Skip to content
Ymunwch â ni ym mis Medi. Gwneud cais drwy Glirio

Myfyriwr sy'n graddio a adawodd yr ysgol heb TGAU oherwydd salwch yn dod o hyd i’w "galwad mewn bywyd"

14 Gorffennaf 2025
Hannah Stansfield Hannah Stansfield

Mae myfyriwr aeddfed, a oedd unwaith yn breuddwydio am fod yn ddoctor, ond o ganlyniad i salwch methodd ar eistedd ei arholiadau TGAU, yn dweud bod dychwelyd i'r brifysgol i astudio rhywbeth hollol wahanol wedi ei helpu i weld bod popeth yn digwydd am reswm.

Bydd Hannah Stansfield, 27, o Lerpwl, yn graddio o gwrs BA (Anrh) Dylunio Tecstilau ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd yr wythnos hon - angerdd a wnaeth ddarganfod wrth iddi fod yn sâl sydd bellach wedi dod yn yrfa ei breuddwydion.

Meddai Hannah: "Roeddwn i wedi eisiau bod yn feddyg erioed. Ond, pan roeddwn i ym mlwyddyn 11, yn 16 oed, roeddwn i'n sâl ac mi wnes i adael yr ysgol heb y TGAU angenrheidiol i wneud cais i'r ysgol feddygol.

"Pan yn sâl, gwehyddu a gwnïo oedd yr unig bethau yr oedd gen i’r awydd i'w wneud. Daeth yn therapiwtig iawn i mi yn ystod y cyfnod hwn. Am bum mlynedd yr unig beth yr oedd gen i egni i’w wneud oedd brodwaith."

Wrth fyfyrio ar ddod i'r brifysgol fel myfyriwr aeddfed a gwneud rhywbeth hollol wahanol i'r hyn meddyliodd y byddai'n ei astudio pan yn iau, dywedodd Hannah: "Rwyf wedi bod wrth fy modd ar y cwrs a gan mod i'n hŷn, roeddwn i'n siŵr fy a’n gwybod beth roeddwn i eisiau ei wneud, rydw i wedi llwyr canolbwyntio ar y cwrs o ganlyniad i hyn. Mae dod i'r brifysgol fel myfyriwr aeddfed wedi gwneud profiad y brifysgol yn well gan mod wedi gallu ffocysu’n iawn.

"Fy nghyngor i fyfyrwyr eraill sydd wedi cael ei hunain ar lwybr gwahanol i’r disgwyl, byddwch yn cyrraedd lle dylech fod pan fydd yr amser yn iawn i chi. Does dim terfyn amser."

Dywedodd Laura Edmunds, Darlithydd mewn Tecstilau ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd: "Mae wedi bod yn bleser dysgu Hannah a'i gwylio yn magu hyder. Mae ei chwilfrydedd a'i chariad at decstilau hanesyddol wedi bod yn bleser i'w arsylwi wrth iddi ddod o hyd i'w gwir angerdd. Mae hi wedi gweithio'n galed yn gyson ar bob adeg ac wedi gwthio ei ffiniau o deimlo’n gysurus wrth astudio, dylai fod yn eithriadol o falch o'i hun."

Ychwanegodd Hannah: "Rwy'n credu'n gryf bod popeth yn digwydd mewn bywyd am reswm ac rydw i yn y lle cywir i fy hun. Fy nod oedd bod yn feddyg pan oeddwn i'n iau - a fy nod o hyd yw bod yn feddyg, ond nawr i fod yn feddyg tecstilau. Rwyf wedi dod o hyd i fy ngalwad mewn bywyd."

Mae Hannah bellach yn awyddus i wneud cais am swyddi yn Llundain a hoffai fynd ymlaen i gwblhau gradd meistr mewn cadwraeth tecstilau, gan weithio mewn oriel neu amgueddfa yn y pen draw.