Skip to content

Blwyddyn Sylfaen - Ysgol Reoli Caerdydd

A group of four people walking and talking outdoors, holding coffee cups. Theyre dressed in casual winter clothing, with trees and modern buildings in the background under a partly cloudy sky. A group of four people walking and talking outdoors, holding coffee cups. Theyre dressed in casual winter clothing, with trees and modern buildings in the background under a partly cloudy sky.
01 - 02

Ynglŷn â’r Cwrs Yma

Mae ein blwyddyn sylfaen mewn rheoli yn flwyddyn ychwanegol o astudio ar ddechrau eich gradd. Ar ôl cwblhau eich blwyddyn sylfaen yn llwyddiannus, gallwch gael mynediad at ystod eang o raddau Ysgol Reoli Caerdydd, Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd ac Ysgol Dechnolegau Caerdydd.

Bwriad y flwyddyn sylfaen yw eich paratoi ar gyfer blynyddoedd dilynol o astudio, gan gynnig cyfle i chi gryfhau eich sgiliau, eich gwybodaeth a’ch hyder.

Rydym yn eich croesawu i astudio blwyddyn sylfaen os ydych yn dod o amrywiaeth o wahanol gefndiroedd a phrofiadau, gan gynnwys:

  • Os nad ydych yn siŵr pa bwnc yr hoffech arbenigo ynddo
  • Os nad oes gennych y cyfuniad cywir o bynciau ar gyfer mynediad uniongyrchol i flwyddyn un
  • Os nad ydych yn bodloni’r gofynion disgwyliedig ar gyfer mynediad uniongyrchol i flwyddyn un
  • Os ydych chi’n dychwelyd i addysg ar ôl amser i ffwrdd

Ymgeiswyr Rhyngwladol

Bydd angen i fyfyrwyr nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf ddarparu tystiolaeth o ruglder hyd at o leiaf safon IELTS 6.0 neu gyfwerth. I gael manylion llawn am sut i wneud cais a chymwysterau Iaith Saesneg, ewch i’r Sylfaen Rhyngwladol mewn Rheoli.

Mae ein blwyddyn sylfaen yn eich galluogi i symud ymlaen i’r graddau canlynol sy’n cael eu cyflwyno yn Ysgol Reoli Caerdydd, Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd ac Ysgol Dechnolegau Caerdydd.

Cyfrifeg, Economeg a Chyllid

Busnes a Rheoli

Cyfrifiadureg a Systemau Gwybodaeth

Y Gyfraith

Marchnata

Chwaraeon

Twristiaeth, Lletygarwch a Digwyddiadau

Waeth beth fo’ch gradd a ddewiswyd uchod, byddwch yn astudio’r un modiwlau trwy gydol eich blwyddyn sylfaen cyn arbenigo mewn maes penodol.

  • Sgiliau Academaidd a Phroffesiynol
  • Technoleg Gwybodaeth yn y Byd Modern
  • Cymhwyso Rhifedd
  • Datblygu Prosiect Ymchwil
  • Marchnata yn yr 21ain Ganrif
  • Gweithio ym maes Rheoli

Byddwch yn astudio chwe uned i’ch paratoi ar gyfer gweddill eich gradd dewisol. Mae ein cwricwlwm wedi’i gynllunio i roi hwb i’ch hyder, eich sgiliau a’ch gwybodaeth i symud ymlaen i radd o’ch dewis.

Byddwch yn datblygu sgiliau trosglwyddadwy drwy gydol ein blwyddyn sylfaen, megis ymchwil a dadansoddi, dylunio ac arloesi, menter a chyfathrebu entrepreneuraidd a llafar, ysgrifenedig a gweledol.

Byddwch yn cael eich trochi’n llawn i fywyd prifysgol a chymuned y myfyrwyr o’r diwrnod cyntaf. Gyda chyfraddau dilyniant uchel, rydym yn gweithio’n galed i sicrhau bod pob myfyriwr yn cyrraedd ei botensial llawn. Rydym hefyd yn cynnig cefnogaeth arbenigol ac amrywiaeth o weithgareddau cymdeithasol i chi eu mwynhau.

Addysgir ein Blwyddyn Sylfaen trwy gyfuniad o ddarlithoedd wythnosol, gwaith grŵp, gweithdai a seminarau. Byddwch yn astudio chwe modiwl, bydd tri yn cael eu cyflwyno yn Nhymor 1 a thri yn Nhymor 2. Bydd gan bob modiwl 48 awr o addysgu a 152 awr ar gyfer hunan-astudio / dysgu annibynnol.

Bydd gennych fynediad at gynnwys cyrsiau trwy Moodle, yr amgylchedd dysgu rhithwir, gydag offer dysgu rhyngweithiol a deunyddiau i gefnogi dysgu annibynnol.

Byddwch hefyd yn elwa o’n tîm tiwtora personol ochr yn ochr â’ch arweinydd modiwl, tiwtoriaid seminar a Chyfarwyddwr y Rhaglen.

