Cogydd dyslecsig yn dychwelyd at addysg i ddod yn ddarlithydd ac ennill gwobr Inspire!
Mae'r cogydd Michael Cook, a astudiodd am Radd Meistr mewn Twristiaeth a Lletygarwch Rhyngwladol ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, wedi cael ei gydnabod gyda Gwobr 'Life Change' yng Ngwobrau Dysgu Oedolion Inspire! eleni.
Gan dynnu ar ei flynyddoedd o brofiad fel pobydd a chogydd crwst yng Nghaerdydd, mae Michael yn credu bod ei ddychweliad i addysg wedi rhoi'r rysáit ar gyfer llwyddiant iddo, gan agor y drws i yrfa newydd fel darlithydd ac ysbrydoli eraill i ddilyn yn ei llwybr.
Yn 46 oed, ac yn goresgyn heriau gyda dyslecsia, enillodd gymwysterau cogydd a becws ffurfiol yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro cyn cael ei annog gan ei ddarlithwyr i ystyried addysgu, penderfyniad a'i gosododd ar ei lwybr presennol.
Ar ei flwyddyn olaf gofynnodd ei ddarlithydd a oedd wedi ystyried addysgu a wnaeth ei ysbrydoli i barhau ei daith yn dysgu. Ar ôl cwblhau Addysg a Hyfforddiant Ôl-Addysg Orfodol (PCET), cafodd gontract rhan-amser yn cyflwyno’r rhaglen Prentisiaeth Iau i fyfyrwyr ifanc.
Aeth yn ei flaen i gwblhau Gradd Meistr mewn Twristiaeth a Lletygarwch Rhyngwladol, trwy astudio ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd yr un pryd â’i ferch 25 oed, Livvy. Roedd wedi ei hannog i fynd i brifysgol i ddilyn ei breuddwyd o weithio fel rheolwr digwyddiadau.
I gydnabod ei daith yn dysgu, mae Michael wedi ennill y Wobr Newid Bywyd yng Ngwobrau Dysgu Oedolion Ysbrydoli! eleni fydd yn cael eu cyflwyno yn Neuadd Brangwyn, Abertawe ar 18 Medi. Mae’n un o blith 11 o enillwyr gwobrau.
Yn uchafbwynt Wythnos Addysg Oedolion yng Nghymru, sy’n rhedeg o 15-21 Medi mae’r gwobrau yn cydnabod y rhai sydd wedi dangos ymrwymiad i beidio stopio dysgu. Mae’r gwobrau yn cael eu trefnu gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith gyda chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru.
Mae pob enillydd Gwobr Ysbrydoli! yn dangos sut y gall dysgu gynnig ail gyfleoedd, helpu i greu cyfleoedd gyrfa newydd, cynyddu hyder a helpu cymunedau i ddod yn fwy bywiog a llwyddiannus.
Cred Michael bod dyslecsia wedi effeithio ar ei yrfa fel cogydd, ond, gan ei fod wedi bod wrth ei fodd yn rhannu ei sgiliau erioed, mae’n awr wedi ei ysgogi i helpu eraill, yn enwedig pobl ifanc sydd ag anawsterau dysgu tebyg i’w rai ef.
“Trwy gydol fy nhaith yn ôl i addysg, fe wnes i sylweddoli fy mod wedi osgoi dysgu yn fwriadol oherwydd fy nhrafferthion gyda dyslecsia,” esboniodd Michael. “Roeddwn wedi darbwyllo fy hun nad oeddwn yn academaidd nag yn ddigon deallus i lwyddo mewn amgylchedd addysgol.
“Nododd fy mhenderfyniad i chwilio am gymwysterau ffurfiol eiliad allweddol yn fy mywyd. Fe wnaeth yr hyfforddiant trylwyr gryfhau fy sgiliau coginio ac aildanio fy angerdd am ddysgu.
