Skip to content
Archebwch eich lle yn ein Diwrnod Agored, cofrestrwch nawr

Sylfaen yn Arwain at Wyddorau Cymdeithasol

Ynglŷn â’r Cwrs Yma

Mae ein blwyddyn sylfaen mewn gwyddorau cymdeithasol yn flwyddyn ychwanegol o astudio ar ddechrau eich gradd. Ar ôl cwblhau eich blwyddyn sylfaen yn llwyddiannus, gallwch gael mynediad at ystod eang o raddau Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd ac Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd.

Bwriad y flwyddyn sylfaen yw eich paratoi ar gyfer blynyddoedd dilynol o astudio, gan gynnig cyfle i chi gryfhau eich sgiliau, eich gwybodaeth a’ch hyder.

Rydym yn eich croesawu i astudio blwyddyn sylfaen os ydych yn dod o amrywiaeth o wahanol gefndiroedd a phrofiadau, gan gynnwys:

  • Os nad ydych yn siŵr pa bwnc yr hoffech arbenigo ynddo
  • Os nad oes gennych y cyfuniad cywir o bynciau ar gyfer mynediad uniongyrchol i Flwyddyn 1
  • Os nad ydych yn bodloni’r gofynion disgwyliedig ar gyfer mynediad uniongyrchol i Flwyddyn 1
  • Os ydych chi’n dychwelyd i addysg ar ôl amser i ffwrdd

Mae ein blwyddyn sylfaen yn eich galluogi i symud ymlaen i’r graddau canlynol sy’n cael eu cyflwyno yn Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd ac Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd.

Mae ein blwyddyn sylfaen yn eich galluogi hefyd i symud ymlaen i’r radd ganlynol a gyflwynir gan Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd, yn amodol ar brofiad gwaith a chyfweliad llwyddiannus.

Waeth beth fo’ch gradd a ddewiswyd uchod, byddwch yn astudio’r un modiwlau trwy gydol eich blwyddyn sylfaen cyn arbenigo mewn maes penodol.

Mae strwythur y cwrs yn fodiwlaidd ac mae’n cynnwys modiwlau yn:

  • Sgiliau Academaidd
  • Penderfynyddion Seicogymdeithasol Iechyd
  • Seicoleg
  • Ymchwil a Rhifedd
  • Y Person a’r Gymdeithas
  • Cyflwyniad i Ddadansoddi Beirniadol a Myfyrio

Drwy gydol y flwyddyn sylfaen, caiff myfyrwyr gymorth gan diwtor personol penodedig yn ogystal â thîm addysgu’r modiwl.

Cyflwynir y flwyddyn sylfaen drwy gyfrwng y Saesneg a gall myfyrwyr gyflwyno aseiniadau a sefyll arholiadau drwy gyfrwng y Gymraeg. Gellir cynnal cyfarfodydd gyda thiwtoriaid personol drwy gyfrwng y Gymraeg hefyd.

Defnyddir amrywiaeth o strategaethau addysgu i adlewyrchu gofynion y pwnc arbennig, yr amrywiaeth yn arddulliau dysgu’r myfyrwyr, y profiad proffesiynol sy’n bodoli o fewn y grŵp a lefel a math o astudiaeth sydd ei angen yn ystod y rhaglen.

Ymhlith y dulliau addysgu mae darlithoedd, gwaith grŵp bach sesiynau ymarferol, y defnydd o’r Rhith Amgylchedd Dysgu (VLE), gweithdai, tiwtorialau a dysgu annibynnol.

Mae hon yn rhaglen llawn amser a disgwylir i fyfyrwyr ymglymu drwy fynychu sesiynau addysgu/dysgu yn rheolaidd a chwblhau tasgau a aseinwyd mewn pryd. Ar gyfartaledd, mae 10 awr o gynnwys a addysgir bob wythnos. Yn ychwanegol, disgwylir i fyfyrwyr wneud 10 – 15 awr o hunan-astudiaeth/dysgu annibynnol bob wythnos gan y bydd hyn yn help i ddatblygu eu sgiliau, eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth yn ogystal â’u galluogi i gwblhau eu haseiniadau.

