Skip to content

Met Caerdydd yn derbyn cydnabyddiaeth genedlaethol am ymdrechion amgylcheddol yng Ngwobrau Addysg Uwch y Times

14 Tachwedd 2025

Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd wedi derbyn y wobr ‘Cyfraniad Rhagorol at Arweinyddiaeth Amgylcheddol' yng Ngwobrau Addysg Uwch y Times (Gwobrau THE) 2025 eleni, gan gydnabod ymroddiad y Brifysgol i arweinyddiaeth gref ac arloesol ar faterion amgylcheddol y gellir eu trosglwyddo ar draws yr amgylchedd adeiledig.

Dechreuodd menter Met Caerdydd gyda dadansoddiad o ddefnydd gofod ond datgelodd ddarganfyddiadau trawsnewidiol ledled y sector am berfformiad adeiladau. Datgelodd y Brifysgol fod ei hadeiladau presennol yn defnyddio dros hanner o’u hynni pan yn wag - patrwm sydd bellach wedi'i gadarnhau ar draws 70% o brifysgolion y DU a 1,700 o ysgolion.

Cardiff Met staff accept an environmental leadership award on stage beneath a winner announcement screen.


Yn 2023, gan wynebu pwysau i ehangu cyfleusterau addysgu, cwmpasodd Met Caerdydd £5.1m o leoedd addysgu newydd i ddechrau. Fodd bynnag, drwy ddefnyddio synwyryddion a dadansoddeg data 'rhyngrwyd pethau', datgelodd y tîm y cyfle i gynyddu'r defnydd o ofod. Mewn sector a ychwanegodd 852,000 m² o arwynebedd llawr mewn tair blynedd, er gwaethaf defnydd cyfartalog o ofod addysgu o ddim ond 23%, dewisodd Met Caerdydd gynyddu'r defnydd yn lle adeiladu mwy.

Datgelodd y dadansoddiad gofod rywbeth annisgwyl - roedd adeiladau'n defnyddio tua hanner o’u hynni y tu allan i oriau gwaith pan oedd llawer o'r adeiladau academaidd u raddau helaeth, yn wag.

Gan adeiladu ar y mewnwelediad hwn, lansiodd Met Caerdydd 'Hanneru'r Hanner', gan ddefnyddio data mesuryddion bob hanner awr bresennol i ddatgelu ble mae ynni'n cael ei wastraffu pan fo gan adeiladau feddiannaeth gyfyngedig neu ddim meddiannaeth o gwbl. Drwy broffilio amser y defnydd a graddio adeiladau, gallai staff ystadau flaenoriaethu atgyweiriadau gweithredol 'dim cost a chost isel', gan gynnwys addasu amserlenni gwresogi, optimeiddio gosodiadau ac atgyweirio mân ddiffygion.

Er bod y defnydd o ynni eisoes yn is na'r cyfartaleddau meincnod, yn y flwyddyn academaidd lawn gyntaf, o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol, cyflawnodd menter 'Hanneru’r Hanner' gan Brifysgol Met Caerdydd y canlynol:  

  • Gostyngiad o 22.3% yn y defnydd o nwy
  • Gostyngiad o 7.5% yn y defnydd o drydan
  • Gostyngiad ynni cyfanswm o 2.3 GWh (er gwaethaf gorsafoedd gwefru cerbydau trydan newydd)
  • £1,015,000 mewn arbedion tariff a defnydd cyfun y mae £702k ohono'n briodol i ostyngiad mewn defnydd
  • Hefyd, ymdriniwyd â gollyngiadau dŵr bach a nodwyd yn ystod monitro y tu allan i oriau gwaith, gan leihau'r defnydd o ddŵr 9,776m³ (gostyngiad o 11.3%).

Cyflawnwyd y gostyngiadau hyn o fewn cyllidebau cynnal a chadw presennol heb unrhyw ofyniad am gyfalaf sylweddol, caniatâd cynllunio nac uwchraddio'r grid, gan greu cylch gwella hunan-gyllidol cyflym.

Mae Graham Lewis, Prif Swyddog Amgylcheddau Prifysgol ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, wedi bod yn arwain ar ddefnyddio gofod a'r fenter Haneru'r Hanner.

Dywedodd Graham: “Mae’r wobr hon yn dyst i ymroddiad a meddwl ymlaen ym Met Caerdydd. Mae ymchwil yn dangos bod y patrwm hwn yn ailadrodd ar draws sectorau. Mae ein methodoleg yn cynnig llwybr cost isel a di-gost i bob perchennog adeilad leihau cost a charbon, gan ddefnyddio seilwaith sydd ganddynt eisoes. Mae ein cydweithrediad sy'n dod i'r amlwg yn ceisio datgelu'r cyfle i bawb.”

Mae Met Caerdydd bellach yn gweithio gyda 12 prifysgol ar gam nesaf y cynllun peilot - gan gynnwys pob un o'r wyth sefydliad yng Nghymru - ochr yn ochr â'r Sefydliad Siartredig Adeiladu, Sefydliad Siartredig Peirianwyr Gwasanaethau Adeiladu, Cymdeithas Cyfarwyddwyr Ystadau Prifysgolion, Energy Sparks, y Consortiwm Ynni a Gwasanaeth Ynni Cymru, i ddatblygu meincnodau adeiladau y tu allan i oriau gwaith i ddatgelu'r cyfle ar draws ystod eang o fathau o adeiladau sy'n berthnasol i'r amgylchedd adeiledig cyfan.

Ychwanegodd yr Athro Rachael Langford, Llywydd ac Is-Ganghellor Prifysgol Metropolitan Caerdydd: “Mae’r fenter Hanneru’r Hanner wedi dod â manteision enfawr ar draws Met Caerdydd ac mae bellach yn dechrau dylanwadu ar ddulliau mewn prifysgolion a sefydliadau eraill yn y DU. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i bawb a fu’n rhan o’r gwaith caled y tu ôl i’r prosiect hwn - mae cymuned gyfan Met Caerdydd wrth eu bodd yn eich gweld yn cael eich cydnabod gan y wobr fawreddog hon.”

Mae Gwobrau THE bellach yn digwydd am yr 21ain flwyddyn, ac yn uchafbwynt y calendr academaidd ac yn dathlu'r gorau o fewn y sector Addysg Uwch yn y DU.  

Yn flaenorol, mae'r gydnabyddiaeth a ddyfarnwyd i Met Caerdydd yn cynnwys ennill Prifysgol y Flwyddyn y DU ac Iwerddon yn 2021, a Chyfraniad Rhagorol at Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn 2023.