Gall Unrhyw Un Ei Wneud': Myfyriwr aeddfed sy’n graddio yn goresgyn diagnosis dyslecsia hwyr ac anawsterau personol i ddilyn breuddwyd gofal iechyd
Mae myfyrwraig aeddfed a gafodd ddiagnosis o ddyslecsia yn ystod ei gradd ac a oresgynnodd nifer o anawsterau personol yn graddio o Brifysgol Metropolitan Caerdydd yr wythnos hon.
Ar ôl gweithio fel triniwr gwallt ers gadael yr ysgol yn 16 oed, daeth Kelly Bichard, o'r Barri, i'r brifysgol yn 2021 i astudio BSc (Anrh) Maeth Dynol a Deieteg ym Met Caerdydd ar ôl i rai cyflyrau iechyd personol ei hysbrydoli i newid gyrfa.
Dywedodd Kelly, sydd bellach yn 44 oed: "Yn 30 oed, cefais hysterectomi. Yn ystod y cyfnod hwn ac ar ôl ymweld â maethegydd preifat i weld beth allwn wneud i wella fy ffordd o fyw i fod yn fwy iach, dechreuais ymddiddori mewn gweithio ym maes gofal iechyd. Roeddwn i eisiau gallu rhoi rhywbeth yn ôl a gwneud gwahaniaeth."
Yn ystod ei hail flwyddyn yn y brifysgol, cafodd Kelly yn 42 oed ar y pryd, ddiagnosis o ddyslecsia – anhawster dysgu a all achosi problemau gyda darllen, ysgrifennu a sillafu.
"Ni chafodd fy nyslecsia ei godi yn yr ysgol ac nid wyf erioed wedi sylwi arno gan lwyddais i wneud yn dda yn fy arholiadau TGAU – rwy'n credu fy mod wedi dod o hyd i strategaethau ymdopi ar fy mhen fy hun. Tan i mi ddod i'r brifysgol, nid oeddwn wedi sylwi fy mod yn wahanol i bobl eraill ar fy nghwrs. Byddwn i'n oedi ar weithio ar fy ngwaith cwrs, yn ceisio dechrau'r gwaith ond yn methu ysgrifennu’r geiriau ar bapur, ac roedd popeth yn ymddangos i gymryd llawer mwy o amser i mi.
"Roedd yn teimlo fel rhyddhad cael diagnosis o ddyslecsia. Mae gwasanaethau myfyrwyr ym Met Caerdydd wedi bod yn gefnogol iawn, nhw oedd yn gyfrifol am drefnu prawf wyneb yn wyneb, a gymerodd tua dwy awr ac a oedd yn cynnwys nifer o brofion bach a gadarnhaodd fy niagnosis. Ariannwyd y prawf hefyd gan y Brifysgol. Mae gen i rai strategaethau ymdopi gwych nad oeddwn yn gwneud yn flaenorol - mae cymaint o gefnogaeth ar gael."
Bu’n rhaid i Kelly hefyd gymryd seibiant o'r radd yn ei blwyddyn olaf yn 2024, felly’n graddio flwyddyn yn hwyrach na'r disgwyl, oherwydd salwch yn ei theulu sy'n effeithio ar ei phryder, gan ddychwelyd yn 2025 i gwblhau semester olaf ei chwrs.
Dywedodd Ali Birrane, Darlithydd mewn Maeth a Deieteg ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd: "Mae Kelly wedi bod yn bleser i ddysgu. Mae ei gwaith caled, ei hymroddiad a'i dyfalbarhad i gwblhau'r cwrs, er gwaethaf nifer o heriau bu’n rhaid iddi wynebu, a’r rhwystrau bu’n rhaid goresgyn drwy gydol y radd yn dyst i'w chymeriad."
Dywedodd Kelly ei bod bellach yn awyddus i ddod o hyd i rôl yn yr ysbyty ac mae'n credydu'r tri lleoliad clinigol yn ystod ei gradd am ei helpu i benderfynu sicrhau rôl mewn amgylchedd acíwt.
Ychwanegodd Kelly: "Rydw i wedi mwynhau'r cwrs yn fawr. Ac mae'r lleoliadau clinigol wedi bod yn ffordd wych o brofi llwyth achosion go iawn mewn ysbyty a chael dealltwriaeth dda o sut beth fydd bywyd yn y proffesiwn unwaith y byddwch chi'n graddio. Erbyn diwedd y lleoliadau clinigol, rydych chi'n teimlo gwir ymdeimlad o gyfrifoldeb.
"I fyfyrwyr eraill sy'n meddwl am ddychwelyd i'r brifysgol, neu a allai fod yn meddwl tybed a gallent ei wneud - byddwn i'n dweud, gallwch yn bendant. Er bod adegau yn gallu bod yn straen, mae cefnogaeth wych ar gael, a gall unrhyw un ei wneud os ydych chi wir yn rhoi eich meddwl iddo!"