Cardiff School of Education & Social Policy>Courses>Astudiaethau Addysg Gynradd (Dwyieithog) – Gradd BA (Anrh)

Astudiaethau Addysg Gynradd (Dwyieithog) – Gradd BA (Anrh)

View this page in English

Bydd y graddau BA Astudiaethau Addysg Gynradd yn rhoi dealltwriaeth dda i chi o faterion hanfodol mewn addysg ar draws ystod o gyd-destunau ac amgylcheddau. Mae gan y cwrs ffocws penodol ar y sector cynradd a bydd yn llwyfan delfrydol i'r rheini sydd â diddordeb mewn gyrfaoedd mewn addysg gynradd. Yn ogystal, mae'r radd hon yn cefnogi'r rhai sydd â diddordeb mewn gweithio ym meysydd ehangach addysg, iechyd a gwaith cymdeithasol.

Mae dau lwybr astudio ar gael:  

  • D93T: BA (Hons) Primary Education Studies 
  • W93T: BA (Anrh) Astudiaethau Addysg Gynradd (Dwyieithog) / BA (Hons) Primary Education Studies (Bilingual)* 

Bydd cyfleoedd rheolaidd ar gyfer profiad gwaith mewn ysgolion gan alluogi myfyrwyr i fod yn rhan o arfer cyfredol gan ddefnyddio'r technolegau a'r strategaethau dysgu diweddaraf. Mae gan ddinas Caerdydd a'r ardaloedd cyfagos ystod amrywiol o ysgolion a fydd yn caniatáu i chi weld arfer sy'n arwain y sector ar draws pob maes o'r cyfnod cynradd. 

* Mae'r radd ddwyieithog yn canolbwyntio ar ddatblygu eich dealltwriaeth academaidd ac ymarferol o addysg gynradd mewn cyd-destun dwyieithog. Tra bydd peth o'r rhaglen yn cael ei darparu trwy gyfrwng y Saesneg, mae'r rhan fwyaf o'r cwrs ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg, gan gynnwys cefnogaeth tiwtor personol sy'n siarad Cymraeg. Gellir cyflwyno asesiadau yn Saesneg neu yn Gymraeg a gellir teilwra'r cynnwys Cymraeg i weddu i'ch gallu iaith. Mae'r cwrs wedi'i gynllunio i ateb y galw cynyddol am raddedigion sydd â galluoedd a chymwysterau dwyieithog. 

Er mwyn graddio gyda'r wobr ddwyieithog, rhaid i fyfyrwyr gymryd o leiaf 80 credyd ym mhob blwyddyn trwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd myfyrwyr sy'n dilyn y llwybr hwn hefyd yn gymwys ar gyfer Ysgoloriaeth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol sydd werth hyd at £3000 dros y tair blynedd. 

Sylwch:  Nid yw'r cyrsiau israddedig hyn yn dyfarnu 'Statws Athro Cymwysedig' (SAC). Fodd bynnag, mae'r rhaglen yn paratoi myfyrwyr ar gyfer amryw o lwybrau hyfforddiant proffesiynol gan gynnwys llwybrau Ysgol Uniongyrchol a TAR tuag at SAC a mathau eraill o astudio ôl-raddedig. 

Cyrsiau cysylltiedig:
BA (Anrh) Addysg Gynradd (gyda Statws Athro Cymwysedig)
BA (Anrh) Addysg Blynyddoedd Cynnar ac Ymarfer Proffesiynol (gydag SYBC)

Mae Gwybodaeth gwrs ar y dudalen hon yn ymwneud â mynediad yn 2021.

Cynnwys y Cwrs

Mae'r holl fodiwlau sydd wedi'u marcio * hefyd ar gael i'w hastudio trwy gyfrwng y Gymraeg.  

