwm o fewn Cwricwlwm diwygiedig Cymru. Ein nod ydy gallu cynnig y modiwlau hyn drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg, os ydyn nhw ar gael.

Treulir cyfanswm o 120 o ddiwrnodau mewn ysgol. Mae strwythur y dyddiau ymarfer clinigol hyn yn cynnwys 'diwrnod dychwelyd' i'r brifysgol neu i bartneriaeth arweiniol bob wythnos i atgyfnerthu a chydlynu egwyddorion allweddol hinsawdd cydweithrediadol a dysgu sy'n seiliedig ar ymchwil. Mae Ymarfer Clinigol hefyd ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg.


Blwyddyn Un:

Meysydd Dysgu a Phrofiad (I) (30 credyd) 

Bydd y modiwl hwn yn ystyried y gwahanol ddiffiniadau a safbwyntiau damcaniaethol o lythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol a hefyd ystyried pa mor effeithiol ydy gwahanol ddulliau o fynd ati i ddatblygu'r sgiliau hyn o fewn Cwricwlwm newydd Cymru.

Dyfodol Llwyddiannus (I) (40 credyd) 

Bydd y modiwl hwn yn ystyried gwybodaeth cynnwys pwnc perthnasol a gwybodaeth am gynnwys addysgegol o ran addysgu ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu; mathemateg a rhifedd; gwyddoniaeth a thechnoleg; iechyd a llesiant; a'r celfyddydau mynegiannol, celf, cerddoriaeth a dawns yn benodol. Bydd dealltwriaeth ddamcaniaethol o'r modd y mae plant yn datblygu a dysgu a sut i ysgogi, cymell a herio pob dysgwr yn rhan annatod o'r modiwl hwn. 

Ystyried Chwarae a Dysgu Cynnar (20 credyd)  

Bydd y modiwl hwn yn ystyried materion critigol sy’n gysylltiedig â chwarae, a gwerth a phwysigrwydd chwarae i ddysg plant ac i’w datblygiad cyfannol. Caiff darpar athrawon y cyfle i gwblhau cymhwyster Lefel 2 mewn Cynorthwyo mewn Ysgol Coedwig fel cymhwyster opsiynol ychwanegol (yn amodol ar (ffi) cofrestriad ac asesiad darpar athro Agored Cymru) fel rhan o’r modiwl hwn.

Rhagarweiniad i: Datblygiad Plant ac Ymarfer Clinigol (30 credyd)

Bydd y modiwl hwn yn ystyried datblygiad plentyn yn cynnwys datblygiad gwybyddol, cymdeithasol, emosiynol, corfforol a ieithyddol. Mae'n cynnwys 15 diwrnod o ymarfer clinigol mewn ysgolion lle ceir cyfleoedd i gynorthwyo ac ymestyn datblygiad cyfannol plentyn a hynny'n seiliedig ar ganfyddiadau arsylwi.

Blwyddyn Dau:

Meysydd Dysgu a Phrofiad (II) (30 credyd) 

Bydd y modiwl hwn yn dadansoddi effeithioldeb amrediad o ddulliau a ddefnyddir i ddysgu ac addysgu 'Meysydd Dysgu a Phrofiad' o fewn Cwricwlwm Cymru a gwneud hynny yn gritigol. Caiff darpar athrawon gyfle i wneud cysylltiadau perthnasol, ystyrlon o fewn ac ar draws meysydd y cwricwlwm. 

Dyfodol Llwyddiannus (II) (40 credyd) 

Bydd y modiwl hwn yn cadarnhau ac ymestyn gwybodaeth am bwnc a chynnwys addysgegol o ran addysgu ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu; mathemateg a rhifedd; gwyddoniaeth a thechnoleg. Bydd hefyd yn ystyried gwybodaeth berthnasol am bwnc a gwybodaeth am gynnwys addysgegol o ran addysgu'r dyniaethau. Felly, bydd dealltwriaeth ddamcaniaethol o asesu, gwahaniaethu a diwallu anghenion disgyblion yn rhan annatod o'r modiwl hwn. 