“Wrth i mi symud trwy’r cyrsiau, fe wnes i sylweddoli pwysigrwydd addysg wrth ddatgloi cyfleoedd newydd. Mae’n rhoi boddhad mawr gwylio myfyrwyr, yr ydych wedi eu hyfforddi a’u cefnogi, yn llwyddo.”
Dywedodd Dr Elspeth Dale, o Brifysgol Fetropolitan Caerdydd, a’i henwebodd am y wobr: “Yr hyn sy’n gwirioneddol osod Mike ar wahân yw ei allu i gysylltu â’i fyfyrwyr ar lefel bersonol. Ar ôl bod ar daith addysgol heriol ei hun, mae’n deall y trafferthion a’r buddugoliaethau wrth gychwyn ar lwybr newydd.
“Nid yn unig mae wedi ail-siapio ei fywyd ei hun ond bydd yn cael effaith barhaus ar fywydau ei fyfyrwyr, cydweithwyr a’r gymuned addysgol ehangach.”
Ychwanegodd Michael: “Mae addysg yn ffordd rymus allan o dlodi, ac fe fyddwn yn annog unrhyw un i ddal ar y cyfle ar unrhyw oedran. Byddaf yn parhau i addysgu, arwain ac ysbrydoli eraill.”
Ar gyfer oedolion yng Nghymru sy’n awyddus i gychwyn ar eu taith ddysgu, bydd cyrsiau blasu yn y cnawd a sesiynau ar-lein yn cael eu rhedeg trwy fis Medi ac yn ystod Wythnos Addysg Oedolion. Bydd cyngor a gwybodaeth ar gael yn lleol i ysbrydoli pobl i droi at ddysgu fel ffordd o gynyddu eu cyflogadwyedd, cynyddu sgiliau bywyd a gwella ansawdd eu bywydau.
Dywedodd Lynne Neagle, Ysgrifennydd Addysg Cabinet Llywodraeth Cymru: “Mae Wythnos Addysg Oedolion yn gyfle i ddathlu llwyddiannau dysgwyr ac i ysbrydoli pobl i ddarganfod sut y gall dysgu greu newid cadarnhaol yn eu bywydau.
“Dylai pawb gael y cyfle i newid cyfeiriad ac adnewyddu ei yrfa ar ba bynnag gam o fywyd y mae hwy arno. Mae storïau Gwobrau Dysgu Oedolion Ysbrydoli! yn dangos cymaint y gellir ei gyflawni pan fydd pobl yn cael eu cefnogi i oresgyn rhwystrau a dychwelyd at ddysgu.”
Ychwanegodd Joshua Miles, Cyfarwyddwr y Sefydliad Dysgu a Gwaith yng Nghymru: “Mae dysgu yn daith gydol oes sy’n cyfoethogi pob rhan o bwy ydym ni. Os ydym yn dysgu sgil newydd ar gyfer ein gyrfa, ein hiechyd, neu dim ond am hwyl, mae pob cam y byddwn yn ei gymryd wrth ddysgu yn rhoi hwb i’n hyder a’n hymdeimlad o ddiben.
“Mewn byd sy’n esblygu’n gyflym, mae’n hanfodol cefnogi a dathlu’r oedolion yng Nghymru sy’n mynd ati i ddysgu ar gyfnodau gwahanol yn eu bywydau. Mae eu hymrwymiad i ddatblygu sgiliau newydd nid yn unig yn trawsnewid eu bywydau eu hunain ond hefyd yn helpu i lunio dyfodol mwy gwydn a haws ei addasu i’n cymunedau.”
Er mwyn cael gwybod beth sy’n digwydd yn ystod Wythnos Addysg Oedolion, ac i gael cyfarwyddyd personol am eich dewisiadau dysgu a’r gefnogaeth sydd ar gael, cysylltwch â Cymru’n Gweithio ar 0800 28 4844 neu chwiliwch am https://cymrungweithio.llyw.cymru