Modiwlau'r radd Astudiaethau Addysg Gynradd yw:

Blwyddyn Un:

Astudio Addysg [1]: Systemau Esblygol (20 credyd) *
Mae'r modiwl hwn yn rhoi trosolwg o'r datblygiadau hanesyddol ym maes addysg ers 1870, i helpu i hwyluso dealltwriaeth o'r system gyfoes. Ar ben hynny, mae'r modiwl yn archwilio'r perthnasoedd rhwng addysg, cymdeithas, gwleidyddiaeth a'r unigolyn. Yn olaf, nod y modiwl yw datblygu sgiliau trosglwyddadwy allweddol sy'n ymwneud ag astudio ac ysgrifennu academaidd i'ch cefnogi chi wrth i chi ddechrau astudio ar lefel Addysg Uwch.

Astudio Addysg [2]: Dadleuon a Phynciau Llosg (20 credyd) *
Mae'r modiwl hwn yn adeiladu ar 'Astudio Addysg [1]:Systemau Esblygol. Nod y modiwl yw datblygu gwybodaeth myfyrwyr am ddadleuon a phynciau llosg cyfoes, er mwyn dyfnhau'ch dealltwriaeth o'r themâu a'r llinynnau allweddol sy'n nodweddu maes astudiaethau addysg. At hynny, mae'r modiwl yn tynnu sylw at natur gylchol materion allweddol, ac yn myfyrio ar yr esboniadau sylfaenol ar gyfer dyfalbarhad rhai patrymau. 

Meysydd Dysgu a Phrofiad (I) Rhan 1 (20 credyd) *
Bydd y modiwl hwn yn archwilio polisi ac arfer cyfredol sy'n gysylltiedig â'r meysydd blaenoriaeth allweddol mewn addysg gynradd. Yn benodol, bydd y modiwl hwn yn amlinellu gwahanol ddiffiniadau a safbwyntiau damcaniaethol llythrennedd a rhifedd. Bydd hefyd arddangosiad o wahanol ddulliau o addysgu llythrennedd a rhifedd mewn addysg gynradd. 

Meysydd Dysgu a Phrofiad (I) Rhan 2 (20 credyd) *
Mae'r modiwl hwn yn adeiladu ar 'Meysydd Dysgu a Phrofiad (I) Rhan 1' i archwilio gwahanol safbwyntiau damcaniaethol llythrennedd digidol. At hynny, bydd y modiwl hwn yn cymharu gwahanol ddulliau o ymgorffori llythrennedd digidol o fewn addysgu a dysgu. Yn olaf, bydd y modiwl hwn yn cynnwys lleoliad gorfodol, a fydd yn darparu enghreifftiau ymarferol o ddulliau trawsgwricwlaidd a/neu greadigol o ddysgu o brofiad lleoliad. 

Addysg Plentyndod: Dysgu ac Addysgu (20 credyd) *
Bydd y modiwl hwn yn datblygu eich gwybodaeth a'ch dealltwriaeth o natur gymhleth addysg plant. Ar ben hynny, bydd yn archwilio ystod o ddulliau pedagogaidd allweddol sy'n ymwneud ag addysg plant yn y DU ac yn archwilio tystiolaeth academaidd sy'n ymwneud ag 'effeithiolrwydd' addysgu ac addysgwyr. 

Dysgu Cynnar (20 credyd) *

Bydd y modiwl hwn yn nodi ystod o egwyddorion a dulliau dysgu cynnar gan dynnu ar arfer gorau. Ar ben hynny, bydd y modiwl hwn yn arddangos gwybodaeth a dealltwriaeth o'r defnydd o gyd-destunau dilys, bywyd go iawn ar gyfer chwarae a dysgu gan dynnu ar bolisi ac ymchwil wrth ddeall safbwyntiau damcaniaethol o gaffael iaith a datblygiad mathemategol cynnar.


