Skip to content
Ymunwch â ni ym mis Medi. Gwneud cais drwy Glirio

Myfyriwr sy’n graddio a anwyd yn Sudan yn goresgyn rhwystrau corfforol ac iaith yn llwyddo ym myd cyfryngau chwaraeon

15 Gorffennaf 2025

Mae myfyriwr sy’n graddio o Brifysgol Metropolitan Caerdydd, a symudodd i Gaerdydd o Sudan yn 15 oed, wedi goresgyn anabledd corfforol, rhwystrau iaith a newid mewn cwrs hwyr i ddilyn ei angerdd am y cyfryngau chwaraeon.

A man in a graduation gown and cap sits in a wheelchair, smiling proudly at his achievement.


Wedi'i eni â spina bifida, mae Omer Hagomer yn ddefnyddiwr cadair olwyn ac mae'n rhoi'r clod i chwaraeon, yn enwedig pêl-fasged cadair olwyn, am lunio ei gynnydd.

Mae Omer bellach yn nodi diwedd ei radd Cyfryngau Chwaraeon gyda CV hynod, ar ôl gweithio gyda Channel 4 eisoes, cwmpasu twrnameintiau rygbi mawr a sicrhau rôl y tu ôl i'r llenni yng Ngemau Paralympaidd Paris 2024.

Ar ôl cyrraedd y DU, yn gallu siarad Saesneg cyfyngedig, mynychodd Omer Ysgol Uwchradd Willows yn Nhremorfa, Caerdydd. Mae'n rhoi diolch i’r ysgol am chwarae rhan allweddol yn ei ddatblygiad mewn chwaraeon ac iaith. Gwellodd Omer ei Saesneg mewn clwb ar ôl oriau’r ysgol, sy'n benodol ar gyfer plant i ddatblygu sgiliau Saesneg, fel eu hail iaith. Yn yr ysgol, cafodd ei gyflwyno i dîm pêl-fasged cadair olwyn Met Caerdydd - tîm y mae wedi ei gynrychioli ers 2017.

“Dwi wedi dwlu ar chwaraeon ers erioed, yn enwedig pêl-fasged a reslo,” meddai Omer. “Ond pan ddaeth y pandemig cefais gyfle i ailfeddwl a sylweddolais fy mod eisiau llunio gyrfa ynddo. Pan wnes i ddod o hyd i'r cwrs Cyfryngau Chwaraeon ym Met Caerdydd, roeddwn i'n gwybod fy mod i wedi dod o hyd i’m ffordd i’r diwydiant.”

Yn wreiddiol, dechreuodd astudio gradd mewn peirianneg feddygol ym Mhrifysgol Caerdydd, trosglwyddodd Omer i radd Cyfryngau Chwaraeon yn ystod y cyfnod clirio. Ers hynny, mae wedi llunio arferion trawiadol yn y maes, gan ennill profiad fel rheolwr llawr a gohebydd drwy gwmnïau Channel 4 a Media Atom, ac fel rhedwr yng Ngemau Paralympaidd Paris.

Mae'n diolch i Joe Towns, ei fentor a darlithydd ym Met Caerdydd, i’w helpu i agor drysau: “Mae wedi gweld potensial ynof i na welais ynof fy hun. Mae wedi fy ngwthio at gyfleoedd na fyddwn wedi cael yr hyder i fynd amdanynt fel arall.”

Ar ôl graddio, mae Omer yn bwriadu cymryd blwyddyn o saib, i ddysgu Cymraeg ac ehangu i ddarlledu dwyieithog, mi fydd e hefyd yn parhau i hyfforddi pêl-fasged gyda gobeithion o ddychwelyd i'r Gemau Paralympaidd fel cystadleuydd.