Ymchwilio i Addysg Blynyddoedd Cynnar ac Addysg Gynradd (20 credyd) 

Bydd y modiwl hwn yn paratoi darpar athrawon ar gyfer cwblhau astudiaeth annibynnol ym mlwyddyn tri. Bydd y datblygu critigoldeb mewn darllen ac ymchwil gyda'r ffocws ar ddefnyddio ymchwil i ddylanwadu ar unrhyw ddarpariaeth ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol.

Ymarfer Clinigol 1 (30 credyd)

Mae'r modiwl hwn yn digwydd yn bennaf mewn ysgolion lle caiff darpar athrawon y cyfle i bontio'r gagendor rhwng y theori a'r ymarferol ac i ddefnyddio'u sgiliau addysgu yn ddiogel yn y gweithle. Bydd darpar athrawon yn arddangos eu hegin sgiliau a'u hyder i arsylwi, addysgu ac asesu o fewn o leiaf un cyfnod oed a gwneud cynnydd sylweddol tuag at gwrdd â safonau proffesiynol ar gyfer SAC.

Blwyddyn Tri:

Dulliau Byd-Eang a Blaengar o Fynd ati i Ystyried Addysg  (20 credyd) 

Mae'r modiwl hwn yn cynnig cipolwg ar systemau, damcaniaethau a chysyniadau addysgol yn lleol ac ar draws y byd. Bydd yn ystyried gwahanol athroniaethau a diwylliannau o fewn systemau addysgol lleol a rhyngwladol, lleoliadau ac amgylcheddau addysgu. 

Ymarfer Proffesiynol a Llesiant (30 credyd) 

Gyda'r ffocws ar ddatblygu llesiant ar gyfer darpar yrfa ym maes addysgu, mae'r modiwl hwn yn ystyried y galwadau proffesiynol cyfredol sydd ar ymarferwyr ysgolion cynradd heddiw ac yn ystyried sut gallai athrawon beri newid ac ymateb i'r sefyllfaoedd a'r amgylcheddau y maen nhw'n gweithredu ynddyn nhw. 

Prosiect Annibynnol (40 credyd) 

Bydd y Modiwl hwn yn galluogi darpar athrawon i gwblhau prosiect ymchwil annibynnol neu brosiect yn seiliedig ar ymchwiliad i wella a mireinio eu hymarfer clinigol. Bydd yr ymchwil yn digwydd ochr yn ochr ac o fewn ymarfer clinigol darpar athrawon fel y gall effeithio a dylanwadu ar ddysgu ac addysgu. Seilir ffocws yr ymchwil ar ddiwallu anghenion dysgwr/grŵp o ddysgwyr gydag anghenion ychwanegol neu â Saesneg fel iaith ychwanegol. 

Ymarfer Clinigol 2 (30 credyd)  

Mae'r modiwl hwn yn digwydd yn bennaf mewn ysgolion lle caiff darpar athrawon y cyfle i bontio'r gagendor rhwng y theori a'r ymarferol ac i ddefnyddio'u sgiliau addysgu yn ddiogel yn y gweithle. Bydd darpar athrawon yn cael eu rhoi mewn dosbarth sy'n wahanol o ran oed i ddosbarth yn Ymarfer Clinigol 1. Erbyn y diwedd, bydd disgwyl i ddarpar athrawon allu cyflawni lefel berthnasol i ddyfarniad Statws Athro Cymwysedig(SAC) neu ragori ar y lefel honno. 

Dysgu ac Addysgu

Lluniwyd addysgu yn y brifysgol a'r addysgu yn seiliedig yn yr ysgol a chyfleoedd dysgu i ategu ei gilydd er mwyn hybu cynnydd myfyrwyr i'r eithaf. Mae'r dulliau a ddefnyddir yn pwysleisio a hyrwyddo sgiliau datblygiad critigol darpar athrawon, a chydlynu wrth integreiddio ymchwil ac ymchwiliad, ymarfer a theori. Yn y Brifysgol ac yn yr ysgolion, fel ei gilydd, bydd darpar athrawon fel arfer yn cael eu haddysgu gan diwtoriaid a dulliau hunan-gyfeiriedig o ddysgu, gan ddatblygu annibyniaeth a'r gallu i adfyfyrio wrth iddyn nhw symud drwy'r cwrs. Bydd cyfleoedd cyson drwy gydol y cwrs i ddarpar athrawon adolygu eu cynnydd personol gyda'u tiwtoriaid ac ysgwyddo cyfrifoldeb ar gyfer cynllunio a rhoi eu dysg eu hunain ar waith.

