Lisa Newton o Brifysgol Metropolitan Caerdydd yn cael ei henwi’n Hyfforddwr y Flwyddyn BUCS 2025
Mae Prif Hyfforddwr Rygbi Merched Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Lisa Newton, wedi’i henwi’n Hyfforddwr y Flwyddyn Chwaraeon Prifysgolion a Cholegau Prydain (BUCS) ar ôl tymor a wnaeth ailddiffinio rhagoriaeth o fewn rhaglen rygbi y Brifysgol.
O dan arweiniad Newton, enillodd y tîm rygbi merched Met Caerdydd Bencampwriaeth BUCS Women’s Super Rugby, gan sicrhau’r teitl mawreddog o bencampwyr cenedlaethol BUCS. Mae ei dull sy’n canolbwyntio ar y chwaraewr wedi arwain nifer o aelodau’r garfan i’r lefel ryngwladol, gyda sawl myfyriwr yn cael eu dewis i gynrychioli eu gwlad – tystiolaeth o’i gallu i ddatblygu doniau ar gyfer y lefel uchaf.
Y tu hwnt i lwyddiannau ar ddiwrnod y gêm, mae Newton yn cael ei chydnabod am ei hymrwymiad i les yr athletwr ac i addysg. Mae wedi chwarae rhan allweddol wrth wella dealltwriaeth o iechyd merched ar draws Met Caerdydd Chwaraeon, gan sicrhau bod chwaraewyr yn derbyn cefnogaeth gyfannol – ar ac oddi ar y cae.
Canmolodd Michael Peacock, Pennaeth Gwasanaethau Perfformiad ym Met Caerdydd, ei heffaith, gan ddweud: “Mae Lisa’n enghraifft o’r hyn y dylai hyfforddi ac arweinyddiaeth o'r radd flaenaf fod – yn ysgogol, yn empathetig, ac yn gwbl ymrwymedig i ddatblygiad yr athletwr cyfan.
“Mae hi wedi dangos gostyngeiddrwydd gwirioneddol a bregus rwydd wrth ddatblygu ei hun a’r amgylchedd o’i chwmpas. Mae ei gallu i arwain gyda rhagoriaeth a gofal wedi bod yn drawsnewidiol i’n rhaglen rygbi merched ac i’r amgylchedd perfformiad ehangach yma yn Met Caerdydd.”
Mae dylanwad Lisa Newton bellach yn ymestyn ymhell y tu hwnt i lwyddiannau cystadleuol: mae hi’n siapio cymuned rygbi mwy cryf, mwy grymus ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd – un a fydd yn parhau i ysbrydoli cenedlaethau o athletwyr i ddod.