Blwyddyn Dau:

Datblygu eich sgiliau Ymchwil (40 credyd) *
Nod y modiwl hwn yw rhoi dealltwriaeth i chi o gysyniadau allweddol sy'n ymwneud ag ymchwil academaidd a'r broses ymchwil fel y bydd gennych y wybodaeth ofynnol i'ch galluogi i gynnal y prosiect ymchwil empeiraidd estynedig yn eich blwyddyn olaf. Bydd y modiwl yn archwilio ystod o fethodolegau, offer ymchwil arloesol a ffynonellau data. Yn ogystal, bydd y modiwl yn archwilio materion critigol wrth ymgymryd ag ymchwil gyda phlant gan gynnwys materion moesegol a chydsyniad/caniatâd gwybodus. 

Addysg a Chydraddoldeb (20 credyd) *
Bydd y modiwl hwn yn rhoi dealltwriaeth feirniadol i chi o ymchwil ac ymarfer cyfoes ym maes addysg a chydraddoldeb. Byddwch yn archwilio damcaniaethau a chysyniadau allweddol sy'n ymwneud ag addysg a chydraddoldeb (e.e. rhyw, SIY, bwlio, plant sy'n derbyn gofal) ac yn cysylltu'r rhain ag enghreifftiau perthnasol. 

Meysydd Dysgu a Phrofiad (II) Rhan 1 (20 credyd) *
Bydd y modiwl hwn yn eich arfogi â gwybodaeth, cysyniadau a sgiliau perthnasol sy'n ymwneud ag addysgu a dysgu'r celfyddydau mynegiadol, iechyd a lles. At hynny, bydd y modiwl yn darparu cyfleoedd i ddatblygu'r sgiliau ymarferol sydd eu hangen i gynllunio dysgu rhyngddisgyblaethol ac amlddisgyblaethol ar draws y meysydd dysgu. 

Meysydd Dysgu a Phrofiad (II) Rhan 2 (20 credyd) *
Mae'r modiwl hwn yn adeiladu ar 'Meysydd Dysgu a Phrofiad (II) Rhan 1' i'ch arfogi â gwybodaeth, cysyniadau a sgiliau perthnasol sy'n ymwneud ag addysgu a dysgu'r dyniaethau, gwyddoniaeth a thechnoleg. Ar ben hynny, bydd yn darparu cyfleoedd i ddatblygu dysgu a chysylltiadau trawsgwricwlaidd o fewn a rhwng meysydd dysgu a phrofiad. Yn olaf, bydd y modiwl hwn yn cynnwys lleoliad gorfodol, a fydd yn darparu enghreifftiau ymarferol o ddulliau trawsgwricwlaidd a/neu greadigol o ddysgu.

Dulliau Cymunedol a Chyfannol mewn Cyd-destunau Addysg Gynradd (20 credyd) *
Bydd y modiwl hwn yn ymchwilio i safbwyntiau cymdeithasegol ar y perthnasoedd rhwng addysg a theuluoedd, cymunedau a chymdeithas. Yn ogystal, byddwch yn archwilio rôl partneriaethau ag asiantaethau allanol mewn addysg gynradd a thu hwnt ac yn archwilio tensiynau allweddol rhwng polisi ac arfer sy'n ymwneud â chydweithio rhwng gwahanol asiantaethau.


Blwyddyn Tri:

Dulliau Amgen mewn Addysg (20 credyd) *
Bydd y modiwl hwn yn datblygu eich dealltwriaeth feirniadol o ystod o ddulliau amgen o fewn addysg, gan eu harchwilio o ystod o safbwyntiau gan gynnwys safbwyntiau gwleidyddol, athronyddol a rhyngwladol. Bydd yn rhoi mewnwelediad beirniadol i ystod o arferion addysgeg a'u hegwyddorion a'u hathroniaethau sylfaenol. At hynny, bydd cysyniadau allweddol yn cael eu cymhwyso'n ymarferol (e.e. creadigrwydd, arloesedd) ac egwyddorion dulliau amgen.