Ategir dysgu myfyrwyr gan y system tiwtoriaid personol a fydd yn cynnig cymorth academaidd a bugeiliol i’r myfyrwyr.

Mae’r tîm addysgu cyfan yn addysgu’n weithredol ar wahanol lwybrau’r rhaglen ac yn gallu cynnig cymorth a chyngor i fyfyrwyr o ran y cyfleoedd astudio sydd ar gael ar gyfer is-raddedigion.

Asesir pob modiwl a astudir er mwyn arddangos a darparu tystiolaeth am gyflawniad academaidd y myfyrwyr. Nod yr asesiadau ydy sicrhau bod myfyrwyr wedi datblygu’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer astudiaeth israddedig.

Ymhlith y strategaethau addysgu maee:

Arholiadau – Gall y rhain gynnwys traethodau academaidd, cwestiynau aml-ddewis a chwestiynau atebion byr.

Gwaith cwrs – Gallai hyn gynnwys traethodau academaidd, adroddiadau ymchwil, profion dosbarth, cyflwyniadau, posteri, astudiaethau achos, aseiniadau adfyfyriol a phortffolios.

Amlinellir Asesiadau penodol ar gyfer pob modiwl yn llawlyfr y modiwl a’u hategu ymhellach yn ystod sesiynau addysgu/dysgu.

Ar ddechrau’r flwyddyn caiff y myfyrwyr eu hamserlen asesu. Bydd hon yn rhoi manylion am natur a fformat yr asesu ynghyd â dyddiadau cyflwyno gwaith. Ceir gwybodaeth fwy manwl am bob asesiad, yn cynnwys y meini prawf marcio ar dudalen y modiwl perthnasol ar Moodle.

Cyflwynir ac eglurir asesiadau ar y cychwyn yn ystod y ddarlith berthnasol. Bydd arweinydd y modiwl yn cynnig cymorth gyda’r asesu ynghyd â chymorth ychwanegol yn y tiwtorialau grŵp.

Darperir adborth ar y gwaith cwrs yn electronig a chynigir adborth pellach yn ystod sesiynau a addysgir ac mewn cyfarfodydd gyda’r tiwtor personol.

Mae ein blwyddyn sylfaen yn eich galluogi i symud ymlaen i’r graddau a restrir yn yr adran ‘Cynnwys y Cwrs’ ar y dudalen we hon.

I gael gwybodaeth benodol am gyflogadwyedd a gyrfaoedd sy’n gysylltiedig â’r graddau hyn, cyfeiriwch at dudalennau’r cwrs unigol.

Dylai fod gan ymgeiswyr, fel arfer, 5 TGAU yn cynnwys Iaith Saesneg (neu Gymraeg Mamiaith), Mathemateg* a Gwyddoniaeth gradd C neu uwch / gradd 4 neu uwch (ar gyfer ymgeiswyr sy’n meddu ar y TGAU diwygiedig yn Lloegr) ynghyd ag un o’r canlynol:

  • 48 o bwyntiau o gymwysterau 2 Lefel A o leiaf neu eu cyfwerth ar safon briodol ar gyfer mynediad i Addysg Uwch ar Lefel 4 ond mewn meysydd pwnc sy’n methu â chwrdd â gofynion mynediad y rhaglen radd israddedig o’u dewis.
  • 48 o bwyntiau o gymwysterau 2 Lefel A o leiaf neu eu cyfwerth mewn meysydd pwnc perthnasol i’w rhaglen radd israddedig o’u dewis, ond ar safon sy’n methu â chyrraedd gofynion mynediad i Addysg Uwch Lefel 4.

*Ar gyfer ymgeiswyr o Gymru yn sefyll arholiad diwygiedig Mathemateg TGAU, byddwn yn derbyn naill ai TGAU Mathemateg neu Mathemateg – Rhifedd.

Caiff darpar fyfyrwyr sydd heb gwrdd â’r meini prawf uchod eu hystyried yn unigol ac efallai cael eu gwahodd i gyfweliad.

