Skip to content

Troseddeg - Gradd BSc (Anrh)

Ynglŷn â’r Cwrs Yma

Ydych chi erioed wedi meddwl tybed beth sy’n ysgogi pobl i droseddu? Ydych chi wedi ystyried sut mae cymdeithas yn llunio ein dealltwriaeth o droseddu a throseddwyr? Ydych chi wedi meddwl am y dioddefwyr a sut maen nhw’n cael eu trin yn y system cyfiawnder troseddol?

Mae gradd BSc (Anrh) Troseddeg Met Caerdydd yn cyfuno astudiaeth ddamcaniaethol ac empirig mewn rhaglen fodern a fydd yn herio’r ffordd rydych chi’n edrych ar astudio trosedd.

Yn ogystal â dysgu am yr athroniaethau a’r damcaniaethau sylfaenol sy’n archwilio trosedd fel maes astudio academaidd, bydd myfyrwyr BSc (Anrh) Troseddeg yn archwilio’r sylfaen dystiolaeth ar gyfer y damcaniaethau a’r athroniaethau hyn, ac o bosibl yn cyfrannu at ein dealltwriaeth ddatblygol mewn amrywiaeth o bynciau arloesol.

Wrth astudio Troseddeg ym Met Caerdydd, byddwch yn canolbwyntio ar dri maes allweddol sydd wedi’u plethu drwy gydol y radd, sy’n cynnwys Damcaniaethau Troseddeg, hanfodion y System Cyfiawnder Troseddol a Disgyblaethau sy’n Dod i’r Amlwg mewn Troseddeg gyfoes.

Bydd y lleoliad yn ystod yr ail flwyddyn yn rhoi cyfle rhagorol i raddedigion gael profiad gwaith amhrisiadwy mewn diwydiannau priodol a pherthnasol, yn ychwanegol at yr amrywiaeth o gyfleoedd gwirfoddol sydd ar gael drwy gydol eich astudiaethau. Bydd y cymhwyster ILM Lefel 5 mewn Arweinyddiaeth a Rheoli sy’n cyd-fynd â’r radd yn eich helpu i achub y blaen ar eich cyfoedion o ran canlyniadau graddedigion, ar ôl cwblhau.

Gellir astudio’r radd hon fel gradd amser llawn tair blynedd neu radd amser llawn pedair blynedd sy’n cynnwys blwyddyn o astudio sylfaenol. Bwriad ein blwyddyn sylfaen yw eich paratoi ar gyfer eich blynyddoedd dilynol o astudio, gan gynnig cyfle i chi gryfhau eich sgiliau, eich gwybodaeth a’ch hyder.

Bydd y flwyddyn sylfaen yn berthnasol i:

  1. Myfyrwyr sydd am ymrestru ar flwyddyn gyntaf rhaglen radd anrhydedd yn y gwyddorau cymdeithasol, sydd heb gyflawni’r gofynion mynediad safonol i gael mynediad ym mlwyddyn un y radd a ddewiswyd.
  2. Myfyrwyr nad ydynt wedi astudio pynciau sy’n darparu'r cefndir angenrheidiol o fewn y disgyblaethau gwyddonol sy’n ofynnol i gael mynediad ym mlwyddyn un y radd a ddewiswyd.

Darganfyddwch fwy am y flwyddyn sylfaen.

Nodwch: Bydd angen i chi wneud cais gan ddefnyddio cod UCAS penodol os ydych yn dymuno ymgymryd â’r 4 blynedd gan gynnwys sylfaen. Cyfeiriwch at Wybodaeth Gwrs Allweddol ar waelod y dudalen hon.

​Mae gradd Met Caerdydd mewn Troseddeg yn canolbwyntio ar dri llinyn allweddol sydd wedi’u plethu drwy lefelau 4, 5 a 6.

Mae llinyn un, damcaniaethau troseddegol, yn ymdrin â’r syniadau a’r athroniaethau craidd sy’n golygu bod troseddeg yn faes pwnc penodol. Byddwch yn archwilio casgliad o gysyniadau pwysig o ddamcaniaethau cyn-glasurol a chlasurol troseddeg, hyd at ddamcaniaethau cyfoes a’r rhai sy’n dod i’r amlwg sy’n llunio dyfodol maes y pwnc.

