Skip to content
Ymunwch â ni ym mis Medi. Gwneud cais drwy Glirio

Disgyblion ysgol ar hyd de Cymru yn arddangos gwaith celf ym Met Caerdydd

2 Gorffennaf 2025

Bydd cannoedd o ddisgyblion o ysgolion ledled de Cymru yn arddangos eu gwaith celf ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd yr wythnos hon.

A detailed map showcasing Friars Point, highlighting key landmarks and geographical features.

Bellach yn ei wythfed flwyddyn, mae dros 60 o ysgolion - gan gynnwys plant ysgol o flwyddyn un hyd at fyfyrwyr chweched dosbarth - yn cymryd rhan yn yr Arddangosfa Greadigol flynyddol a gynhelir ym Met Caerdydd tan 4 Gorffennaf.

Mae Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd ac Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd yn cydweithio i ddarparu llwyfan i ysgolion rannu gwaith gyda'i gilydd, rhieni a'r cyhoedd ehangach mewn gofod arddangos pwrpasol.

Dywedodd Marie Hill, arweinydd dysgu mewn celf yn Ysgol Uwchradd Whitmore, yn y Barri: “Mae arddangosfa’r ysgol yn brofiad rhagorol i ddisgyblion celf gan ei bod yn dilysu ac yn dathlu eu gwaith caled ond hefyd eu dychymyg a’u creadigrwydd. Does dim byd gwell na gweld eich gwaith yn cael ei arddangos ac mae gallu gweld gwaith yr holl ysgolion eraill yn anhygoel hefyd.

“Mae ei gynnal ym Met Caerdydd yn gwneud i’r disgyblion deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, ac yn rhoi blas iddyn nhw o sut beth yw bywyd yn y brifysgol. Fel athro, rwy'n teimlo fy mod wedi fy ysbrydoli gan ehangder yr hyn sy'n cael ei arddangos.” Cynhelir yr Arddangosfa Greadigol yn Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd, Llandaf. Mae ar agor i'r cyhoedd o ddydd Gwener 27 Mehefin a bydd ar agor tan ddydd Gwener 4 Gorffennaf rhwng 10yb – 5yp o ddydd Llun i ddydd Gwener. Mae croeso i'r cyhoedd alw heibio ac nid oes angen archebu ymlaen llaw.

Mae Jason Davies yn Uwch Ddarlithydd mewn Addysg yn yr Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd ym Met Caerdydd, ac yn gyfrifol am y fenter Arddangosfa Greadigol. Dywedodd: “Bob blwyddyn mae’n fraint enfawr gallu gweithio gyda chydweithwyr mewn ysgolion a cholegau i rannu’r gwaith anhygoel y mae disgyblion yn ei gynhyrchu. Heb ymrwymiad a brwdfrydedd athrawon, ni fyddai hyn yn bosibl. Diolch i bawb a gymerodd rhan.”