Skip to content
Archebwch eich lle yn ein Diwrnod Agored, cofrestrwch nawr

Llinell Gyngor Clirio

Mae Llinell Gyngor Clirio Met Caerdydd nawr AR AGOR ac mae ein tîm ar gael i’ch helpu i sicrhau lle. Gallwch ffonio 0300 330 0755 neu Sgwrsio’n Fyw gyda ni ar y dudalen we hon.

Amseroedd Agor y Llinell Gyngor Clirio

Dyddiad Oriau Agor
Dydd Gwener 15 Awst 2026 8:30yb - 5:00yp
Dydd Sadwrn 16 Awst 2026 9:00yb - 3:00yp
Dydd Sul 17 Awst 2026 10:00yb - 3:00yp
Dydd Llun 18 Awst 2026 - ymlaen Dydd Llun - Dydd Iau: 8:30yb - 5:00yp
Dydd Gwener: 8:30yb - 4:30yp

Tu Allan i'r Oriau Gweithio

Os ydych chi am gysylltu â ni y tu allan i’r oriau hyn, neu os na allwch fynd trwodd ar y ffôn, gallwch wneud cais ar-lein trwy lenwi ein ffurflen gais clirio ar-lein. Gallwch hefyd anfon e-bost atom ar holiderbyniadau@metcaerdydd.ac.uk a bydd aelod o’r tîm yn dod yn ôl atoch cyn gynted â phosibl.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnwys amlinelliad byr o’r cwrs y mae gennych ddiddordeb ynddo, eich cymwysterau academaidd, ynghyd â’ch manylion cyswllt llawn, gan gynnwys e-bost dilys a rhif ffôn cyswllt.

Nodwch: Byddwn yn ymdrechu bob amser i ymateb i’ch e-bost neu ymholiad ffôn o fewn 24 awr. Fodd bynnag, ar brydiau efallai y bydd angen i ni atgyfeirio ymgeisydd am benderfyniad academaidd a allai gymryd mwy o amser.