Gallai'r dulliau addysgu a ddefnyddir mewn modiwlau yn y brifysgol, ar y campws ac ar-lein, gynnwys darlithoedd, seminarau, gweithdai a thiwtorialau, a'r cyfan yn cael cymorth rhith amgylchedd dysgu Met Caerdydd. Mewn nifer o'r modiwlau, y strategaethau dysgu ac addysgu a ddefnyddir fydd y rhai â'r dystiolaeth ymchwil gryfaf o'r effaith ar ddysgu'r darpar athro a chyflawniad disgyblion e.e. meicroaddysgu, ymarfer clinigol ac adborth, metawybyddiaeth a hunan-reolaeth, addysgu uniongyrchol a dysgu gwrthdro. 


Dysgu ac addysgu yn seiliedig ar ysgol

Yn ystod y flwyddyn gyntaf, mae Ymarfer Clinigol yn cael ei gynnwys o fewn modiwl academaidd ac ni fydd disgwyl i ddarpar athrawon i addysgu’n annibynnol yn ystod y cyfnod hwn. Diben hyn ydy sicrhau model cynyddol o ddatblygiad personol a phroffesiynol.

Yn ystod blwyddyn dau a thri, caiff darpar athrawon gymorth dulliau addysgu mewn tîm yn ogystal ag addysgu'n annibynnol a bydd disgwyl iddyn nhw ysgwyddo cyfrifoldeb cynyddol dros addysgu dosbarth neu ddosbarthiadau, yn annibynnol dros gyfnod parhaus neu sylweddol. Bydd Ymarfer Clinigol yn cynnwys amser cyfeiriedig ar gyfer Ymchwil ac Ymholiad; addysgu annibynnol ac addysgu mewn tîm; a chynllunio, paratoi ac asesu. Hefyd, bydd darpar athrawon yn cael pymtheg o ddyddiau hyfforddi dan arweiniad Ysgolion Arweiniol Partneriaeth/Cynghreiriau. Yn ystod y dyddiau hyfforddi hyn, defnyddir amrywiaeth o ddulliau addysgu a dysgu, gan gynnwys archwilio dogfennaeth ysgol, rowndiau dysgu, deialog adfyfyriol wedi'i chymell gan fideo, teithiau cerdded addysgol; sgyrsiau gyda disgyblion neu athrawon a chraffu ar lyfrau'r ysgol.

Asesu

Mae'r cwrs yn cynnwys amrediad o ddulliau asesu gan gynnwys astudiaethau achos, portffolios, traethodau traddodiadol, posteri, pecynnau gwybodaeth a blogiau sy'n galluogi darpar athrawon i ddatblygu'r wybodaeth a'r sgiliau sy'n berthnasol i broffesiwn athro. Mae dyddiadau cyflwyno pob aseiniad wedi cael eu trefnu ar wahân drwy gydol y flwyddyn er mwyn reoli gwaith darpar athrawon a, lle bo'n briodol, i ganiatáu adborth ffurfiannol. 

Asesir yr holl ddarpar athrawon yn erbyn Safonau SAC a rhaid iddyn nhw basio pob Safon i gyflawni Statws Athro Cymwysedig. Yn ystod Ymarfer Clinigol (lleoliad ysgol) bydd darpar athrawon yn derbyn adborth parhaus, ar lafar ac yn ffurfiannol ysgrifenedig, yn ogystal ag adroddiadau crynodol. Fel rhan o'r cwrs, bydd darpar athrawon yn casglu tystiolaeth sy'n arddangos eu cyrhaeddiad a'u cyflawniad a bydd hyn ar gael ar gyfer Tiwtoriaid Personol / Tiwtoriaid Prifysgol fel y gallan nhw fonitro cynnydd yn gyson. 

O gofio lle mor amlwg a chanolog sydd i lythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol yng nghwricwlwm Cymru, bydd pob darpar athro yn cwblhau archwiliadau llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol drwy gydol y rhaglenni. Yn bennaf, bydd hyn o help i fyfyrwyr nodi eu cryfderau a meysydd i'w datblygu ac i geisio astudio i lenwi'r bylchau yn eu gwybodaeth a'u sgiliau. Bydd darpar athrawon a fyddai'n elwa o gymorth ychwanegol yn derbyn sesiynau cymorth ychwanegol.


