Dyfarnu Cymrodoriaeth er Anrhydedd i athletwr Paralym
Heddiw (dydd Iau 17 Gorffennaf), dyfarnwyd Cymrodoriaeth er Anrhydedd gan yr athletwr Paralympiaidd, sylwebydd y cyfryngau a'r fenyw fusnes lwyddiannus, Elizabeth Johnson.
Mae Elizabeth, sy'n nofiwr dros Brydain, wedi ennill medalau aur ym Mhencampwriaethau'r Byd Gemau Paralympaidd, Pwyllgor Paralympaidd Rhyngwladol (IPC) a phencampwriaethau Ewrop.
Ers ymddeol fel athletwr, mae Elizabeth wedi mynd ymlaen i gael gyrfa lwyddiannus fel sylwebydd cyfryngau — gan weithio fel cyflwynydd ar gyfer Gemau Paralympaidd Paris 2024 ac yn sylwebydd chwaraeon i'r BBC a Channel 4.
Mae Elizabeth hefyd yn aelod o fwrdd Chwaraeon Anabledd Cymru ac yn fentor athletwyr ar gyfer yr Ymddiriedolaeth Chwaraeon Ieuenctid ac Ymddiriedolaeth y Fonesig Kelly Holmes.
Yn wreiddiol o Gasnewydd, mae Elizabeth bellach yn rheolwr gyfarwyddwr ac yn llysgennad cleientiaid The Ability People - cwmni cyflogaeth arbenigol sy'n ceisio annog cyflogaeth i bobl ag anableddau. Cyd-sefydlodd y sefydliad yn 2018 ar ôl darganfod mai 30% yw’r bwlch cyflogaeth anabledd yn y DU. Ers hynny, mae ei gwaith wedi cefnogi busnesau blaenllaw, gan gynnwys yr AA, HSBC a Maes Awyr Heathrow, wrth greu gweithleoedd mwy hygyrch a theg.
Wrth dderbyn y wobr Gymrodoriaeth er Anrhydedd, dywedodd Elizabeth: "Mae’n bob arbennig iawn i dderbyn gwobr lle mae rhywun wedi eich dewis eich dewis neu eich cydnabod chi a'ch llwyddiannau ac felly mae'n anrhydedd mawr bod yma heddiw. Mae Caerdydd gartref hefyd, felly mae bob amser yn dda dod yn ôl."
Ochr yn ochr â'i gwaith mewn sylwebaeth cyfryngau a mentrau elusennol, mae Elizabeth yn siaradwr mewn digwyddiadau corfforaethol. Yn byw gyda pharlys yr ymennydd, mae'n rhannu ei thaith bersonol ysbrydoledig, gan gynnig cipolwg ar sut mae'r heriau y mae wedi eu hwynebu wedi llunio ei gwytnwch a'i hymgyrch. Mae Elizabeth yn dangos sut y gall rhwystrau bywyd, yn hytrach na'n dal yn ôl, ddod yn gatalyddion pwerus ar gyfer llwyddiant personol a phroffesiynol.
Dywedodd Dr Cecilia Hannigan-Davies, Deon Dros Dro Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd: “Mae'r gwaith mae Elizabeth yn ei wneud yn cyd-fynd yn berffaith â'n gwerthoedd ym Met Caerdydd, yn enwedig yn y meysydd sy'n gysylltiedig ag arweinyddiaeth dosturiol a meddylgar, diplomyddiaeth ddiwylliannol, arloesedd, cynwysoldeb a dewrder. Mae Elizabeth hefyd yn fodel rôl ardderchog i'n myfyrwyr, gan ddangos sut y gallwch fod yn athletwr anabl lefel elitaidd, cwblhau gradd a sefydlu busnes llwyddiannus.
“Mae'n anrhydedd mawr cyflwyno Cymrodoriaeth er Anrhydedd i Elizabeth ac edrychwn ymlaen at gydweithio yn y dyfodol.” Yn ystod y seremoni raddio yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, rhoddodd Elizabeth gyngor i fyfyrwyr yr Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol: "Mae'n amser hir ers i mi raddio o fy mhrofiad israddedig, ond fy nghyngor i'r rhai sy'n graddio heddiw fyddai, dyma ddechrau'r bennod nesaf. Hyd at y pwynt hwn rydych wedi dilyn proses ffurfiol iawn o addysg ond nawr rydych chi'n gyfrifol am eich tynged eich hun. Bydd rhwystrau ar hyd y ffordd, ond mae'r rhwystrau hyn bob amser yn creu cyfleoedd, gwnewch yn siŵr eich bod yn aros yn driw i chi'ch hun ac yn amgylchynu eich hun gyda'r bobl orau i'ch cefnogi ar unrhyw adeg drwy gydol eich bywyd."
Cyn sefydlu The Ability People, a arweiniodd at gael ei henwi yn un o 100 Merched y BBC yn 2018, roedd Elizabeth hefyd yn gynhyrchydd gweithredol i Whisper, cwmni cyfryngau blaenllaw yng Nghaerdydd.