Myfyrwyr yn dathlu yn Seremonïau Graddio mis Tachwedd
Yr wythnos hon, bydd cannoedd o fyfyrwyr o bum ysgol academaidd Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn graddio yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, gan dderbyn gwobrau am ystod eang o raddau israddedig ac ôl-raddedig.
Bydd dros 700 o fyfyrwyr yn mynychu Seremonïau Graddio mis Tachwedd, a gynhelir dros ddau ddiwrnod o ddydd Iau yr 20fed – dydd Gwener 21ain o Dachwedd 2025.
Dywedodd yr Athro Rachael Langford, Llywydd ac Is-Ganghellor Prifysgol Metropolitan Caerdydd: “Mae graddio yn un o uchafbwyntiau’r flwyddyn academaidd ac yn gyfle i staff ddathlu llwyddiant ein graddedigion ynghyd â theuluoedd a ffrindiau pawb sy’n graddio. Rydym yn anfon ein dymuniadau cynhesaf at fyfyrwyr eleni wrth iddynt symud ymlaen i gam nesaf eu taith.”
Am ragor o wybodaeth am yr Wythnos Graddio, ewch i wefan Metropolitan Caerdydd.