Cyflogadwyedd a Gyrfaoedd

O gwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus, argymhellir i'r Cyngor Gweithlu Addysg bod y darpar athro wedi ennill Statws Athro Cymwysedig (SAC) a hynny yn cynnig y cyfleoedd ar gyfer cyflogadwyedd ym maes addysg gynradd. Gall graddedigion gael gwaith mewn ysgolion ar draws Cymru, y DU a thramor.

Lluniwyd y cwrs i gynnig ystod o eang o brofiadau a fydd yn rhoi wybodaeth, y sgiliau a'r hyder i'n graddedigion i'w paratoi'n dda ar gyfer byd gwaith. Mae Ysgolion Partneriaeth Arweiniol Partneriaeth Caerdydd wedi cael eu henwi fel darparwyr blaengar addysg a datblygiad proffesiynol yng Nghymru ac felly, mae'r cyfle i ddysgu ganddyn nhw ac o fewn eu hamgylcheddau eu hunain yn golygu y dylai'r dilyniant o fod yn ddarpar athro i fod yn Athro Newydd Gymhwyso fod yn ddi-dor.

Am ragor o wybodaeth ewch i wefan Darganfod Addysgu Cymru.

Beth alla i ddisgwyl ei ennill pan fydda i'n dechrau ar fy ngwaith addysgu

Ceir y wybodaeth ar wefan yr Asiantaeth Hyfforddiant a Datblygiad ar gyfer Ysgolion

Astudiaeth Bellach

Mae rhaglen BA (Anrh) Addysg Gynradd gyda SAC yn sylfaen ragorol ar gyfer astudiaeth bellach naill ai’n llawn amser neu’n rhan amser ar gyfer cymhwyster MA/PgD/PgC Gradd Meistr mewn Addysg (gyda llwybrau)  ym Met Caerdydd.

Gofynion Mynediad a Sut i Wneud Cais

Nid yw ceisiadau am BA (Hons) Primary Education with QTS ac Addysg Gynradd gyda Statws Athro Cymwysedig yn cael eu hystyried mwyach ar gyfer Medi 2021.

Mae mesurau amgen yn eu lle er mwyn sicrhau bod yr ymgeisydd yn gallu cwrdd ag anghenion ymgeiswyr drwy gyfweliadau ar-lein, am brofiad, profion mynediad a phrofion cywerthedd, yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru. Cysylltwch â’n tîm derbyniadau os bydd gennych unrhyw gwestiwn o ran gwneud cais.

Bydd gofyn i bob ymgeisydd wneud cais drwy UCAS drwy gwblhau ffurflen gais ar-lein. Yna asesir yr holl geisiadau yn erbyn meini prawf mynediad y rhaglen berthnasol ac yna eu gwahodd i fynychu cyfweliad ar sail y wybodaeth hon.

Dylai pob ymgeisydd:

  • Feddu'r ddawn, y gallu a'r gwytnwch i gwrdd â deilliannau gofynnol SAC erbyn diwedd eu rhaglen AGA;
  • Meddu ar y priodweddau personol a deallus i fod yn ymarferwyr rhagorol; 

  •  Darllen yn effeithiol ac yn gallu cyfathrebu'n glir a chywir ar lafar ac yn ysgrifenedig yn Saesneg a /neu yn Gymraeg; 

  • Heb fod wedi cyflawni troseddau a allai eu rhwystro rhag gweithio gyda phlant neu bobl ifanc agored i niwed neu fel ymarferydd addysgol; a heb fod wedi cael eu gwahardd rhag addysgu neu weithio gyda dysgwyr (mae gofyn i ddarpar athrawon drefnu am Ddatgeliad Pellach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)); 

  •  Arddangos yn ystod cyfweliad bod ganddyn nhw sgiliau gweithredol personol perthnasol mewn llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol sy'n berthnasol yng nghyd-destun dysgu ac addysgu proffesiynol; 

  •  Arddangos eu haddasrwydd i ddatblygu'n athrawon;

  • Cwrdd â gofynion Safonau Iechyd Addysg Llywodraeth Cymru (2004)*, yn cadarnhau eu hiechyd a'u gallu corfforol i ymgymryd â chyfrifoldebau athro. 