Addysg Fyd-eang a Chymharol (20 credyd) *
Bydd y modiwl hwn yn eich galluogi i gymhwyso gwybodaeth a syntheseiddio syniadau y deuir ar eu traws mewn amrywiaeth o enghreifftiau cymharol, materion o bwys a lleoliadau i addysg fyd-eang. Bydd y modiwl yn eich ymdrochi mewn dadleuon a phynciau llosg o safbwyntiau gwrthgyferbyniol ac yn nodi cysyniadau newydd posibl mewn perthynas ag Addysg Gymharol. Ar ben hynny, byddwch yn datblygu dealltwriaeth feirniadol a systematig o ddamcaniaethau a chysyniadau sefydledig mewn perthynas ag Addysg Gymharol mewn cyd-destun globaleiddio.

Ymarfer Proffesiynol a Lles (20 credyd) *
Bydd y modiwl hwn yn archwilio'n feirniadol y straen a'r gofynion cyfoes sy'n wynebu gweithwyr proffesiynol yn y sector addysg gynradd ac yn archwilio strategaethau ar gyfer delio â nhw. Fel rhan o'r modiwl, byddwch yn datblygu gwybodaeth fanwl am broffesiynoldeb a safonau proffesiynol o fewn ystod o gyd-destunau mewn addysg gynradd. 

Dyfodol Addysg (20 credyd) *
Bydd y modiwl hwn yn beirniadu materion cyfoes a materion sy'n dod i'r amlwg o fewn addysg a'r berthynas rhwng addysg a materion neu bolisïau gwleidyddol, economaidd, cymdeithasol a thechnolegol eraill. Byddwch yn archwilio mentrau cyfoes a rhai sy'n dod i'r amlwg yn y DU a sectorau addysg ehangach ac yn dangos gallu i gyfathrebu gwahanol safbwyntiau yn effeithiol.

Modiwlau Craidd:

Prosiect Annibynnol (40 credyd) *
Nod y modiwl hwn yw i fyfyrwyr gwblhau darn annibynnol o ymchwil. Dylai myfyrwyr ddatblygu mwy o annibyniaeth yn eu hymagwedd tuag at ymchwil, gwella eu gallu i feirniadu a syntheseiddio ymchwil eraill, gwella eu galluoedd dadansoddol a chyflwyniadol, ennill profiad rheoli amser a chynllunio prosiect ac ehangu eu galluoedd myfyriol.

Neu

Dysgu Cymhwysol yn y Gwaith (40 credyd) *
Mae'r modiwl dysgu hwn wedi'i seilio ar waith wedi'i negodi ac yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ddatblygu eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth feirniadol mewn maes o'u dewis o fewn y maes polisi a ddewiswyd. Mae hefyd yn rhoi cyfle i dynnu ar wybodaeth a dealltwriaeth a gafwyd trwy gydol y rhaglen, ac yn benodol i ddatblygu a chymhwyso sgiliau ymchwilio.

Dysgu ac Addysgu

Rydym yn mabwysiadu dulliau addysgu arloesol a gafaelgar sydd wedi'u cynllunio i ddarparu ar gyfer ystod o anghenion dysgu. Mae hyn yn cynnwys: gweithdai; seminarau; seminarau ymchwil; darlithoedd; amgylcheddau dysgu rhithwir; dyddiau cwrdd i ffwrdd; lleoliadau yn y gwaith; teithiau maes; ac ymweliadau. Mae pob myfyriwr yn cael profiadau dysgu dan do ac awyr agored trwy dreulio amser mewn ystafelloedd dosbarth a lleoliadau awyr agored amrywiol gan gynnwys canolfan dysgu awyr agored y Brifysgol. Darperir cefnogaeth fugeiliol a thiwtorial sy'n plethu i ddarpariaeth y cwrs.