Os ydych yn astudio cyfuniad o’r uchod neu os na restrwyd eich cymhwyster, cysylltwch â naill ai’r Adran Dderbyniadau neu gyfeirio at Chwiliad Cwrs UCAS. Am ragor o wybodaeth ar gyfer ein gofynion mynediad, yn cynnwys cymwysterau o’r UE, cliciwch yma.

Gweithdrefnau Dethol:

Detholir fel arfer ar sail cais cyflawn UCAS a lle bo’n berthnasol ar gyfweliad.

Ymgeiswyr Rhyngwladol:

Bydd rhaid i fyfyrwyr lle nad Saesneg ydy eu mamiaith ddarparu tystiolaeth o safon rhugledd 6.0 IELTS o leiaf neu gyfwerth. Am fanylion llawn ar sut i wneud cais a chymwysterau iaith Saesneg, ewch i’r tudalennau Rhyngwladol ar y wefan.

Sut i Wneud Cais:

Dylid gwneud cais am y cwrs hwn ar-lein i UCAS ar www.ucas.com. Am ragor o wybodaeth, ewch i’n tudalennau Sut i Wneud Cais yn www.metcaerdydd.ac.uk/sutiwneudcais.

Myfyrwyr Aeddfed:

Ymgeisydd aeddfed ydy unrhyw un sydd dros 21 oed nad aeth i brifysgol ar ôl gadael yr ysgol neu goleg. Mae Met Caerdydd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr aeddfed a cheir cyngor a gwybodaeth bellach yma.

Gofynion ychwanegol os ydych chi'n symud ymlaen i BSc (Anrh) Gwaith Cymdeithasol

Mae'n ofynnol i bob ymgeisydd gael rhywfaint o brofiad gwaith mewn lleoliad gofal cymdeithasol. Bydd pob ymgeisydd yn cael gwahoddiad i gyfweliad unigol a gynhelir drwy TEAMS. Cynhelir cyfweliadau gan aelodau o'r tîm academaidd a chynrychiolwyr o naill ai ymarfer neu unigolion sy'n defnyddio gwasanaethau. Anogir ymgeiswyr i ymgyfarwyddo â'r wybodaeth ar wefan Gofal Cymdeithasol Cymru sy'n ymwneud â Chod Ymarfer Proffesiynol Gofal Cymdeithasol Cymru (2017), a deddfwriaeth gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Bydd angen i fyfyrwyr nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf ddarparu tystiolaeth o ruglder i o leiaf IELTS 7.0 cyffredinol gydag o leiaf 6.5 ym mhob elfen, neu gyfwerth. 

Ar gyfer ymholiadau cyffredinol, cysylltwch â’r Tîm Derbyniadau ar 029 2041 6010 neu e-bostiwch holiderbyniadau@metcaerdydd.ac.uk.

Ar gyfer ymholiadau yn berthnasol i’r flwyddyn sylfaen yn unig, cysylltwch ag Arweinydd y Rhaglen, Dr Joann Warner:

* Yn amodol ar ddilysu

  • Lleoliad

    Campws Llandaf

  • Ysgol

    Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd, Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd

  • Hyd

    1 flwyddyn yn llawn amser, gyda 3 neu 4 blynedd (gan gynnwys lleoliad) ychwanegol o astudio llawn amser yn ofynnol i gwblhau eich gradd ddewisol.

Rydyn ni'n ymdrechu i gyflwyno cyrsiau yn unol â'r disgrifiad ac ni fyddwn fel arfer yn gwneud newidiadau i gyrsiau, fel teitl, cynnwys, dull cyflwyno a darpariaeth addysgu'r cwrs. Fodd bynnag, gall fod yn angenrheidiol i'r Brifysgol wneud newidiadau yn narpariaeth y cwrs cyn neu ar ôl cofrestru. Mae'n cadw'r hawl i wneud amrywiadau i gynnwys neu ddulliau cyflwyno, gan gynnwys terfynu neu gyfuno cyrsiau os ystyrir bod camau gweithredu o'r fath yn angenrheidiol. I gael y wybodaeth lawn, darllenwch ein Telerau ac Amodau.