Skip to content
Ymunwch â ni ym mis Medi. Gwneud cais drwy Glirio

Sylfaen Rhyngwladol mewn Rheoli

Ynglŷn â’r Cwrs Yma

Mae’r Sylfaen Rhyngwladol mewn Rheoli sy’n arwain at lwybrau amrywiol yn rhaglen blwyddyn lawn amser sydd â’r nod o ddatblygu sgiliau Saesneg ac academaidd i gynorthwyo dilyniant llwyddiannus i gwrs gradd israddedig arfaethedig. Fe’i bwriedir ar gyfer y myfyrwyr hynny nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf ond sy’n gallu darparu tystiolaeth o iaith Saesneg i safon IELTS 6.0 (neu gyfwerth) o leiaf.

Mae’r rhaglen hon yn darparu llwybr astudio cyffredin sy’n galluogi myfyrwyr, ar ôl ei chwblhau’n llwyddiannus, i gael mynediad i flwyddyn gyntaf (Lefel 4) amrywiaeth eang o raglenni gradd yn Ysgol Reoli Caerdydd, Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd ac Ysgol Dechnolegau Caerdydd. Bydd y myfyrwyr rhyngwladol yn elwa ar ddau fodiwl sy’n cael eu haddysgu gan academyddion y Ganolfan Hyfforddi Saesneg (ELTC) a fydd yn darparu cymorth gyda sgiliau Saesneg ac astudio.

Mae’n gyfle hefyd i ehangu mynediad i fyfyrwyr nad yw eu cymwysterau’n briodol ar gyfer mynediad arferol i gwrs gradd ac a allai fod wedi bod allan o fyd addysg am gyfnod ond sydd â phrofiad gwaith perthnasol. Bydd yn darparu sylfaen o wybodaeth graidd ac ar ôl ei chwblhau’n llwyddiannus gall myfyrwyr wneud cais i’r rhaglen radd o’u dewis yn y dyfodol. Rydym yn croesawu myfyrwyr sydd ag ystod eang o gefndiroedd a phrofiadau, gan gynnwys:

  • y rhai sy’n ansicr pa bwnc yr hoffent arbenigo ynddo
  • y rhai heb y cyfuniad cywir o bynciau i gael mynediad uniongyrchol i flwyddyn un
  • y rhai sydd ddim yn bodloni’r gofynion disgwyliedig ar gyfer mynediad uniongyrchol i flwyddyn un
  • y rhai sy’n dychwelyd i addysg ar ôl peth amser i ffwrdd

Bydd y flwyddyn Sylfaen Rhyngwladol mewn Rheoli’n cynnwys y modiwlau canlynol:

  • Sgiliau Academaidd a Phroffesiynol (addysgir gan y Ganolfan Hyfforddi Saesneg)
  • Technoleg Gwybodaeth yn y Byd Modern
  • Cymhwyso Rhifedd
  • Datblygu Prosiect Ymchwil (addysgir gan y Ganolfan Hyfforddi Saesneg)
  • Marchnata yn yr 21ain Ganrif
  • Gweithio ym maes Rheoli

Mae’r cwrs yn cysylltu â’r meysydd rhaglen gradd anrhydedd canlynol a gynigir yn Ysgol Reoli Caerdydd, Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd ac Ysgol Dechnolegau Caerdydd. Felly, bydd myfyrwyr sy’n dilyn y llwybr sylfaen yn cymryd blwyddyn ychwanegol i gwblhau eu gradd anrhydedd. Byddwch yn ymdoddi’n llawn i fywyd prifysgol a’r gymuned myfyrwyr o’r diwrnod cyntaf, mae gennym gyfraddau dilyniant uchel, ac rydym yn gweithio’n galed i sicrhau bod pob myfyriwr yn cyflawni o’i orau. Mae lles ein myfyrwyr yn bwysig i ni, felly byddwn yn cynnig cymorth arbenigol ac ystod o weithgareddau cymdeithasol i chi eu mwynhau. Cewch eich addysgu ar ein campws yn Llandaf ac mae amrywiaeth o ddewisiadau llety ar gael. Efallai y bydd y rhai ohonoch ar y llwybr Chwaraeon am ofyn am neuadd ar gampws Cyncoed lle mae ein Hysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd, sy’n daith fer ar y bws o ble y cewch eich addysgu.

Cyfrifeg, Economeg a Chyllid:

Busnes a Rheoli:

Cyfrifiadureg a Systemau Gwybodaeth:

Y Gyfraith:

Marchnata:

Chwaraeon:

Twristiaeth, Lletygarwch a Digwyddiadau:

Amcan y cwricwlwm yw meithrin lefel o hyder a pharodrwydd mewn myfyrwyr sy’n eu galluogi i symud ymlaen i raglen radd o’u dewis. Bydd y rhaglen yn hwyluso datblygiad sgiliau trosglwyddadwy hefyd, sy’n cael eu gwerthfawrogi gan gyflogwyr y diwydiant ac yn cynorthwyo astudio pellach, er enghraifft: ymwybyddiaeth feirniadol drwy ymchwil a dadansoddi, cynllunio ac arloesi, sgiliau menter ac entrepreneuraidd a chyfathrebu llafar, ysgrifenedig a gweledol. Mae’n canolbwyntio ar daith y myfyriwr a’r broses o fyfyrwyr yn pontio i’r brifysgol o gefndiroedd ansafonol ac mae’n cefnogi dysgu gydol oes ymhlith y gymuned ehangach. Defnyddir amrywiaeth o ddulliau cyflwyno addysgu yn y cwrs hwn gan gynnwys darlithoedd, gwaith grŵp, seminarau a gweithdai. Byddwch yn astudio chwe modiwl, bydd tri yn cael eu cyflwyno yn Nhymor 1 a thri yn Nhymor 2. Bydd gan bob modiwl 48 awr o oriau wedi’u hamserlennu (amser cyswllt) a 152 awr ar gyfer hunan-astudio / amser dysgu annibynnol.

