Bwrsariaeth Clirio
Mae'r fwrsariaeth Clirio yn ddyfarniad ariannol o £200 gyda'r nod o ddarparu cymorth ariannol i'r ymgeiswyr hynny sy'n byw mewn ardaloedd sydd â chyfraddau cyfranogiad isel ar gyfer addysg uwch.
Cymhwysedd
Bydd y fwrsariaeth Clirio yn cael ei dyfarnu'n awtomatig i ymgeiswyr Clirio sy'n bodloni'r meini prawf canlynol:
- Rhaid i chi gael eich dosbarthu fel myfyriwr cartref at ddibenion talu ffioedd
- Rhaid i chi fod yn fyfyriwr newydd i Brifysgol Metropolitan Caerdydd, sydd wedi gwneud cais drwy Glirio ar gyfer mynediad 2025 gydag UCAS ac yn mynd i gwrs Israddedig llawn amser ar lefel blwyddyn un neu lefel sylfaen.
- Rhaid i'ch cyfeiriad parhaol fod mewn ardal sydd â chyfraddau cyfranogiad isel mewn Addysg Uwch.
Gweler yr adran Telerau ac Amodau i gael rhagor o wybodaeth am gymhwysedd a'r gwiriwr meini prawf lle gallwch nodi'ch cod post.
Telerau ac Amodau
Gweld telerau ac amodau llawn Bwrsariaeth Clirio
Sut i wneud cais
Nid oes angen gwneud cais gan fod cymhwysedd yn cael ei asesu o'r wybodaeth a ddarperir yn eich cais clirio.
Cwestiynau Cyffredin
Os nad yw eich cod post yn cael ei adnabod gan ein Gwiriwr Cymhwysedd Cymdogaeth Cyfranogiad fel ardal cyfranogiad isel dynodedig yna ni fyddwch yn gymwys ar gyfer y fwrsariaeth. Rydym yn dibynnu ar asiantaethau allanol wrth ddiweddaru'r data hwn ac mae'r data hwn yn destun newid. Mae codau post wedi'u categoreiddio ar hyn o bryd yn ôl Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 2019, systemau codio POLAR4 Ifanc, ac Oedolion AU 2011. Darparwyd data gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru ym mis Mai 2022.
Ar hyn o bryd, dim ond myfyrwyr israddedig newydd sy'n cael eu hasesu'n awtomatig ar gyfer y fwrsariaeth. Os ydych chi'n fyfyriwr presennol Met Caerdydd ac yn profi anawsterau ariannol, cysylltwch â'n gwasanaeth cynghori i fyfyrwyr drwy e-bostio moneyadvice@cardiffmet.ac.uk am gyngor.
Unwaith y bydd y fwrsariaeth wedi'i dyrannu a'i chyfathrebu i fyfyrwyr (heb fod yn hwyrach na 30 Medi), bydd y tîm Derbyniadau yn cysylltu â chi yn gofyn am fanylion talu. Dim ond ar ôl i chi gofrestru'n llwyddiannus ar eich cwrs gradd amser llawn y bydd y fwrsariaeth yn cael ei dalu.