Yn ogystal â'r gofynion uchod, dylai fod gan ymgeiswyr broffil academaidd cadarn, gan gynnwys: 

Pump TGAU gan gynnwys: 

  • TGAU Gradd B/Gradd 5** neu uwch mewn Llenyddiaeth Saesneg, Saesneg Iaith, Cymraeg Iaith (iaith gyntaf) neu Lenyddiaeth Gymraeg

Os cyflawnwyd gradd gyfwerth â gradd B/gradd 5** naill ai yn Llenyddiaeth Saesneg neu Lenyddiaeth Gymraeg, rhaid cyflawni lleiafswm o radd C/gradd 4** yn yr arholiad TGAU cyfatebol mewn Saesneg neu Gymraeg (Mamiaith).

**ar gyfer ymgeiswyr sydd yn dal y TGAU diwygiedig newydd yn Lloegr

  • TGAU Mathemateg Gradd B/Gradd 5
  • TGAU Gwyddoniaeth (neu safon gyfwerth) ar Radd C/Gradd 4
    Mae'n ofynnol i fyfyrwyr sy'n astudio i addysgu mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg feddu ar TGAU gradd C neu uwch mewn Cymraeg (Mamiaith).

Dylai fod gan ymgeiswyr hefyd un o’r canlynol  (neu gyfwerth):

  • 112 o bwyntiau o ddau Lefel A o leiaf i gynnwys graddau CC; Bagloriaeth Cymru – Tystysgrif Her Uwch Sgiliau a ystyrir yn drydydd pwnc     
  • RQF BTEC Diploma Estynedig Cenedlaethol /Diploma Estynedig Technegol DMM
  • 112 o bwyntiau o 'Irish Leavers Certificate' ar lefel 'Highers' i gynnwys 2 x H2 gradd. Dim ond gydag isafswm gradd H4 caiff pynciau lefel 'Higher' eu hystyried
  •  112 o bwyntiau o ddau 'Scottish Advanced Highers' i gynnwys graddau DD
  •  112 o bwyntiau o Ddiploma Mynediad i Addysg Uwch
  •  Ystyrir Diploma NCFE CACHE os yw'n gyfwerth ag o leiaf 2 Lefel. Bydd y cynnig yn ddibynnol ar y wir Ddiploma CACHE a astudiwyd.

*Ar gyfer ymgeiswyr o Gymru sy’n sefyll arholiad diwygiedig TGAU mewn Mathemateg, byddwn yn derbyn naill ai TGAU Mathemateg neu Fathemateg – Rhifedd.

Os ydych yn astudio cyfuniadau o'r uchod neu os nad ydy'ch cymhwyster wedi'i restru, naill ai cysylltwch â'r Adran Dderbyniadau neu fynd iUCAS Course Search i gael y gofynion mynediad. Gellir cael gwybodaeth bellach am ein gofynion mynediad, gan gynnwys cymwysterau o'r UE drwy glicio yma/ here. 

Os ydych yn fyfyriwr hŷn ac yn meddu ar gymwysterau neu brofiad amgen yr hoffech i ni eu hystyried, cysylltwch ag aelod o'r staff. 

Gofynion Mynediad Ychwanegol

Ailsefyll TGAU: 

Y graddau ddymunir mewn cais ydy graddau B TGAU (Gradd 5 ar gyfer ymgeiswyr sy'n meddu ar bynciau TGAU diwygiedig yn Lloegr) mewn Iaith/Llenyddiaeth Saesneg a Mathemateg, fodd bynnag, efallai gallai ymgeiswyr sydd wedi cael gradd C neu uwch mewn Iaith Saesneg a Mathemateg (neu gyfwerth) drefnu i ail-sefyll yr arholiadau TGAU(neu gyfwerth derbyniol) er mwyn ennill gradd B a dylid nodi hyn ar y ffurflen gais. Bydd hefyd angen i chi gynnig tystiolaeth eich bod wedi cyflawni gradd C/gradd 4 (neu gyfwerth). O lwyddo mewn cyfweliad, cynigir lle i ymgeiswyr ar yr amod eu bod yn cyflawni gradd B.  Os bydd galw mawr am y cwrs, yr ymgeiswyr hynny sydd eisoes yn meddu ar ofynion perthnasol TGAU fydd yn cael y blaenoriaeth.