Mae dulliau dysgu ac addysgu yn pwysleisio ac yn hwyluso datblygiad eich rhesymu beirniadol, ac yn annog integreiddio theori ac ymarfer. Trwy gydol eich rhaglen, byddwch yn profi dysgu dan arweiniad tiwtor a dulliau dysgu hunan-gyfeiriedig, gan gynyddu annibyniaeth a myfyrio a'ch annog i ddatblygu agwedd gadarnhaol tuag at ddysgu gydol oes. 

Mae ein dulliau addysgu a dysgu yn ymgorffori sgiliau 'EDGE' Met Caerdydd (Moesegol, Byd-eang, Digidol ac Entrepreneuraidd) a bydd gennych chi'r gallu i ddangos y priodoleddau graddedig a ddisgwylir gennych mewn byd gwaith cynyddol gystadleuol. Ein nod yw eich helpu chi i ddatblygu'n weithwyr proffesiynol myfyriol ac ysgolheigion beirniadol.

Cwrdd â'r Tîm

Kieran Hodgkin

Nick Young

Dyddgu Hywel

Asesu

Rydym wedi ymrwymo i arferion asesu arloesol sy'n cyd-fynd â chanlyniadau dysgu a nodwyd ar gyfer eich modiwl a'ch gradd, a defnyddir amrywiaeth eang o ddulliau a thechnegau i asesu a hwyluso dysgu ein myfyrwyr. Mae asesiadau'n cynnwys aseiniadau ymarferol a wnaed yn ystod lleoliadau gwaith; prosiectau gwaith grŵp creadigol; gwaith ysgrifenedig; cyflwyniadau poster; portffolios; cyflwyniadau seminar a senarios chwarae rôl. Mae'r cwrs hefyd yn defnyddio llwyfannau ar-lein fel blogiau, fforymau a chynadledda fideo fel offer asesu ac i wella dysgu ymhellach. Mae myfyrwyr yn derbyn cefnogaeth ar gyfer asesiadau trwy gydol y cwrs, er enghraifft cefnogaeth academaidd gan diwtoriaid a'r Gwasanaethau Llyfrgell a Gwybodaeth, a defnyddir strategaethau asesu gan gymheiriaid yn y dosbarth i ennyn diddordeb myfyrwyr yn eu dysgu.

Cyflogadwyedd a Gyrfaoedd

Bydd y cwrs yn meithrin ystod o sgiliau generig a throsglwyddadwy sy'n cwrdd â gofynion graddedigion sy'n ceisio cyflogaeth yn yr unfed ganrif ar hugain. Bydd y cwrs hwn yn cefnogi myfyrwyr wrth iddynt ddilyn gyrfaoedd mewn amrywiaeth o farchnadoedd swyddi a diwydiannau gan gynnwys: addysg gynradd; rolau trydydd sector; addysg gymunedol; gwasanaethau cyfryngau a chyfathrebu; cyhoeddi; iechyd a lles; gweinyddiaeth y llywodraeth; y celfyddydau; twristiaeth a hamdden. Mae profiadau yn y gwaith trwy gydol y cwrs yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ennill profiad mewn amgylcheddau proffesiynol. 

Yn eu blwyddyn olaf bydd myfyrwyr yn cwblhau prosiect ymchwil annibynnol mewn maes o'u dewis. Gall myfyrwyr ddewis gwneud cais i astudio ym Met Caerdydd ar lefel ôl-raddedig ar ein cyrsiau M.A., MPhil a PhD. 

Dilyniant i Hyfforddiant Athrawon TAR:

Rydym yn falch o warantu cyfweliad ar gyfer y Cwrs Cynradd TAR ym Met Caerdydd ar gyfer holl raddedigion y rhaglen hon (ar yr amod bod y cwrs ar agor gydag UCAS). Mae angen dosbarthiad gradd Anrhydedd o 2:2 neu'n uwch ar hyn o bryd, a rhaid cwrdd â'r gofynion mynediad statudol ar gyfer hyfforddiant yng Nghymru (gan gynnwys graddau B neu gyfwerth mewn TGAU ar gyfer Saesneg a Mathemateg, gradd C ar gyfer Gwyddoniaeth).