Bydd llinyn dau, y system cyfiawnder troseddol, yn archwilio’r hanfodion o ran sut mae systemau ac asiantaethau cyfreithiol gwahanol wedi’u strwythuro yn y DU a thramor. Byddwch yn dysgu sut mae cyfreithiau gwahanol yn cael eu creu a sut mae systemau cyfreithiol gwahanol yn cydweithio ac weithiau’n gwrthdaro, sut mae unigolion yn cael eu trin yn y system cyfiawnder troseddol, ac yn edrych yn fanwl ar ein system carchardai a chyfiawnder ieuenctid.

Mae llinyn tri, disgyblaethau sy’n dod i’r amlwg, yn archwilio amrywiaeth o ddisgyblaethau blaengar a phwysig sy’n dod i’r amlwg mewn astudiaethau cyfoes mewn troseddeg. Mae’r rhain yn cynnwys: effaith salwch meddwl a niwroamrywiaeth ar unigolion ac asiantaethau yn y system cyfiawnder troseddol; sut mae troseddeg werdd a chynaliadwy’n llunio ein dealltwriaeth o niwed cymdeithasol a throseddoldeb fel y’u cymhwysir i’r byd naturiol; a sut mae troseddeg rhywedd, hil a chwiar yn arwain y ffordd wrth lunio ein dealltwriaeth feirniadol o gymdeithas. Byddwch hefyd yn dysgu am bynciau mwyfwy pwysig eraill fel gwrthderfysgaeth, seiberdroseddu, a sut mae ein systemau carchardai yn esblygu i ddiwallu anghenion sy’n newid yn barhaus.

Mae BSc (Anrh) Troseddeg Met Caerdydd yn cynnwys 360 credyd dros dair blynedd.

  • Blwyddyn 1, byddwch yn astudio 6 modiwl craidd.
  • Blwyddyn 2, byddwch yn astudio 5 modiwl craidd, gydag 1 modiwl dewisol ychwanegol i’w ddewis gennych chi.
  • Bydd Blwyddyn 3 hefyd yn cynnwys 5 modiwl craidd, gydag 1 modiwl dewisol ychwanegol i’w ddewis gennych chi.

 

Blwyddyn 1

  • Sylfeini damcaniaeth droseddegol.
  • Archwilio’r system cyfiawnder troseddol.
  • Deall Ymchwil Droseddol.
  • Trosedd, Rheoli ac Atal.
  • Gweithio gyda phobl mewn cyd-destun cymdeithasol.
  • Seicoleg trosedd.

 

Blwyddyn 2

*Ym mlwyddyn 2, byddwch yn cwblhau lleoliad gwaith gorfodol â chymorth ym myd diwydiant gydag un o’n sefydliadau partner. Bydd y lleoliad hwn yn cael ei asesu drwy gymhwyster Arweinyddiaeth a Rheoli Lefel 5 y Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth (ILM), a fydd yn eich galluogi i adael gyda chymhwyster ychwanegol a gydnabyddir yn genedlaethol ar lefel 5.

Modiwlau Craidd

  • Systemau cymharol cyfiawnder troseddol.
  • Troseddeg werdd, wledig a bywyd gwyllt.
  • Salwch meddwl, niwroamrywiaeth a throsedd.
  • Gwneud ymchwil droseddegol.
  • Modiwl Lleoliad*

Modiwlau Dewisol

  • Defnyddio seicoleg mewn troseddeg.
  • Bygythiad, risg a niwed.

 

Blwyddyn 3

Modiwlau Craidd

  • Ymarfer unigol sy’n seiliedig ar dystiolaeth.
  • Hil a rhywedd troseddeg.
  • Cosb, carchardai a phenydeg.
  • Dynladdiad a throseddau treisgar.

Modiwlau Dewisol

  • Gwrthderfysgaeth.
  • Seiberdroseddu a chymdeithas.

