Entrepreneur Cymreig a oresgynnodd anawsterau yn cael Cymrodoriaeth Anrhydeddus
Mae Matt Jones, entrepreneur o Gymru sydd wedi ennill sawl gwobr. Fe wnaeth oresgyn ddechrau heriol mewn bywyd, wedi derbyn Cymrodoriaeth Anrhydeddus gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd heddiw (dydd Mawrth, 15 Gorffennaf).
Yn wreiddiol o Gasnewydd, gadawodd Matt yr ysgol yn 14 oed heb unrhyw TGAU, bu’n byw mewn fflat un ystafell a ariannwyd gan y gwasanaethau cymdeithasol.
Fodd bynnag, yn ystod taith gerdded ddyddiol i'r YMCA - tra'n ddi-waith yn 16 oed - gwelodd Matt hysbyseb recriwtio i'r Fyddin a'i hysbrydolodd i ymrestru, gan nodi trobwynt allweddol yn ei fywyd.
Matt, sy’n 43, yw Sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol cwmni Hysbysebu a Marchnata Rebel Lion, sydd wedi'i leoli yng Nghaerdydd gyda swyddfeydd yn Llundain, Manceinion a Dinas Efrog Newydd. Mae'r cwmni'n gweithio gyda chleientiaid proffil uchel gan gynnwys Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Britvic, London Palladium a Marshall Arts Entertainment. Cyflawnodd Red Lion drosiant o saith ffigur yn yr ail flwyddyn.
Ar ôl dal swyddi uwch yn niwydiant hysbysebu'r DU, sefydlodd Matt ei asiantaeth hysbysebu greadigol gyntaf, S3 Advertising, yn 2011, a dyfodd yn fusnes cenedlaethol gwerth miliynau o bunnoedd a werthwyd yn ddiweddarach drwy bryniant rheolwyr.
Mae Matt wedi tynnu sylw at sut y dangosodd hysbyseb recriwtio allweddol y Fyddin iddo o lygad y ffynnon effaith cyfathrebu a sut y bu’n ysbrydoliaeth iddo fynd i mewn i hysbysebu.
Wrth dderbyn y Gymrodoriaeth Anrhydeddus gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd, dywedodd Matt: “Mae cael fy anrhydeddu gan Brifysgol Met Caerdydd fel hyn yn golygu mwy nag y gallaf ei egluro. Wnes i ddim gorffen fy astudiaethau yn yr ysgol. Es i ddim i'r Brifysgol. Roeddwn i mewn gofal, ymunais â'r Fyddin, ac adeiladais fy mywyd drwy wydnwch, camgymeriadau a disgyblaeth.
“Nid i mi yn unig yw’r Gymrodoriaeth hon, mae hwn i bob person ifanc y mae rhywun wedi dweud wrthynt na fyddant yn llwyddo. Nid oes angen gorffennol perffaith arnoch i adeiladu dyfodol pwerus. Mae'n rhaid i chi barhau i ymddangos."
Yn 2021, ymddangosodd dawn entrepreneuraidd Matt ar raglen Dragons' Den y BBC, lle sicrhaodd fuddsoddiad ar gyfer a chodi proffil ei frand gofal croen, MESOA. Rhoddodd ei ymddangosiad ar y sioe gyfle iddo drafod iechyd meddwl dynion hefyd, ar ôl cael trafferth ei hun dros y blynyddoedd.
S3 oedd ei fusnes cyntaf, lansiodd Matt Academi S3 a bartnerodd â phrifysgolion Cymru i roi profiad gwaith i fyfyrwyr a datblygu eu sgiliau mewn lleoliad go iawn. Aeth tua 300 o raddedigion drwy'r academi am gyfnod o dros bedair blynedd, gyda mwy na 10% o'r rhain yn sicrhau swyddi parhaol gyda'i gwmni. Hyd yn hyn, mae Matt wedi cyflogi dros 100 o bobl yng Nghymru, a dechreuodd 50% o'r rhain yn wreiddiol yn ei academïau.
Yn ystod y seremoni raddio yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, rhoddodd Matt araith ysbrydoledig i fyfyrwyr o'r Ysgol Reoli “Wrth i mi sefyll o’ch blaen heddiw, fel rhywun sydd heb i gael yn hawdd, ond fel rhywun sydd wedi haeddu’r foment hon, rwy’n dweud hyn wrth bob myfyriwr sy’n graddio. Rydych chi'n ddigon. Rydych chi'n barod. Does neb yn gallu diffinio eich terfynau oni bau amdanoch chi. Nid oes llwybr perffaith. Dim ond y llwybr rydych chi'n ei greu. Dilynwch eich calon. Gwrandwch ar y tân ynoch chi’ch hun. Peidiwch ag aros i gael eich dewis. Dewiswch eich hun. A beth bynnag sy'n sefyll yn eich ffordd, gallwch wynebu hynny.”
Mae Matt wedi ennill nifer o wobrau cenedlaethol, gan gynnwys Gwobr Entrepreneur Prydain Fawr y Flwyddyn ar gyfer y Diwydiant Creadigol yn 2017, 2018 a 2019 ynghyd â gwobrau diwydiant a gyhoeddwyd gan The Drum a Gwobrau Digidol RAR.
Dywedodd yr Athro David Brooksbank, Uwch Ddeon Ysgol Reoli Caerdydd: "Ar ôl wynebu dechrau heriol mewn bywyd, mae Matt yn enghraifft o'r hyn y gellir ei gyflawni drwy waith caled ac ymroddiad. Mae wedi cael effaith sylweddol ar gymuned fusnes Cymru, gan adeiladu hanes masnachol rhagorol fel entrepreneur cyfresol sy'n arwain sefydliadau gwerth miliynau o bunnoedd.
“Mae Matt yn angerddol iawn dros ddatblygu pobl ac ysbrydoli cenedlaethau iau i ffynnu, waeth beth fo’u cefndir. Mae'n anrhydedd fawr cyflwyno Cymrodoriaeth Anrhydeddus i Matt, ac edrychwn ymlaen at weithio gydag ef yn y dyfodol."
Ochr yn ochr â'i lwyddiant busnes, mae Matt wedi derbyn cymrodoriaethau diwydiant gyda'r Sefydliad Siartredig Marchnata a'r Gymdeithas Frenhinol Celfyddydau, Gweithgynhyrchu a Masnach. Mae hefyd wedi cael ei dderbyn i'r Sefydliad Rheolaeth Siartredig fel Cydymaith Siartredig.
Bellach yn byw gyda'i deulu ym Mro Morganwg, mae Matt yn mwynhau cefnogi achosion sy'n cyd-fynd â'i werthoedd; gan gynnwys blwyddyn yn gwirfoddoli i Gymdeithas Bocsio Amatur Cymru fel Cyfarwyddwr Cyfathrebu a phartneriaeth rhwng ei frand, MESOA Skincare a Brotectors, gan helpu i dorri'r stigma ynghylch iechyd meddwl dynion.