Gofynion Mynediad a Sut mae Gwneud Cais

Dylai fod gan ymgeiswyr 104 pwynt o 2 Lefel A o leiaf (neu gyfwerth). Gall cynigion nodweddiadol gynnwys:

  • 104 pwynt o 2 Lefel A o leiaf i gynnwys gradd Safon Uwch C. Bagloriaeth Cymru - Tystysgrif Her Sgiliau Uwch yn cael ei hystyried yn drydydd pwnc
  • Diploma Estynedig Cenedlaethol / Diploma Estynedig Technegol Caergrawnt RQF BTEC Lefel 3 gyda gradd gyffredinol o MMM
  • Diploma CACHE gyda gradd C (lleiafswm o 96 pwynt)
  • 104 pwynt o Irish Leavers Certificate mewn Highers i gynnwys graddau 2 x H2 (yr isafswm gradd a ystyrir yn Uwch yw H4)
  • 104 pwynt o Scottish Advanced Highers i gynnwys gradd D. Ystyrir Scottish Highers hefyd, naill ai ar eu pennau eu hunain neu mewn cyfuniad ag Advanced Highers
  • 102 pwynt o'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch

Os ydych chi'n astudio cyfuniadau o'r uchod, neu os nad yw'ch cymhwyster wedi'i restru, cysylltwch â Derbyniadau neu cyfeiriwch at Chwiliad Cwrs UCAS am y gofynion mynediad. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am ein gofynion mynediad, gan gynnwys cymwysterau o'r UE trwy glicio yma.

Os ydych chi'n ymgeisydd hŷn a bod gennych gymwysterau neu brofiad amgen yr hoffech i ni eu hystyried, cysylltwch ag aelod o staff.

Mae mynediad i'r rhaglen hon hefyd yn destun gwiriad DBS boddhaol. Mae mwy o fanylion am weithdrefnau cofnodion troseddol ar gael yn www.cardiffmet.ac.uk/dbs.

Ymgeiswyr Rhyngwladol
Bydd angen i fyfyrwyr nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf ddarparu tystiolaeth o ruglder i safon IELTS 6.0 neu gyfwerth o leiaf. I gael manylion llawn am sut i wneud cais a chymwysterau Iaith Saesneg ewch i'r tudalennau Rhyngwladol ar y wefan.

Gweithdrefn Ddethol:
Gwneir cynigion yn seiliedig ar gais trwy UCAS gyda sylw penodol yn cael ei roi i'r datganiad personol. 

Sut i wneud cais:
Dylid gwneud ceisiadau am y cwrs hwn (amser llawn) ar-lein i UCAS  www.ucas.com . I gael rhagor o wybodaeth am geisiadau amser llawn a rhan amser, ewch i'n tudalennau Sut i Wneud Cais yma www.cardiffmet.ac.uk/howtoapply.

Dylid gwneud ceisiadau rhan-amser yn uniongyrchol i'r Brifysgol drwy www.cardiffmet.ac.uk/selfservice.

Dysgu Blaenorol Cydnabyddedig (RPL) a Throsglwyddo Credyd i flwyddyn 2 a 3
Os oes gennych ddiddordeb mewn trosglwyddo credyd o sefydliad arall i astudio ym Met Caerdydd ar gyfer cwrs sy'n derbyn mynediad ar gyfer blwyddyn 2 a/neu 3, gallwch ddod o hyd i wybodaeth bellach am hyn ac ar sut i wneud cais ar y dudalen RPL. Cysylltwch â Derbyniadau os oes gennych unrhyw ymholiadau ar RPL. 

Myfyrwyr hŷn
Ymgeisydd hŷn yw unrhyw un dros 21 oed na aeth i'r brifysgol ar ôl ysgol neu goleg. Mae Met Caerdydd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hŷn a gellir dod o hyd i gyngor a gwybodaeth bellach yma.

