Skip to content
Ymunwch â ni ym mis Medi. Gwneud cais drwy Glirio

Gweithdy Rheoli Symudedd HEURO blynyddol ym Met Caerdydd

22 Awst 2024

Yr wythnos hon, mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd, wedi cynnal Gweithdy Rheoli Symudedd HEURO, am y chweched flwyddyn yn olynol, gan groesawu dros 80 o swyddogion symudedd Addysg Uwch o bob rhan o’r ​DU.

Mae HEURO, cymdeithas sy’n darparu llwyfan i bob gweithiwr proffesiynol, academaidd a gweinyddol, yn hwyluso symudedd i fyfyrwyr, trafod a hyrwyddo materion o ddiddordeb cyffredin a lledaenu arfer da.

Roedd y digwyddiad Rheoli Symudedd, a gynhaliwyd yn Ysgol Reolaeth Caerdydd, yn canolbwyntio ar wella taith symudedd myfyrwyr cartref a thramor, gan ddarparu agenda lawn sy’n canolbwyntio ar arferion gorau, diweddariadau a strategaethau newydd wrth reoli symudedd myfyrwyr rhyngwladol.

Gwahoddwyd y gwesteion i drafod amrywiaeth o bynciau, gan gynnwys cyflawni dyletswydd gofal i fyfyrwyr dramor, hyrwyddo dysgu iaith wrth baratoi ar gyfer astudio dramor, a sut i sicrhau bod myfyrwyr anabl yn rhagori wrth astudio dramor.

Roedd y digwyddiad hefyd yn cynnwys cyfres o sgyrsiau gan Turing Scheme UK, Universities UK International a Student Loans Company, gan gynnwys cyn-arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru a Chadeirydd Bwrdd Cynghori Taith, Kirsty Williams CBE.

Wrth drafodi’r brif araith yn y digwyddiad, dywedodd Kirsty Williams: “Mae ymrwymiad Cymru i gefnogi a hyrwyddo rhyngwladoldeb a symudedd yn parhau i fod yn elfen allweddol o gytundeb ein cenedl gyda’n pobl ifanc, gyda’i dysgwyr a’i addysgwyr. Roedd fy mhrofiad o astudio dramor wedi newid fy mywyd. Ehangodd fy meddwl, lluniodd fy ngwerthoedd ac adeiladu fy ngwydnwch. Fe wnaeth i’n fwy goddefgar ac yn fwy empathig i brofiadau bywyd pobl eraill.

“Rydym wedi gweithio’n galed i ddatblygu rhaglen Taith, i sicrhau ei bod yn gweithio’n dda i sectorau addysg ledled Cymru. Mae ein strategaeth yn ffocysu ar ddarparu cyfleoedd i’r rhai o grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol a’r rhai sy’n wynebu’r rhwystrau mwyaf i gymryd rhan mewn cyfnewid rhyngwladol. Ers mis Mawrth 2021, rydym wedi ariannu dros 4,830 o symudiadau i 88 o wledydd, gyda 40% o’n dysgwyr allanol o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol. Gyda chyllid Taith, rydym yn creu effeithiau sy’n newid bywydau.”

Mae Met Caerdydd, yn un o 287 o sefydliadau partner Taith, sy’n darparu rhaglen symudedd cynhwysfawr i’r myfyrwyr ac yn darparu cyfleoedd i fyfyrwyr cymwys astudio, gweithio a gwirfoddoli dramor.

Dywedodd Rowena Kidger, Rheolwr Cyfleoedd Byd-eang ym Met Caerdydd, ac Is-gadeirydd HEURO: “Rwy’n falch iawn o groesawu dros 80 o gynrychiolwyr i weithdy Rheoli Symudedd Byd-eang HEURO eleni. Rwyf wedi cynnal y gweithdy blynyddol ers 2016, a dyma’r gweithdy mwyaf, a’r mwyaf poblogaidd o bell ffordd hyd yma. Rwyf wrth fy modd â neges HEURO wrth gynnig cefnogaeth ac arweiniad ym myd symudedd byd-eang.”

Am fwy o wybodaeth neu i drefnu cyfweliad yn Gymraeg neu Saesneg cysylltwch â press@cardiffmet.ac.uk neu ffoniwch 029 2041 6362