Mae yna amrywiaeth eang o asesiadau ar y rhaglen hon gan gynnwys traethodau, cyflwyniadau, adroddiadau, profion yn y dosbarth, arholiadau, prosiectau ymchwil unigol a dyddiadur myfyriol. Mae paratoadau a chymorth ar gael ar gyfer asesiadau gan gynnwys sesiynau adolygu, tiwtora personol a gweithdai sgiliau a gaiff eu cynnal gan y Ganolfan Ddysgu. Bydd amrywiaeth o adborth yn cael ei roi i fyfyrwyr ar ffurfiau gwahanol fel; ysgrifenedig, llafar ac ar-lein yn dibynnu ar y dull cyflwyno.

Mae’r rhaglen yn cysylltu â’r rhaglenni gradd anrhydedd tair blynedd a ddarperir yn Ysgol Reoli Caerdydd, Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd ac Ysgol Dechnolegau Caerdydd.

I gael gwybodaeth benodol am gyflogadwyedd a gyrfaoedd sy’n gysylltiedig â’r rhaglenni gradd hyn, cyfeiriwch at dudalennau’r cyrsiau unigol.

Rhaid i fyfyrwyr fodloni’r meini prawf mynediad gofynnol arferol, ar gyfer derbyn myfyrwyr, sydd wedi’u cynnwys yn Llawlyfr Academaidd Prifysgol Metropolitan Caerdydd a dylai’r canlynol fod ganddynt fel arfer:

  • O leiaf bum TGAU neu gyfwerth (Graddau A-C) gan gynnwys Saesneg Iaith a Mathemateg* gradd C neu uwch (gradd 4 neu uwch ar gyfer ymgeiswyr sydd â TGAU newydd eu diwygio yn Lloegr)
  • 32 pwynt tariff UCAS o 1 Safon Uwch neu gymhwyster cyfwerth o leiaf

* Ar gyfer ymgeiswyr o Gymru sy’n sefyll y TGAU Mathemateg diwygiedig, byddwn yn derbyn naill ai TGAU Mathemateg neu Mathemateg – Rhifedd.

Caiff ymgeiswyr heb gymwysterau mynediad gofynnol arferol eu hystyried ar sail unigol gan Gyfarwyddwr y Rhaglen a bydd yn ofynnol iddynt gael cyfweliad fel arfer. Anfonir hysbysiad o dderbyn drwy fynediad eithriadol ynghyd â sail resymegol at Bwyllgor Dysgu ac Addysgu’r Ysgol a’r Gofrestrfa.

Os oes angen arweiniad pellach arnoch ar ofynion mynediad, cysylltwch â Derbyniadau neu cyfeiriwch at Chwiliad Cwrs UCAS. Mae rhagor o fanylion am ein gofynion mynediad, gan gynnwys cymwysterau o’r UE, ar gael drwy glicio yma.

Ymgeiswyr Rhyngwladol:

Bydd angen i fyfyrwyr nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf ddarparu tystiolaeth o ruglder i safon IELTS 6.0 neu gyfwerth o leiaf.

Sut i Wneud Cais:

Dylid gwneud ceisiadau ar gyfer y cwrs hwn i’r Brifysgol yn uniongyrchol. I gael rhagor o wybodaeth ewch i’n tudalennau Sut i Wneud Cais Rhyngwladol.

Myfyrwyr Hŷn:

Mae unrhyw un dros 21 oed nad aeth i’r brifysgol ar ôl ysgol neu goleg yn ymgeisydd hŷn. Mae Met Caerdydd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hŷn ac mae rhagor o gyngor a gwybodaeth ar gael yma.

Ar gyfer ymholiadau cyffredinol cysylltwch â’r Tîm Derbyniadau ar 029 2041 6044 neu e-bostiwch holiderbyniadau@metcaerdydd.ac.uk.

Ar gyfer ymholiadau am y cwrs yn benodol, cysylltwch ag arweinydd y rhaglen Gareth Dyer ar gdyer@cardiffmet.ac.uk neu 029 2041 6626.

  • Lleoliad

    Campws Llandaf

  • Ysgol

    Ysgol Reoli Caerdydd

  • Hyd

    1 flwyddyn yn llawn amser, gyda 3 neu 4 blynedd (gan gynnwys lleoliad) ychwanegol o astudio llawn amser yn ofynnol i gwblhau eich gradd ddewisol.

Rydyn ni'n ymdrechu i gyflwyno cyrsiau yn unol â'r disgrifiad ac ni fyddwn fel arfer yn gwneud newidiadau i gyrsiau, fel teitl, cynnwys, dull cyflwyno a darpariaeth addysgu'r cwrs. Fodd bynnag, gall fod yn angenrheidiol i'r Brifysgol wneud newidiadau yn narpariaeth y cwrs cyn neu ar ôl cofrestru. Mae'n cadw'r hawl i wneud amrywiadau i gynnwys neu ddulliau cyflwyno, gan gynnwys terfynu neu gyfuno cyrsiau os ystyrir bod camau gweithredu o'r fath yn angenrheidiol. I gael y wybodaeth lawn, darllenwch ein Telerau ac Amodau.