Rydym yn defnyddio amryw ddulliau addysgu sydd wedi’u cynllunio i ddarparu ar gyfer amrywiaeth o anghenion dysgu. Mae hyn yn cynnwys gweithdai, seminarau, darlithoedd, ac amgylcheddau dysgu rhithiol. Bydd myfyrwyr hefyd yn wynebu problemau ymarferol cymhleth ffug, y bydd gofyn iddynt eu dadansoddi a chreu ymateb priodol. Mae’r ymarferion ffug hyn wedi’u cynllunio i ddatblygu sgiliau datrys problemau a gwneud penderfyniadau. Byddwch yn defnyddio ein tŷ trosedd i gymryd rhan mewn amrywiaeth o gyfleoedd dysgu efelychiadol; bydd hyn yn cynnwys defnyddio ein tŷ safle trosedd, ystafell ddalfa, ystafell arsylwi a gwyliadwriaeth ffug, ffug lys, ac ystafell gyfweld ffug.

Oriau Cyswllt

Mae gan bob modiwl 20 credyd tua 200 awr o astudio’n gysylltiedig â nhw, a gyflwynir dros semester. Fel arfer, bydd 48 o’r oriau hyn yn cael eu cyflwyno mewn sesiynau a addysgir fel darlithoedd, seminarau a gweithdai, fel arfer ar yr amserlen fel 4 awr yr wythnos (fesul modiwl). Neilltuir oddeutu 52 awr ar gyfer tasgau astudio a pharatoi dan gyfarwyddyd sydd wedi’u gosod yn wythnosol fel rhan o’r sesiynau a addysgir ac mae’r 100 awr sy’n weddill ar gyfer astudio hunangyfeiriedig lle mae’r myfyrwyr yn cwblhau’r darllen sy’n ofynnol ar gyfer y modiwl ac yn cwblhau eu hasesiad gofynnol. Gan fod Gradd Troseddeg Met Caerdydd yn cael ei haddysgu dros ddau semester y flwyddyn academaidd, byddwch yn astudio tri modiwl 20 credyd, ochr yn ochr, bob semester.

Lleoliad Gwaith

Ym mlwyddyn 2, mae myfyrwyr Lefel 5 yn cychwyn ar 100 awr o leoliadau ar lefel diwydiant ledled De Cymru gydag amrywiaeth o asiantaethau, megis:

  • Heddlu De Cymru
  • Y Gwasanaeth Prawf
  • CEF Y Parc, Caerdydd a Brynbuga
  • Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Caerdydd
  • Cymorth i Ddioddefwyr De Cymru
  • NSPCC
  • Llamau – elusen ddigartrefedd
  • Llys y Goron Abertawe
  • Cymru Ddiogelach
  • Gweithredu dros Blant
  • Gwasanaethau Cyfiawnder Ieuenctid – Casnewydd
  • Cwmnïau cyfreithwyr ledled Caerdydd
  • Elusennau iechyd meddwl fel SHOUT
  • Sector addysg gynradd

Bydd myfyrwyr yn cael eu cefnogi ar leoliad gan oruchwyliwr academaidd personol o’r tîm troseddeg. Bydd myfyrwyr hefyd yn gallu cyflawni cymhwyster Lefel 5 y Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth (ILM) mewn hyfforddi a mentora fel rhan o’r modiwl lleoliad.

Cymorth

Pennir tiwtor personol i bob myfyriwr pan fyddant yn cychwyn ar y cwrs ac mae’r tiwtor hwn yn eu cefnogi drwy gydol eu gradd. Bydd y myfyrwyr yn mynychu cyfarfodydd tiwtorial sydd wedi’u trefnu, ond mae’r tiwtoriaid hefyd ar gael i fyfyrwyr y tu allan i’r cyfarfodydd a drefnwyd. Mae gan y brifysgol ddarpariaeth cymorth myfyrwyr sefydledig ar gyfer myfyrwyr sydd ag anghenion dysgu ychwanegol ac mae ganddi’r adnoddau i ddelio ag unrhyw faterion sy’n codi yn ystod astudiaethau myfyriwr.

