Cwestiynau Cyffredin Clirio
Gall Clirio fod yn amser dryslyd a llawn straen i fyfyrwyr (a rhieni!), yn enwedig os nad yw canlyniadau arholiadau yn dilyn y cynllun. Isod rydym wedi ateb nifer o gwestiynau cyffredin a gawn gan fyfyrwyr bob blwyddyn. askadmissions@cardiffmet.ac.uk.
Gallwch hefyd ymweld â gwefan UCAS am ragor o wybodaeth am y broses Glirio.
Gwneud Cais Trwy Glirio
Clirio yw'r dull o ymgeisio trwy UCAS, sy'n dechrau ar 5ed Gorffennaf 2025 ac yn para hyd at ddiwedd mis Medi.
Mae Clirio yn gyfle perffaith i wneud cais am le mewn prifysgol i fyfyrwyr nad ydynt wedi gwneud cais trwy UCAS, sydd wedi newid eu meddwl ac nad ydynt bellach yn dymuno mynychu eu dewis Cadarn, neu nad oes ganddynt le mewn prifysgol ar ôl derbyn eu canlyniadau.
Na, nid yw'n rhy hwyr! Ym Met Caerdydd, byddwn yn cynnig lleoedd cwrs (yn amodol ar argaeledd) hyd at ddiwedd mis Medi 2024. Felly peidiwch ag oedi, cysylltwch â ni.
Llinell Gyngor Ffôn: 0300 330 0755
Sgwrs Fyw ar y dudalen hon!
Gwneud Cais Ar-Lein
E-bost: askadmissions@cardiffmet.ac.uk
Bydd angen i ni wybod y canlynol:
Manylion Personol
- Enw
- Manylion Cyswllt (e-bost a rhif ffôn)
- Eich rhif ID Personol UCAS os ydych eisoes wedi gwneud cais i UCAS.
Cymwysterau
Byddwn hefyd yn gofyn i chi am eich canlyniadau arholiad (Safon Uwch, BTECs neu gyfwerth) a pa ganlyniadau TGAU sydd gennych, i benderfynu a allwn gynnig lle i chi yn seiliedig ar ofynion academaidd y cwrs. Yn y rhan fwyaf o achosion rydym yn gallu cynnig lle i chi dros y ffôn gyda'r wybodaeth hon.
Cwrs
Efallai y byddwn hefyd yn gofyn pam mae gennych ddiddordeb yn y cwrs yr ydych am wneud cais amdano, ond dim ond sgwrs gyfeillgar, anffurfiol fydd hon. Os oes angen cyfweliad, fe'ch hysbysir o hyn pan fyddwch yn gwneud eich ymholiad a chewch benderfyniad yn ystod, neu'n fuan ar ôl y cyfweliad.
Ar ôl i chi gael cynnig, gallwch dderbyn y cynnig trwy ychwanegu Met Caerdydd fel eich Dewis Clirio gan ddefnyddio UCAS Hub. Bydd ein cynghorwyr yn dweud sut a phryd y gallwch wneud hyn dros y ffôn a byddwch yn derbyn e-bost gyda'r holl fanylion.
Bydd Teithiau Campws Clirio yn rhedeg ar y dyddiadau canlynol:
- 30 Gorffennaf 2025
- 16 Awst 2025
- 20 Awst 2025
Cynhelir rhwng 10yb a 2yp gan gynnwys taith o amgylch y campws, ffair wybodaeth a chyfle i siarad â llysgenhadon myfyrwyr a swyddogion recriwtio myfyrwyr.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau yn y cyfamser, cysylltwch â ni ar opendays@cardiffmet.ac.uk.
Gwnewch yr ymchwil a chymerwch eich amser tra'n ystyried eich opsiynau. Darllenwch y wybodaeth ar ein gwefan, trwy UCAS, a mynychwch un o'n digwyddiadau Clirio, un ai gwyneb yn wyneb neu ar-lein. Os oes gennych chi gwestiynau, cysylltwch â ni a byddwn ni'n hapus i'ch helpu chi.
Clearing Plus
Mae Clearing Plus yn wasanaeth lle mae ymgeiswyr heb le mewn prifysgol yn derbyn awgrymiadau cwrs posib yn seiliedig ar eu cymwysterau. Os ydych wedi dewis Met Caerdydd fel un o'ch dewisiadau, byddwn yn asesu'ch cais UCAS ac yn cysylltu â chi, naill ai gyda chynnig ar y cwrs, neu i gael mwy o wybodaeth.
