Skip to content
Ymunwch â ni ym mis Medi. Gwneud cais drwy Glirio

Cyn-swyddog y Fyddin a wnaeth ymladd yn Afghanistan yn graddio fel athro mathemateg

15 Gorffennaf 2025

Mae cyn-Swyddog Byddin Prydain a wnaeth ymladd ac a gafodd ei anafu yn Afghanistan bellach ar fin dilyn gyrfa newydd fel athro a bydd yn graddio o Brifysgol Metropolitan Caerdydd yr wythnos hon.

A man wearing a graduation gown and tie, smiling proudly at his graduation ceremony.

Treuliodd Laurence Hooper, 42 oed, o Benarth, saith mlynedd gyda'r fyddin, gan deithio'r byd yn gweithio ei ffordd i fod yn Gapten cyn mynd ar ymgyrchoedd fel peiriannydd.

Ar ôl cael ei saethu a bron â chael ei goes wedi'i thorri i ffwrdd wrth wasanaethu yn Afghanistan yn 2008, adsefydlodd Laurence ac aeth ymlaen i redeg cyfleuster datgywasgu yng Nghyprus ar gyfer milwyr oedd yn dychwelyd o frwydro. Yn ystod y cyfnod hwn, gweithiodd gyda milwyr o bob cefndir a darganfu gariad at addysgu a hyfforddi.

Ar ôl sawl rôl uwch yn y diwydiant adeiladu, wrth iddo fyw a gweithio yn Llundain a Dubai - yn ystod gwyliau teuluol y darganfu alwedigaeth newydd.

Dywedodd Laurence: “Roeddwn i’n dysgu gwyddbwyll i grŵp o ffrindiau fy mab a chanmolodd eu tad fi ar fy null tawel, gan wneud sylw y dylwn i fod yn athro. Sylweddolais fy mod i wir yn mwynhau esbonio rheolau'r gêm, gan ddysgu sgil iddyn nhw y gallent gadw am oes, ac fe daniodd rywbeth ynof fi. Doeddwn i erioed wedi meddwl am ddod yn athro cyn hynny.

“Ar y pwynt hwn, roeddwn i’n rhedeg cwmni adeiladu fy nhad, busnes a oedd wedi bod yn ein teulu ers dros bedwar degawd ac roeddwn i ar groesffordd ynghylch ble i fynd â’r busnes nesaf. Ar ôl siarad â fy nhad, a oedd yn gefnogol iawn i'm penderfyniad, penderfynais gymryd y cam a chofrestru ar y cwrs TAR ym Met Caerdydd.”

Mae Laurence, sy'n dweud ei fod wedi mwynhau mathemateg erioed - ac sy'n llywodraethwr ysgol gynradd ar gyfer mathemateg yn ysgol ei blant - eisoes wedi sicrhau swydd fel athro newydd gymhwyso a bydd yn dechrau ei rôl newydd ym mis Medi.

Dywedodd Cameron Stewart, Uwch Ddarlithydd mewn Addysg Gychwynnol Athrawon a Dysgu Proffesiynol ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd: “Mae Laurence yn enghraifft berffaith o rywun sy’n dod â’i brofiadau bywyd i’r ystafell ddosbarth i wella ar ddysgu ei ddisgyblion.”

Gan gynnig cyngor i fyfyrwyr hŷn eraill, dywedodd Laurence: “Mae profiad bywyd blaenorol, a chael gyrfa cyn dod yn athro yn dod â rhywbeth gwahanol i brofiad yr ystafell ddosbarth i blant a’u dysgu. Mae rhoi cyd-destun byd go iawn i'r cwricwlwm yn helpu i wneud addysg yn berthnasol i ddisgyblion beth bynnag rydym yn sôn amdano.”