Technoleg a Chyfleusterau

Cefnogir y modiwlau trwy ddefnyddio Amgylchedd Dysgu Rhithiol y Brifysgol, Moodle, sydd ar y we ac felly gallwch ei gyrchu yn unrhyw le trwy’r rhyngrwyd. Mae holl ddeunydd y cyrsiau’n cael ei gadw yma, gan gynnwys cyflwyniadau darlithoedd a seminarau, gwybodaeth asesu a darllen neu adnoddau ychwanegol. Mae’r tiwtoriaid hefyd yn defnyddio Moodle i e-bostio myfyrwyr gyda gwybodaeth a diweddariadau.

Staff

Mae’r staff yn weithgar ym maes ymchwil, a byddwch yn elwa o hyn yn uniongyrchol drwy’r addysgu. Ymhlith rhai o’r diddordebau ymchwil presennol y mae ymchwilio i brosesau gwneud penderfyniadau ymchwilwyr safleoedd trosedd, sut y gall troseddeg werdd a chynaliadwy effeithio ar addysg myfyrwyr plismona, defnyddio chwarae Lego therapiwtig er budd cyfryngwyr yn ystod y broses gyfweld, a defnyddio ymyriadau darllen mewn carchardai.

Mae’r staff ar y rhaglen hon yn dod o amrywiaeth o gefndiroedd, ac mae profiad cenedlaethol a rhyngwladol yn eu harbenigedd. Maent yn ymroddedig i ddarparu amgylchedd dysgu cefnogol o ansawdd uchel. Bydd casgliad o ddulliau addysgegol cyfoes yn cael eu hymgorffori yn narpariaeth pob modiwl. Mae gan ein staff ystod o gefndiroedd gan gynnwys cefnogi addysg amgen, gweithio gyda theuluoedd i atal trwytho a radicaleiddio, cefndiroedd plismona helaeth gan gynnwys ymarfer ar lefel weithredol a strategol, ymchwilio i safleoedd trosedd, cyfweld uwch â’r sawl a ddrwgdybir, a gweithio i frwydro yn erbyn gweithgareddau troseddol cartelau a throseddu cyfundrefnol.

Cyfleusterau

Addysgir gradd Met Caerdydd mewn Troseddeg ar draws campysau Cyncoed a Llandaf, lle bydd myfyrwyr yn elwa o amrywiaeth o gyfleusterau.

Mae Cyncoed yn gampws prysur sy’n cynnig llety ar y safle, cyfleusterau chwaraeon rhagorol a Chanolfan Campws bwrpasol, gan gynnwys siop ar y safle, bariau coffi a ffreutur. Mae gennym hefyd dŷ safle trosedd ffug, ystafell ddalfa, ystafell arsylwi a gwyliadwriaeth, ystafell gyfweld â’r sawl a ragdybir, labordy seicoleg, stiwdio ddrama, a digonedd o le yn yr awyr agored. Tra byddant ar gampws Cyncoed, bydd y myfyrwyr yn elwa o gael eu haddysgu ochr yn ochr â’n myfyrwyr BA (Anrh) Plismona Proffesiynol ac yn cael mewnwelediadau ychwanegol a mynediad at fyfyrwyr sy’n anelu at gyflawni’r cymhwyster nodedig hwn mewn plismona modern.

Mae Llandaf yn gampws bywiog a phrysur. Ar ôl miliynau o bunnoedd o fuddsoddiad yn ddiweddar, mae’n cynnig cyfleusterau dysgu o’r radd flaenaf i’n myfyrwyr. Ar Gampws Llandaf bydd y myfyrwyr yn dysgu yn ein hystafell Ffug Lys, sy’n efelychu elfennau o achos troseddol, ochr yn ochr â myfyrwyr LLB (Anrh) y Gyfraith Met Caerdydd.

Mae’r asesiadau’n ddiddorol ac yn amrywiol ac maent yn cyd-fynd yn agos â chanllawiau Meincnodau mewn Troseddeg QAA 2022. Mae’r asesiadau wedi’u cynllunio i ddarparu profiadau dilys i’r myfyrwyr ddangos cymwyseddau’r byd go iawn y byddai angen iddynt eu defnyddio mewn cyd-destunau proffesiynol.

Caiff yr asesiadau eu cwblhau naill ai’n unigol neu mewn grŵp. Mae gan fodiwlau asesiadau integredig: traethodau beirniadol, arddangosfeydd, portffolios a senarios byw. Mae’r rhain i gyd yn canolbwyntio ar ddatblygu gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau myfyrwyr, i ddangos eu gallu i gyd-fynd â chymwyseddau’r byd go iawn.

