Skip to content
Ymunwch â ni ym mis Medi. Gwneud cais drwy Glirio

Digwyddiad STEM am ddim ym Met Caerdydd yr hanner tymor hwn

30 Ionawr 2024

Gall teuluoedd ledled de Cymru gloi’r hanner tymor gyda diwrnod llawn o weithdai gwyddoniaeth a thechnoleg am ddim ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd fel rhan o Ŵyl Wyddoniaeth Caerdydd 2024.

Ddydd Sadwrn 17 Chwefror, rhwng 10yb-5yp, bydd Met Caerdydd yn cynnal diwrnod o sesiynau rhyngweithiol sy’n addas i blant ysgol gynradd, oedolion ifanc yn yr ysgol uwchradd a’u rhieni ar Gampws Llandaf, er mwyn rhoi mwy o fynediad i wyddoniaeth a thechnoleg i blant a phobl ifanc a hynny am ddim.

Bydd y gweithdai’n cynnwys archwilio celloedd coch y gwaed o dan ficrosgop; dysgu am enynnau blas, gwrthgyrff a firysau; seiberddiogelwch a sut i godio; mesur pwysedd gwaed a mesur gweithrediad yr ysgyfaint. Gall mynychwyr hefyd ddefnyddio bythau rhith-realiti Met Caerdydd a gwylio fideos byr ar brosesau biolegol, a chwrdd â robotiaid yr Ysgol Dechnolegau.

Bydd y diwrnod yn cael ei rannu’n ddau hanner, gyda staff o Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Met Caerdydd yn cynnal gweithdai o 10yb-1yp. Bydd yr Ysgol Dechnolegau yn rhedeg sesiynau’r prynhawn o 1yp-5yp, gyda gweithdai yn para rhwng 15-60 munud yr un yn dibynnu ar y gweithdy.

Cynhelir digwyddiad blynyddol Gŵyl Wyddoniaeth Caerdydd eleni ar ddydd Sadwrn 17 Chwefror a dydd Sul 18 Chwefror. Mae’r ŵyl ddeuddydd yn dod â gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg i leoliadau ledled Caerdydd mewn ffordd hygyrch ar gyfer ystod o oedrannau.

Gall mynychwyr gofrestru ymlaen llaw ar gyfer yr ŵyl neu ar y safle ar y diwrnod ei hun. I weld y rhestr lawn o weithdai sy’n cael eu cynnal ym Mhrifysgol Met Caerdydd ac i gofrestru, ewch i: https://bit.ly/3OnYOWi