Wedi derbyn cynnig ar gyfer Met Caerdydd trwy Glirio?
Os cewch gynnig dros ein Llinell Gyngor yn ystod Clirio, byddwch yn derbyn e-bost gennym i gadarnhau'r cynnig ar y cwrs a drafodwyd.
Ewch i Hwb UCAS a gosodwch Met Caerdydd (C20) fel eich Dewis Clirio fel bod eich derbyniad yn cael ei cofrestru.
Os ydych chi'n gwneud cais ar ddiwrnod canlyniadau Lefel-A (Awst 14, 2025), ni fyddwch yn gallu ychwanegu dewis tan ar ôl 1yp ac effallai y bydd angen i chi e-bostio prawf o'ch cymwysterau at applications@cardiffmet.ac.uk cyn y gallwn ni eich derbyn. Bydd Derbyniadau yn cysylltu â chi i gael prawf o'ch cymwysterau os oes eu hangen.
Ar ôl i chi gael eich derbyn, byddwn yn anfon cadarnhad atoch drwy e-bost gyda dolen i'ch Gwybodaeth Ymuno ar-lein. Sylwch, unwaith y byddwch yn ychwanegu Met Caerdydd fel eich Dewis Clirio ar UCAS, na all sefydliad arall eich ystyried pellach.
Mae ffioedd dysgu ym Met Caerdydd ar gyfer 2025/2026 wedi'u gosod ar £9535 ar gyfer myfyrwyr israddedig llawn amser. I gael rhagor o wybodaeth am ffioedd dysgu a chyllid myfyrwyr, ewch i www.metcaerdydd.ac.uk/ffioedd.
I gael mwy o wybodaeth ac i wneud cais ar-lein neu lawrlwytho'r ffurflenni perthnasol, ewch i'r wefan berthnasol i chi isod, yn seiliedig ar ble rydych chi'n byw:
- Cymru: www.studentfinancewales.co.uk
- Lloegr: www.direct.gov.uk/studentfinance
- Yr Alban: www.saas.gov.uk
- Gogledd Iwerddon: www.studentfinanceni.co.uk
Gallwch wneud cais am le mewn neuaddau os oes gennym leoedd llety ar gael o hyd. Am wybodaeth bellach, ewch i'n tudalennau gwe llety Cliro.
Os gwnawn gynnig i chi yn y Clirio, byddwch yn derbyn e-bost gennym i gadarnhau'r cynnig ar y cwrs a drafodwyd. Yna bydd angen i chi ein hychwanegu fel eich dewis Clirio ar wefan UCAS.
Ar ôl i chi gael eich derbyn trwy UCAS, byddwn mewn cysylltiad trwy e-bost yn y lle gyntaf i gadarnhau eich lle. Yna byddwn yn anfon e-bost atoch a fydd yn eich cyfeirio at ein gwefan Myfyrwyr Newydd, a fydd yn cynnwys yr holl wybodaeth ymuno berthnasol y bydd ei hangen arnoch i gofrestru a chychwyn eich cwrs.
Bydd y tymor yn dechrau gydag wythnos bontio ar Dydd Llun 23 Medi 2024. Bydd hyn yn cynnwys amrywiaeth o ddigwyddiadau rhithwir ac ar y campws i'ch croesawu i'ch cwrs newydd ac i Met Caerdydd, yn ogystal â digwyddiadau a drefnir gan ein Hundeb Myfyrwyr.
Os ydych chi'n cael eich derbyn yn hwyr ar gwrs ym Met Caerdydd, peidiwch â chynhyrfu! Mae gennym aelodau ymroddedig o staff ym mhob ysgol a all eich helpu pan gyrhaeddwch a byddwn yn sicrhau eich bod yn cael eich cysylltu â'ch Cyfarwyddwr Rhaglen i sicrhau nad ydych yn colli allan ar unrhyw wybodaeth bwysig.
Yn methu â dod o hyd i'ch cwestiwn clirio uchod? Mae croeso i chi gysylltu â ni ar y Llinell Ffôn Cyngor Clirio: 0300 330 0755, trwy Sgwrs Fyw, e-bost: askadmissions@cardiffmet.ac.uk.