Dirprwy Is-ganghellor Ymchwil ac Arloesi Met Caerdydd wedi'i benodi'n gadeirydd Is-banel Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2029 ar gyfer Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Corff, Hamdden a Thwristiaeth
Mae'r Athro Sheldon Hanton, Dirprwy Is-Ganghellor Ymchwil ac Arloesi Prifysgol Metropolitan Caerdydd, wedi'i benodi'n Gadeirydd Is-banel Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Corff, Hamdden a Thwristiaeth ar gyfer y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (FfRhY) 2029.
Mae’r FfRhY, sy’n system genedlaethol yn y DU, ar gyfer asesu ansawdd ymchwil mewn sefydliadau addysg uwch. Mae'n llywio dyraniad cyllid ymchwil cyhoeddus ac yn sicrhau atebolrwydd am fuddsoddiad cyhoeddus.
Mae'r penodiad, a gadarnhawyd gan bedwar corff ariannu addysg uwch y DU mewn cydweithrediad â chadeiryddion prif banel y FfRhY ac aelodau'r panel cynghori, yn gosod yr Athro Hanton ymhlith yr uwch arweinwyr academaidd sy'n gyfrifol am arwain asesiad cenedlaethol y DU o ansawdd ymchwil.
Fel Cadeirydd, bydd yr Athro Hanton yn arwain yr is-banel drwy'r cyfnod gosod meini prawf, gan ddechrau yn ddiweddarach eleni, a goruchwylio gwaith yr uned hyd at yr asesiad terfynol o gyflwyniadau ymchwil yn 2029. Bydd yn chwarae rhan allweddol wrth lunio sut mae ymchwil yn ei faes yn cael ei werthuso ar draws sefydliadau addysg uwch y DU.
Wrth fyfyrio ar ei benodiad, dywedodd yr Athro Hanton: “Rwyf wrth fy modd ac yn teimlo’n anrhydedd o gael fy mhenodi’n Gadeirydd Is-banel Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Corff, Hamdden a Thwristiaeth ar gyfer Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2029. Mae'r ymarfer yn elfen hanfodol a sylweddol o'n tirwedd ymchwil, ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at gydweithio'n agos â chydweithwyr i arddangos yr ymchwil rhagorol yn y ddisgyblaeth.”
Mae penodiad y Dirprwy Is-Ganghellor yn rhan o gyhoeddiad ehangach sy'n cadarnhau cadeiryddion a dirprwy gadeiryddion pob un o'r 34 is-banel arbenigol y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil. Bydd yr unigolion hyn yn arwain eu paneli priodol drwy gyfnodau datblygu ac asesu, gan sicrhau proses sy'n deg, yn gadarn ac yn adlewyrchu ehangder rhagoriaeth ymchwil yn y DU.
Er bod mwyafrif cadeiryddion ac is-gadeiryddion yr is-baneli wedi'u cadarnhau, mae’r FfRhY bellach yn gweithio i benodi eu paneli llawn, gan sicrhau bod yr aelodaeth yn adlewyrchu'r ystod lawn o arbenigedd sydd ei angen. Cyhoeddir y penodiadau hyn yn haf 2025.
Dywedodd Rebecca Fairbairn, Cyfarwyddwr y FfRhY: “Rwyf wrth fy modd yn croesawu’r grŵp rhagorol hwn i arwain is-baneli y FfRhY 2029. Bydd eu harbenigedd dwfn a'u safbwyntiau eang yn ganolog i adeiladu proses asesu sy'n deg, yn drylwyr, ac y mae'r gymuned ymchwil yn ymddiried ynddi.”
Mae'r rhestr lawn o gadeiryddion a dirprwy gadeiryddion is-baneli a benodwyd ar gael drwy dudalen y Paneli ar wefan y FfRhY.