Cysylltu â Ni

Os oes gennych ymholiadau cyffredinol, cysylltwch â'r Tîm Derbyn ar 029 2041 6044 neu e-bostiwch: ​askadmissions@cardiffmet.ac.uk

Os oes gennych ymholiadau penodol am gwrs, cysylltwch â Kieran Hodgkin
E-bost: khodgkin@cardiffmet.ac.uk
Ffôn: 029 2020 5597

Os oes gennych ymholiadau cyfrwng Cymraeg, cysylltwch â:
Dyddgu Hywel (dhywel@cardiffmet.ac.uk) neu Angharad Williams (ahwilliams@cardiffmet.ac.uk)

Gwybodaeth Cwrs Allweddol

Côd UCAS:
Primary Education Studies: D93T 

Astudiaethau Addysg Gynradd (Dwyieithog): W93T

Lleoliad Astudio:
Campws Cyncoed 

Ysgol:
Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd

Hyd y cwrs:
Cwrs tair blynedd, llawn amser

Hefyd ar gael fel cwrs rhan amser, ond rhaid ei gwblhau o fewn deg mlynedd.

Ffioedd Rhan Amser:

Codir taliadau fesul modiwl sengl oni nodir yn benodol: israddedig = 10 credyd. Yn gyffredinol, bydd myfyrwyr yn astudio 60 credyd y flwyddyn; i gael gwir gost, eglurwch hyn trwy gysylltu ag arweinydd y rhaglen yn uniongyrchol.

Astudio Trwy'r Gymraeg
Blog
Cyfuno Addysg Gynradd gyda'r Gymraeg

Mae Jack yn dweud wrthym am ei brofiadau o astudio'r cwrs Addysg Gynradd drwy gyfrwng y Gymraeg.
Darllen mwy.

Blog
Fy nhaith Addysg Gynradd ac astudio drwy gyfrwng y Gymraeg ym Met Caerdydd.

Mae Imogen yn dweud wrthym am ei phrofiadau mor belled ar y cwrs - o gael ysgoloriaeth gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i brofiad gwaith mewn ysgol.
Darllen mwy

Dewch i gwrdd â’r tîm: Dyddgu Hywel

Dewch i gwrdd â Dyddgu Hywel, darlithydd mewn Astudiaethau Addysg Gynradd. Mae'n dweud wrthym am ei chefndir a'r sgiliau y bydd myfyrwyr cyfwng Cymraeg yn eu dysgu ar y cwrs.

Chwaraeon Perfformiad

Mae Met Caerdydd yn darparu ac yn rheoli amgylchedd Cynllun Gyrfa Ddeuol achrededig TASS sy’n caniatáu i fyfyrwyr gyflawni eu potensial academaidd ochr yn ochr â hyfforddi, chwarae a pherfformio yn eu dewis chwaraeon.


Gyda phrofiad personol o gystadlu ar y llwyfan rhyngwladol ac ymgymryd ag ymchwil sy’n arwain y byd, mae ein staff academaidd a Chwaraeon Perfformiad yn creu amgylchedd cwbl unigryw o ragoriaeth chwaraeon. Mae’r model integredig yn golygu y gallwch fod yn sicr bod ein rhaglenni’n cael eu llywio gan y gwasanaethau hyfforddi a chymorth diweddaraf i gyd wedi’u cynllunio i’ch datblygu fel athletwwr. Ynghyd â’n partneriaethau allweddol gydag amrywiaeth o Gyrff Llywodraethu Cenedlaethol, mae ein rhaglenni’n gweithio ochr yn ochr â llwybrau talent cydnabyddedig. Darllen mwy.

Gellir dod o hyd i delerau ac amodau llawn mewn perthynas â derbyn cynnig i astudio ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd trwy ymweld â www.metcaerdydd.ac.uk/terms