Cyfwerth â TGAU:

Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn cynnig arholiad cywerthedd mewnol / in-house equivalency exam ar gyfer TGAU Iaith Saesneg a Mathemateg i gyflawni gofynion Gradd B. Cynigir arholiad cywerthedd i'r rhai hynny sydd â gradd D mewn Gwyddoniaeth. Cynigir arholiad Cymraeg hefyd i'r rhai hynny sydd wedi astudio Cymraeg fel ail iaith fel y gallan nhw gael eu hystyried ar gyfer y llwybr cyfrwng Cymraeg.. 

Rydyn ni hefyd yn derbyn cymwysterau cyfwerth ar gyfer gofynion TGAU, sy'n cynnwys  arholiadau a ymgymerir gyda Profi Cywerthedd, Prifysgol De Cymru a'r Coleg Estyn Cenedlaethol.

Cliciwch yma-click here i weld gofynion Met Caerdydd, neu i ddarllen y ddogfen hon yn Gymraeg, cliciwch yma.

Profiad Gwaith:

Gofynnir i ymgeiswyr gyflwyno tystiolaeth o ryw fath o brofiad gwaith mewn ysgol brif ffrwd ar draws yr ystod oed cynradd ond rydyn ni'n deall na fydd hyn efallai yn bosibl oherwydd y sefyllfa gyfredol sydd ohoni. Gofynnwn i ymgeiswyr gyflwyno unrhyw dystiolaeth sydd ganddyn nhw drwy eu cais UCAS a'u datganiad personol.

Datganiad Personol:

Datganiad personol cryf yn nodi potensial yr ymgeisydd i ymgymryd â Rhaglen BA (Anrh) Addysg Gynradd gyda SAC. Dylai'r datganiad ddangos ehangder gwybodaeth a phrofiad bersonol a gafwyd ym maes addysg gynradd hyd yn hyn a photensial hyn i wneud yr ymgeisydd yn athro cynradd/athrawes gynradd effeithiol. Yn y datganiad personol, dylid hefyd gyfeirio at brofiadau personol/diddordebau allgyrsiol a allai gyfrannu at gyfoethogi at ddysg plant. Mae Saesneg/Cymraeg ysgrifenedig uchel ei safon yn hanfodol .

Geirda Academaidd:

Dylai'r geirda ddod o leoliad addysg mwyaf diweddar yr ymgeisydd, gan y rhai sydd orau i gynnig sylwadau ar alluoedd academaidd a galwedigaethol yr ymgeisydd. Ar gyfer yr ymgeiswyr hynny y mae eu geirda dros bum mlynedd oed, mae angen geirda gan weithiwr proffesiynol byd addysg mwy diweddar megis prifathro ysgol. Mae'n bwysig bod y canolwr hwn yn gallu cynnig barn wrthrychol a deallus ar sail gwybodaeth arwyddocaol am yr ymgeisydd yng nghyd-destun addysgol. Cysylltwch â'r Adran Dderbyniadau os bydd gennych unrhyw ymholiadau am eich geirda.

Cofnodion Troseddol/Gwiriadau'r Gwasanaeth Gwahardd a Datgelu:

Mae mynediad hefyd yn amodol ar wiriad troseddol boddhaol. Ceir rhagor o fanylion am weithdrefnau cofnodion troseddol ar www.cardiffmet.ac.uk/dbs

Ymgeiswyr Rhyngwladol:

Bydd angen i fyfyrwyr heb Saesneg fel mamiaith gynnig tystiolaeth o ruglder i isafswm sgôr IELTS cyffredinol o 7.5 heb unrhyw is-sgôr yn is na 7.0 (neu gymhwyster cyfwerth). Am fanylion llawn ar sut i wneud cais am gymwysterau Saesneg, ewch i'r tudalennau Rhyngwladol ar y wefan hon.