Rhoddir dyddiadau cyflwyno’r asesiadau i’r myfyrwyr ar ddechrau pob modiwl, yn ogystal â grid trosolwg asesu ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfan i’w helpu i gynllunio a rheoli eu hamser yn effeithiol. Mae myfyrwyr yn derbyn adborth unigol ar eu gwaith sy’n nodi cryfderau a meysydd i’w gwella.

Bydd y lleoliad yn ystod yr ail flwyddyn yn rhoi cyfle rhagorol i raddedigion gael profiad gwaith amhrisiadwy mewn diwydiannau priodol a pherthnasol. Bydd cymhwyster Arweinyddiaeth a Rheoli Lefel 5 ILM sy’n cyd-fynd â’r radd yn eich helpu i achub y blaen ar eich cyfoedion o ran canlyniadau graddedigion, ar ôl cwblhau eich gradd. Yn ogystal â hyn, cewch gipolwg gwerthfawr ar gyfleoedd y byd go iawn o amrywiaeth o siaradwyr gwadd a theithiau maes i amrywiaeth o leoliadau.

Beth allaf ei wneud gyda fy ngradd?

Bydd gradd BSc (Anrh) Troseddeg Met Caerdydd yn eich paratoi ar gyfer amrywiaeth o rolau yn y sector cyfiawnder troseddol a thu hwnt. Gallai cyrchfannau traddodiadol gynnwys cyflogaeth mewn,

  • Rolau Gwasanaeth yr Heddlu, fel swyddog heddlu, ditectif, staff yr heddlu, ac ati.
  • Gwasanaeth prawf,
  • Gwasanaeth Carchardai,
  • Llysoedd y DU, ac amrywiaeth o rolau tebyg eraill.

Gallai cyfleoedd eraill gynnwys, ond yn sicr nid ydynt yn gyfyngedig i, weithio gyda

  • Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi,
  • Llu’r Ffiniau,
  • Gwasanaethau Cymdeithasol,
  • Gweithio fel athro neu ddarlithydd,
  • Rolau Llywodraeth Ganolog neu Leol,
  • Elusennau.

Mae potensial hefyd ar gyfer astudio pellach, gan gynnwys llwybrau ôl-raddedig fel,

  • TAR Met Caerdydd,
  • Graddau Meistr a Addysgir, megis gradd Meistr Met Caerdydd mewn Addysg a Seicoleg
  • Graddau Meistr yn Seiliedig ar Ymchwil, fel MRes,
  • Astudiaeth Ddoethurol, fel PhD neu EdD.

Cynigion Nodweddiadol

​Mae’r gofynion canlynol yn seiliedig ar gynigion nodweddiadol sy’n ​berthnasol i ddechrau ar flwyddyn 1 y radd.

Os nad ydych yn bodloni’r gofyniad mynediad uchod, rydym hefyd yn cynnig Flwyddyn Sylfaen sy’n caniatáu gwneud cynnydd i Flwyddyn 1.​

  • Pwyntiau tariff: 96-112
  • Cynnig cyd-destunol: Gweler ein tudalen cynigion cyd-destunol.
  • TGAU: Pum TGAU ar Radd C / 4 neu uwch, gan gynnwys Saesneg Iaith / Cymraeg Iaith Gyntaf a Mathemateg / Mathemateg – Rhifedd.
  • Gofyniad Iaith Saesneg: IELTS Academaidd 6.0 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob elfen, neu gyfwerth.
  • Pynciau Safon Uwch: O leiaf tair Safon Uwch i gynnwys graddau BCC. Does dim angen pynciau penodol. Ystyrir Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru fel trydydd pwnc.
  • Diploma Cenedlaethol BTEC / Diploma Estynedig Technegol Caergrawnt: MMM-DMM
  • Lefel T: Teilyngdod.
  • Diploma Mynediad i Addysg Uwch: Does dim angen pynciau penodol.
  • Diploma Bagloriaeth Ryngwladol (IB): Does dim angen pynciau penodol.
  • Tystysgrif Gadael Iwerddon: 3 x H2. Does dim angen pynciau penodol. Ystyrir pynciau lefel uwch yn unig gydag isafswm gradd H4.
  • Advanced Highers yr Alban: Graddau CD. Does dim angen pynciau penodol. Ystyrir Highers yr Alban hefyd, naill ai ar eu pennau eu hunain neu ar y cyd ag Advanced Highers

