Skip to content
Ymunwch â ni ym mis Medi. Gwneud cais drwy Glirio

Gwasanaethau Perfformiad Chwaraeon

Mae ein rhaglenni perfformiad yn cael cefnogaeth ryngddisgyblaethol gan ein Tîm Gwasanaethau Perfformiad mewnol ac yn cael eu cefnogi gan Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd (YChGIC). Gyda llawer o staff llawn amser, staff academaidd a lleoliadau myfyrwyr, darperir gwasanaeth cymorth gwirioneddol integredig ac unigryw i'n rhaglenni perfformio.​​​

Cryfder a Chyflyru

Mae ein tîm yn cyflwyno rhaglen o sesiynau grwp a thimau bach gyda phrofion integredig drwy gydol y tymor.

Mae pob rhaglen wedi'i chynllunio'n benodol i fod o fudd i'r tîm neu'r unigolyn ac mae'n cwmpasu holl ddatblygiad yr athletwr yn berthynol â gofynion y gystadleuaeth neu'r tu allan i'r tymor. Y tu hwnt i gryfder a phŵer, mae cyfuniad o ymarfer cyflymder, ystwythder, plyometrig, dygnwch a sefydlogrwydd yn cael eu tanategu mewn amgylchedd agos, cefnogol, blaengar.

Cymerwch olwg agosach ar y Tîm Cryfder a Chyflyru ym Met Caerdydd.​

​​Ffisiotherapi

​Mae ein tîm yn darparu cymorth adsefydlu a strategaethau lleihau anafiadau yn ogystal â darparu hyfforddiant a darpariaeth diwrnod gem.

Ffordd o Fyw Athletwyr a Datblygiad Personol

​​Mae ein ffordd o fyw athletwyr a'n cymorth datblygiad personol yn canolbwyntio ar ddarparu cefnogaeth a chyfleoedd diduedd ar gyfer datblygiad corfforol.​​

Dadansoddiad Perfformiad

Cyflwynir Dadansoddi Perfformiad mewn partneriaeth ag YChGIC. Gan elwa o'n labordy dadansoddi a chamerâu ar y campws wedi'u hintegreiddio i'n cyfleusterau chwaraeon, gall timau gael dadansoddiad o'u gemau a'u hyfforddiant​.​

Gwasanaethau Perfformiad Eraill

​​Mae rhai o'n rhaglenni perfformio hefyd yn gweithio'n agos gyda staff academaidd i elwa o'r gwaith cyflwyno, ymchwil a phrofi diweddaraf mewn meysydd fel Biomecaneg a Ffisioleg.