Skip to content
Ymunwch â ni ym mis Medi. Gwneud cais drwy Glirio

Myfyrwyr Met Caerdydd 2025 yn dathlu graddio yng Nghanolfan Mileniwm Cymru

14 Gorffennaf 2025

Yr wythnos hon, bydd myfyrwyr o Brifysgol Metropolitan Caerdydd yn graddio yng Nghanolfan Mileniwm Cymru.

Bydd dros 3,200 o fyfyrwyr o fwy na 90 o wledydd yn mynychu seremonïau graddio Gorffennaf sy'n cael eu cynnal o ddydd Llun 14 Gorffennaf tan ddydd Iau 17 Gorffennaf.

A group of six Cardiff Metropolitan University graduates in academic gowns and caps smiling and posing together outside the Wales Millennium Centre during the Class of 2025 graduation ceremonies.


Dywedodd yr Athro Rachael Langford, Is-Ganghellor a Llywydd Met Caerdydd: “Mae’r wythnos raddio yn foment pwysig yng nghalendr ein Prifysgol - amser arbennig i ddathlu cyflawniadau ein myfyrwyr. Mae'n gyfle i ni groesawu graddedigion, ynghyd â'u teuluoedd, ffrindiau a'u cefnogwyr sydd wedi bod wrth eu hochr drwy gydol eu taith academaidd.

“Ar ran cymuned gyfan y Brifysgol, rydym yn estyn llongyfarchiadau o waelod calon i bawb sy'n graddio'r wythnos hon. Mae eich llwyddiant yn ganlyniad i’r blynyddoedd o ymroddiad a dyfalbarhad, ac rydym yn hynod falch. Wrth i chi gamu i'r bennod newydd gyffrous hon, dymunwn bob llwyddiant i chi ac edrychwn ymlaen at eich croesawu i’n teulu o gyn-fyfyrwyr Met Caerdydd. “

Mae seremonïau graddio Met Caerdydd ym mis Gorffennaf yn dod â myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig o'r DU a thramor at ei gilydd, o bob un o'r pum Ysgol academaidd (Ysgol Celf a Dylunio, Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol, Ysgol Reoli, Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd, a'r Ysgol Dechnolegau) yn graddio gyda graddau a gwobrau o’r 299 rhaglen astudio israddedig ac ôl-raddedig y Brifysgol.

Mae rhagor o wybodaeth am wythnos raddio ar gael ar wefan Met Caerdydd.