Ffoadur o Iran a ddangosodd wydnwch rhyfeddol i ddilyn addysg yn graddio'n llwyddiannus
Bydd ffoadur o Iran a ddioddefodd ymosodiad treisgar yn fuan ar ôl dechrau yn yr ysgol uwchradd yng Nghymru – a’i gorfododd i gymryd cryn dipyn o amser o’r ysgol i wella - yn graddio o Brifysgol Metropolitan Caerdydd yr wythnos hon.
Cyrhaeddodd Sep Azizimavilkhiavi y DU o Iran gyda'i theulu fel ceisiwr lloches yn 2014 - ar ôl gadael ei mamwlad am fywyd mwy diogel - yn 14 oed. Yn y pen draw, symudwyd y teulu o Lundain i Gaerdydd, lle bu’n treulio'r deng mlynedd diwethaf, mae hi bellach yn galw Caerdydd yn gartref.
Mae Sep, sydd bellach yn 24 oed, yn graddio o Brifysgol Met Caerdydd gyda gradd BSc (Anrh) Gwyddor Bwyd a Maeth, ac mae'n egluro sut mae addysg wedi bod yn bwysig i'w rhieni erioed.
“Mae fy nhad yn ddyn gweithgar ac roedd yn gweithio fel mecanydd yn Iran i dalu am addysg ddrud i mi a fy chwaer.”
Fodd bynnag, nid oedd dechau Sep i fywyd mewn addysg yng Nghymru yn brofiad cadarnhaol. Dim ond tri diwrnod ar ôl ymuno ag ysgol uwchradd yng Nghymru, bu Sep yn ddioddefwr o ymosodiad creulon arni gan gyfoedion. O ganlyniad i'w hanafiadau ac oherwydd ofn y byddai'n digwydd eto, ni ddychwelodd Sep i'r ysgol am y rhan fwyaf o'r flwyddyn academaidd ganlynol.
Er gwaethaf yr ymosodiad, dychwelodd Sep i'r ysgol yn y pen draw i eistedd ei harholiadau TGAU cyn mynychu'r chweched dosbarth yng Nghaerdydd, llwyddodd i basio ei harholiadau Lefel A gyda graddau uchel, gan gynnwys A* mewn Farsi, B mewn Mathemateg a rhagoriaeth mewn Gwyddoniaeth Gymhwysol BTEC.
“Ni allaf roi digon o glod i fy ysgol chweched dosbarth. Roedd un o fy athrawon, Ms Taylor, mor garedig a gofalgar ac yn gwybod sut i ddelio â disgybl nad Saesneg oedd ei iaith gyntaf,” meddai Sep.
Esbonia Sep sut y gwnaeth gofalu am ei lles a'i hiechyd meddwl ei hun ei hysbrydoli i astudio gwyddor bwyd fel gradd ym Met Caerdydd:
“Yn 18 oed, dechreuais ganolbwyntio go iawn a gweld canlyniadau cadarnhaol o gael corff iach ar ôl brwydro yn erbyn unigrwydd ac iselder. Fe wnes i sylweddoli bod bwyd wedi fy helpu'n fawr.
“Rydw i wedi cael profiad gwych ym Met Caerdydd, gyda thiwtoriaid a chyd-ddisgyblion hyfryd. Ac er bod fy nhaith wedi bod yn anodd ar adegau, rydw i wedi cwrdd â chymaint o bobl garedig ar hyd y ffordd. Mae’r holl uchafbwyntiau ac isafbwyntiau rydw i wedi'u profi wedi fy llunio heddiw.”
Dywedodd Ginnie Winter, Darlithydd mewn Gwyddor a Thechnoleg Bwyd ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd: “Dylai dull Sep o’i gradd fod yn ysbrydoledig i fyfyrwyr eraill, lle mae Saesneg yn ail iaith iddynt. Bydd ei hagwedd, ei chymeriad a'i phenderfyniad ym mhopeth y mae'n ei wneud yn ei gosod yn dda ar gyfer pa bynnag lwybr gyrfa y mae'n ei ddewis. Dymunaf y gorau iddi.”
Mae Sep eisoes wedi derbyn cynigion swydd ac mae'n bwriadu aros yn byw yng Nghaerdydd yn agos at ei theulu.