Asesir ein blwyddyn sylfaen gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau megis traethodau, cyflwyniadau, adroddiadau, profion dosbarth, arholiadau, prosiectau ymchwil unigol a dyddiadur myfyriol.

Mae cymorth ar gael ar gyfer asesiadau gan gynnwys sesiynau adolygu, tiwtora personol a gweithdai sgiliau a gynhelir gan y Ganolfan Ddysgu.

Byddwch yn derbyn ystod eang o adborth ar eich gwaith ar lafar ac yn ysgrifenedig.

Mae ein blwyddyn sylfaen yn eich galluogi i symud ymlaen i’r graddau a restrir yn yr adran ‘Cynnwys y Cwrs’ ar y dudalen we hon.

I gael gwybodaeth benodol am gyflogadwyedd a gyrfaoedd sy’n gysylltiedig â’r graddau hyn, cyfeiriwch at dudalennau’r cwrs unigol.

Fel rheol, dylsai ymgeiswyr feddu ar:

  • TGAU (Graddau A-C) gan gynnwys Saesneg Iaith a Mathemateg neu Fathemateg – Rhifedd ar radd C / gradd 4 neu’n uwch
  • 32 pwynt tariff UCAS o leiaf 1 Safon Uwch neu gyfwerth

Caiff ymgeiswyr heb gymwysterau mynediad gofynnol arferol eu hystyried ar sail unigol gan Gyfarwyddwr y Rhaglen a bydd yn ofynnol iddynt gael cyfweliad fel arfer.

Os oes angen arweiniad pellach arnoch ar ofynion mynediad, cysylltwch â Derbyniadau neu cyfeiriwch at Chwiliad Cwrs UCAS. Mae rhagor o fanylion am ein gofynion mynediad, gan gynnwys cymwysterau o’r UE, ar gael drwy glicio yma.

Ymgeiswyr Rhyngwladol

Bydd angen i fyfyrwyr nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf ddarparu tystiolaeth o ruglder hyd at o leiaf safon IELTS 6.0 neu gyfwerth. I gael manylion llawn am sut i wneud cais a chymwysterau Iaith Saesneg, ewch i’r Sylfaen Rhyngwladol mewn Rheoli.

Gweithdrefn Ddethol

Detholir fel arfer ar sail eich ffurflen gais UCAS, a chyfweliad lle bo’n hynny’n berthnasol.

Sut i Wneud Cais

Dylid gwneud ceisiadau ar gyfer y cwrs hwn ar-lein i UCAS yn www.ucas.com. I gael rhagor o wybodaeth ewch i’n tudalennau Sut i Wneud Cais.

Myfyrwyr Hŷn

Mae unrhyw un dros 21 oed nad aeth i’r brifysgol ar ôl ysgol neu goleg yn ymgeisydd hŷn. Mae Met Caerdydd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hŷn ac mae rhagor o gyngor a gwybodaeth ar gael yma.

Ar gyfer ymholiadau, cysylltwch â Derbyniadau ar 029 2041 6044 neu e-bostiwch holiderbyniadau@metcaerdydd.ac.uk.

Ar gyfer ymholiadau am y cwrs yn benodol, cysylltwch ag arweinydd y rhaglen Gareth Dyer ar gdyer@cardiffmet.ac.uk neu 029 2041 6626.

  • Cod UCAS

    Mae gan bob cwrs gradd ei god UCAS blwyddyn sylfaen ei hun. I gael y cod UCAS perthnasol, dilynwch y dolenni i'r cwrs rydych am ei astudio a restrir o dan 'Cynnwys y Cwrs', a gwnewch gais ar wefan UCAS.

  • Lleoliad

    Campws Llandaf

  • Ysgol

    Ysgol Reoli Caerdydd

  • Hyd

    1 flwyddyn yn llawn amser, gyda 3 neu 4 blynedd (gan gynnwys lleoliad) ychwanegol o astudio llawn amser yn ofynnol i gwblhau eich gradd ddewisol.

Rydyn ni'n ymdrechu i gyflwyno cyrsiau yn unol â'r disgrifiad ac ni fyddwn fel arfer yn gwneud newidiadau i gyrsiau, fel teitl, cynnwys, dull cyflwyno a darpariaeth addysgu'r cwrs. Fodd bynnag, gall fod yn angenrheidiol i'r Brifysgol wneud newidiadau yn narpariaeth y cwrs cyn neu ar ôl cofrestru. Mae'n cadw'r hawl i wneud amrywiadau i gynnwys neu ddulliau cyflwyno, gan gynnwys terfynu neu gyfuno cyrsiau os ystyrir bod camau gweithredu o'r fath yn angenrheidiol. I gael y wybodaeth lawn, darllenwch ein Telerau ac Amodau.

A student walks through the bottom floor of the Cardiff School of Management A student walks through the bottom floor of the Cardiff School of Management

Archwiliwch Ein Cyfleusterau

Ysgol Reoli Caerdydd

Mae ein hadeilad modern Ysgol Reoli Caerdydd wedi’i gynllunio i ysbrydoli arweinwyr busnes y dyfodol wrth ddarparu cymorth eithriadol.

01 - 04