Skip to content

Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn anrhydeddu academyddion a llywodraethwyr Met Caerdydd

1 Mai 2025

Mae academyddion a llywodraethwyr Prifysgol Metropolitan Caerdydd wedi dod yn Gymrodyr Cymdeithas Ddysgedig Cymru (CDdC). Mae'r Athro Nick Clifton a'r Athro Delyth James, ynghyd ag aelodau Bwrdd y Llywodraethwyr yr Athro Paul Matthews a Menai Owen-Jones, yn ymuno â 56 o Gymrodyr proffil uchel eraill o bob cwr o Gymru a'r byd.

Mae cymrodyr yn cael eu dewis o'r byd academaidd, y gwasanaeth cyhoeddus ac iechyd, a bywyd dinesig a diwylliannol ehangach Cymru. Fe'u dewisir o ganlyniad i’w harbenigedd, profiad, a'u harweinyddiaeth ym maes ymchwil a gwybodaeth; o ystyried hyn, mae eu hethol yn anrhydedd fawreddog yn bersonol ac i'w sefydliad cysylltiedig.

Mae pedwar Cymrawd Met Caerdydd newydd yn adlewyrchu ehangder diddordeb CDdC, gydag effeithiau trawiadol ar y sector cymdeithasol, busnes, gwyddorau iechyd a datblygu polisi Cymru.

Mae Nick Clifton yn Athro Daearyddiaeth Economaidd a Datblygu Rhanbarthol, yn gwasanaethu fel Cydlynydd Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil ar gyfer Ysgol Reoli Caerdydd ac yn eistedd ar nifer o bwyllgorau academaidd strategol y Brifysgol. Mae ymchwil Nick wedi llywio polisi cenedlaethol a rhanbarthol ar gyfer sefydliadau gan gynnwys Llywodraeth Cymru, Innovate UK, a'r Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol.

“Mae’n anrhydedd fawr i mi gael fy ethol yn Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru,” meddai’r Athro Clifton. “Mae’n fraint cael fy nghydnabod ochr yn ochr â chynifer o unigolion nodedig sy’n cyfrannu at ddatblygiad gwybodaeth a bywyd cyhoeddus yng Nghymru.

Drwy gydol fy ngyrfa academaidd, rwyf wedi bod yn angerddol am ddefnyddio ymchwil i archwilio a llywio'r heriau a'r cyfleoedd sy'n wynebu rhanbarthau, busnesau bach ac ecosystemau arloesi - yn enwedig yma yng Nghymru.

Mae'r Gymrodoriaeth hon yn adlewyrchu nid yn unig fy ngwaith fy hun, ond hefyd y diwylliant ymchwil cydweithredol ac effeithiol rydyn ni wedi'i feithrin yn Ysgol Reoli Caerdydd.”

Mae'r Athro Delyth James yn academydd blaenllaw, mae ei gwaith rhyngddisgyblaethol yn pontio seicoleg iechyd, fferylliaeth ac ymarfer clinigol. Fel fferyllydd cofrestredig gyda dros ddau ddegawd o brofiad clinigol rheng flaen, mae hi wedi ymroi ei gyrfa academaidd i fynd i'r afael â'r heriau ymddygiadol a systemig yn y ffordd y mae pobl yn defnyddio meddyginiaeth.

Gan rannu ei hamser rhwng Prifysgol Metropolitan Caerdydd a Phrifysgol Abertawe, mae'r Athro James wedi denu bron i £2 filiwn mewn cyllid ymchwil ac ysgoloriaethau ac wedi cyhoeddi mwy na 100 o allbynnau. Mae ei chyfraniad at addysg, trawsnewid gwasanaethau clinigol, a hyfforddiant proffesiynol wedi cael effaith amlwg a pharhaol ar draws y sector gofal iechyd.

Wrth drafod dod yn Gymrawd CDdC, dywedodd Delyth: “Rwyf wrth fy modd i gael fy ethol yn Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru ac rwy’n hynod ddiolchgar i’m henwebai ac i’r rhai a gefnogodd fy nghais drwy’r broses drylwyr.

“Mae llawer o fy nghydweithwyr ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd hefyd yn haeddu’r gydnabyddiaeth hon ac edrychaf ymlaen at roi anogaeth a chyngor lle bo modd er mwyn cefnogi eu hethol yn y dyfodol.

“Fel Cymrawd o’r CDdC, rwy’n gobeithio cyfrannu at ddatblygiad eu cymuned Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar, yn enwedig y rhai sy’n gysylltiedig â’r proffesiynau gofal iechyd i yrru ymchwil ac arloesedd a helpu i adeiladu gallu a chynhwysedd y gweithlu academaidd clinigol yng Nghymru er budd cymdeithas a’i heconomi.”

Yn ymuno â'r Athrawon Delyth James a Nick Clifton yn y Gymrodoriaeth mae aelodau Bwrdd Llywodraethwyr Met Caerdydd, yr Athro Paul Matthews, Prif Weithredwr Cyngor Sir Fynwy, a Menai Owen-Jones, entrepreneur cymdeithasol a chynghorydd strategol medrus. Mae'r ddau wedi gwneud cyfraniadau sylweddol at wasanaeth cyhoeddus ac arweinyddiaeth ddinesig yng Nghymru ac maent yn lleisiau gwerthfawr ym maes llywodraethu a chyfeiriad strategol y Brifysgol.

Mae cryfder cyfunol Cymrodoriaeth Cymdeithas Ddysgedig Cymru gyfan yn helpu'r sefydliad i gyflawni ei nod elusennol o hyrwyddo'r defnydd o ymchwil ac arloesedd er budd economi a chymdeithas Cymru.

Wrth fyfyrio ar ethol y Cymrodyr, dywedodd yr Athro Hywel Thomas, Llywydd CDdC: “Rydym yn wynebu nifer enfawr o heriau, o newid hinsawdd i gythrwfl gwleidyddol i fygythiadau iechyd sy’n dod i’r amlwg. Bydd yr ateb i gynifer o'r problemau hyn i'w gael mewn ymchwil a sefydliadau dinesig cadarn. Mae'r arbenigedd hwnnw'n amlwg yn ein Cymrodyr newydd. Rwy'n falch iawn o'u croesawu i Gymdeithas Ddysgedig Cymru.”