Myfyrwyr Hŷn

Ystyrir unrhywun sydd dros 21 oed nad aeth i brifysgol neu i goleg ar ôl gadael yr ysgol yn fyfyriwr hŷn. Mae Met Caerdydd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hŷn a cheir cyngor a gwybodaeth bellach yma.

Gwybodaeth ar gyfer Mynchu Cyfweliad

Ar hyn o bryd, cynhelir cyfweliadau ar-lein drwy MS Teams. Hysbysir chi am ddyddiad eich cyfweliad drwy UCAS a thrwy e-bost gan Met Caerdydd. Byddwch wedyn yn derbyn gwahoddiad MS Teams gydag amser penodol eich cyfweliad, oddi wrth tîm y rhaglen. Bydd cyfweliadau yn para tua 30 munud.

Mae gofyn i ymgeiswyr nodi yn eu datganiad personol a hysbysu'r Adran Dderbyniadau cyn gynted â phosibl a fydden nhw'n dymuno cynnal eu cyfweliad drwy gyfrwng y Gymraeg.

Profion - Llythrennedd, Rhifedd a Chymhwysedd Digidol

Bydd y Profion Sgiliau sydd, fel arfer, yn cael eu cynnal fel rhan o ddiwrnod eich cyfweliad, nawr yn cael eu cynnal ar ddechrau'ch cwrs fel archwiliad o ble fydd angen cymorth ychwanegol arnoch. Dydy'r profion hyn bellach ddim yn rhan o'r meini prawf dethol fodd bynnag, argymhellir eich bod yn dal i ymgymryd â'r adolygu perthnasol o'r wybodaeth ar y dolenni cyswllt isod:


Prawf llythrennedd:

Bydd y prawf yn canolbwyntio ar sillafu, atalnodi, gramadeg a deall. Bydd y prawf hwn yn cael ei gwblhau'n electronig ar ddiwrnod y cyfweliad ond gellir argraffu copi sampl o'r papur yma

Bydd y prawf hwn yn 30 munud o hyd. 

Paratoi:·   

  • Gweithio drwy'r papur sampl a ddarperir.
  • Edrych ar brofion sgiliau llythrennedd cyfredol Lloegr, a welir ar wefan DfE, gan fod y profion yn debyg, ac y gallen nhw fod yn adnodd cyfeirio defnyddiol. 

Prawf Rhifedd:

Prawf Cymhwysedd Digidol:

Bydd ymgeiswyr yn cwblhau tasg 30 munud a luniwyd i ddangos eu sgiliau digidol personol ar lefel sylfaenol. Diben hyn ydy oherwydd bod angen i athrawon yng Nghymru gadarnhau a datblygu sgiliau digidol y disgyblion y maen nhw'n eu haddysgu yn ogystal â defnyddio technoleg ddigidol i weithredu eu dyletswyddau proffesiynol eu hunain.

Bydd y prawf yn golygu defnyddio sgiliau sylfaenol yn Microsoft Office, gan gynnwys trin addysg yn Word, Excel a PowerPoint.

Argymhellir y dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddyn nhw'r galluoedd sylfaenol sydd eu hangen er enghraifft i newid maint ffont, defnyddio themâu ar gyfer cyflwyniadau PowerPoint defnyddio fformiwlâu syml Excel megis SUM ac AVERAGE.

Gwybodaeth yehwanegol i ymgeiswyr cyfrwng Cymraeg

Yn ystod y weithdrefn gyfweld, cewch eich asesu ar eich gallu yn Saesneg ac yn Gymraeg:

Profion Llythrennedd

Bydd pob ymgeisydd yn cwblhau'r prawf llythrennedd cyntaf yn Saesneg. Fodd bynnag, bydd ymgeiswyr cyfwng Cymraeg hefyd yn cwblhau prawf sgiliau llythrennedd yn Gymraeg (15 munud), sy'n gofyn i ymgeiswyr arddangos eu dealltwriaeth o ramadeg Cymraeg. I baratoi ar gyfer y prawf hwn, rydyn ni'n argymell eich bod yn edrych ar y papur sampl a ddarperir yma a chyfeirio at y testun defnyddiol canlynol: Breese, N., Clement, B. (2011) Seren Iaith. Ceredigion: Atebol Cyfyngedig. ISBN 978-1-907004-85-8 (£5.99). Bydd yr adrannau canlynol yn ddefnyddiol iawn: Chwilio'r gwallau 1 tud.6-105 a tud.166-197

Profion Rhifedd

Darperir fersiynau Cymraeg a Saesneg o'r papur cwestiynau. Gall ymgeiswyr ddewis ateb yn y naill iaith neu'r llall.