Derbynnir cyfuniadau o’r cymwysterau uchod os ydyn nhw’n cwrdd â’n gofynion lleiaf. Os nad yw eich cymwysterau wedi’u rhestru, cysylltwch â Derbyniadau neu cyfeiriwch at Chwiliad Cwrs UCAS.

Mae rhagor o wybodaeth ar gymwysterau Tramor i’w gweld yma.

Os ydych yn ymgeisydd hŷn, mae gennych brofiad perthnasol neu RPL yr hoffech i ni ei ystyried, cysylltwch â Derbyniadau.

Sut i Ymgeisio

Mae rhagor o wybodaeth ar sut i ymgeisio i’w gweld yma.

Ar gyfer ymholiadau cyffredinol, cysylltwch â’r Tîm Derbyniadau ar 029 2041 6044 neu e-bostiwch holiderbyniadau@metcaerdydd.ac.uk.

Ar gyfer ymholiadau sy’n benodol i’r cwrs, cysylltwch â chyfarwyddwr y rhaglen, Daniel Williams.

  • Cod UCAS

    M800 (gradd 3 blynedd), M80F (gradd 4 blynedd gan gynnwys blwyddyn sylfaen)

  • Lleoliad

    Campws Cyncoed

  • Ysgol

    Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd

  • Hyd

    3 blynedd yn llawn amser.
    4 blynedd yn llawn amser os byddwch yn gwneud blwyddyn sylfaen.
    6 mlynedd yn rhan-amser.

Rydyn ni'n ymdrechu i gyflwyno cyrsiau yn unol â'r disgrifiad ac ni fyddwn fel arfer yn gwneud newidiadau i gyrsiau, fel teitl, cynnwys, dull cyflwyno a darpariaeth addysgu'r cwrs. Fodd bynnag, gall fod yn angenrheidiol i'r Brifysgol wneud newidiadau yn narpariaeth y cwrs cyn neu ar ôl cofrestru. Mae'n cadw'r hawl i wneud amrywiadau i gynnwys neu ddulliau cyflwyno, gan gynnwys terfynu neu gyfuno cyrsiau os ystyrir bod camau gweithredu o'r fath yn angenrheidiol. I gael y wybodaeth lawn, darllenwch ein Telerau ac Amodau.

YouTube Thumbnail - Crime House YouTube Thumbnail - Crime House

Archwiliwch Ein Cyfleusterau Troseddeg

Tŷ Trosedd

Yn ein Tŷ Trosedd ar gampws Cyncoed, gallwch roi eich sgiliau ar waith mewn profiadau dysgu efelychu fel cyfweliadau troseddol gyda phobl dan amheuaeth a dioddefwyr, archwiliad lleoliad trosedd a chadw tystiolaeth.

01 - 04
A person sits facing a courtroom bench. A person sits facing a courtroom bench.

Archwiliwch Ein Cyfleusterau Troseddeg

Ystafell Llys Ffug

Yn ein Hystafell Llys Ffug ar gampws Llandaf, byddwch yn gallu ymarfer eich sgiliau yn efelychu elfennau o dreial troseddol gan gynnwys darparu tystiolaeth arbenigol yn y llys.

01 - 04

Mae troseddeg yn caniatáu i ni ofyn y cwestiynau lletchwith am wirioneddau anghyfforddus cymdeithas. Mae’r radd hon yn rhoi’r gallu sydd ei hangen arnoch chi i ateb rhai o’r cwestiynau mawr sy’n ein hwynebu, drwy archwilio pynciau cyfoes megis troseddau rhyweddol, troseddeg werdd ac astudiaethau cosb cyfoes.

Dan Williams, Troseddeg – BSc (Anrh), Darlithydd a Chyfarwyddwr Rhaglen