Tasgau Cyfweliad
A dibynnu ar gyfanswm yr ymgeiswyr cyfrwng Cymraeg ar gyfer unrhyw ddyddiad cyfweld, gellir cynnal pob tasg cyfweliad drwy gyfrwng y Gymraeg.

Cysylltu â Ni

Ar gyfer ymholiadau cyffredinol cysylltwch â'r Tîm Derbyniadau ar 029 2041 6044, e-bost: askadmissions@cardiffmet.ac.uk  neu trydarwch @CMetAdmissions[GA1] .

Ar gyfer ymholiadau penodol am gwrs, cysylltwch â'r Cyfarwyddwr Rhaglen,

Jordan Allers:
Ebost: jallers@cardiffmet.ac.uk

Ar gyfer ymholiadau penodol am gwrs Cymraeg, cysylltwch â Bethan Rowlands:
Ebost: browlands2@cardiffmet.ac.uk

Gwybodaeth Cwrs Allweddol

Côd UCAS:

Addysg Gynradd gyda Statws Athro Cymwysedig: X121
Primary Education with Qualified Teacher Status: X120

Lleoliad Astudio: 
Cyncoed Campus

Ysgol:
Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd

Hyd y cwrs:
Cwrs tair blynedd llawn amser


Accreditation
Accreditation
Astudio Trwy'r Gymraeg
Dewch i gwrdd â’r tîm: Bethan Rowlands

Yn flaenorol yn athrawes ysgol gynradd, mae Bethan Rowlands yn dweud wrthym am ysbrydoli myfyrwyr a'i hangerdd i addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg.

Paratoi i'r ystafell ddosbarth

Cymerwch gip ar yr hyn y mae ein myfyrwyr blwyddyn gyntaf yn ei wneud mewn darlithoedd cyn mynd ar leoliadau ysgol.

Partneriaeth Caerdydd ar gyfer Addysg Gychwynnol i Athrawon

Astudio Addysg Gynradd ym Met Caerdydd gyda'r Bartneriaeth Caerdydd ar gyfer Addysg Gychwynnol i Athrawon. I ddarganfod mwy.

Blog
Astudio Addysg Gynradd gyda SAC drwy gyfrwng y Gymraeg: Fy mhrofiad mor belled ar y cwrs.

Mae Taome yn dweud wrthym am ei phrofiadau o astudio'r cwrs Addysg Gynradd drwy gyfrwng y Gymraeg - a'i phrofiadau dysgu yn yr ysgol. I ddarllen mwy.

Darllen mwy.

Chwaraeon Perfformiad

Mae Met Caerdydd yn darparu ac yn rheoli amgylchedd Cynllun Gyrfa Ddeuol achrededig TASS sy’n caniatáu i fyfyrwyr gyflawni eu potensial academaidd ochr yn ochr â hyfforddi, chwarae a pherfformio yn eu dewis chwaraeon.


Gyda phrofiad personol o gystadlu ar y llwyfan rhyngwladol ac ymgymryd ag ymchwil sy’n arwain y byd, mae ein staff academaidd a Chwaraeon Perfformiad yn creu amgylchedd cwbl unigryw o ragoriaeth chwaraeon. Mae’r model integredig yn golygu y gallwch fod yn sicr bod ein rhaglenni’n cael eu llywio gan y gwasanaethau hyfforddi a chymorth diweddaraf i gyd wedi’u cynllunio i’ch datblygu fel athletwwr. Ynghyd â’n partneriaethau allweddol gydag amrywiaeth o Gyrff Llywodraethu Cenedlaethol, mae ein rhaglenni’n gweithio ochr yn ochr â llwybrau talent cydnabyddedig. Darllen mwy.

Gellir dod o hyd i delerau ac amodau llawn mewn perthynas â derbyn cynnig i astudio ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd trwy ymweld â www.metcaerdydd.ac.uk/terms