Skip to content

Athletwyr Met Caerdydd wedi'u cadarnhau ar gyfer Gemau Olympaidd y Gaeaf Milano Cortina 2026

23 Ionawr 2026

Llongyfarchiadau mawr i dri o gyn-fyfyrwyr Met Caerdydd sy'n mynd i'r Gemau Olympaidd y Gaeaf 2026 yn Milan Cortina (6 i 22 Chwefror).

Maent yn dilyn ôl troed llawer o Archers gynt, i gystadlu ar lwyfan mwyaf y byd ac yn cynrychioli cyflawniad anhygoel i'n cymuned Brifysgol.

Adele Nicoll

Mae Adele Nicoll, sy’n gyn-fyfyriwr, aelod o staff a hyfforddwr Met Caerdydd, wedi cael ei henwi gan Dîm Prydain Fawr fel un o'u hathletwyr i'w gwylio yn y Gemau sydd i ddod.

Dechreuodd Nicoll, sydd eisoes yn bencampwraig taflu pwysau dair gwaith, camp newydd sef bobsled yn 2020. Mi fydd hi bellach yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf yn y Gemau Olympaidd fel peilot bobsled yn y digwyddiadau monobob a dwy fenyw, hi fydd y fenyw gyntaf o Brydain i gystadlu yng Ngemau Olympaidd y Gaeaf mewn monobob.

Daw ei lle ar garfan llithro craidd Tîm Prydain Fawr ar ôl cystadlu fel aelod wrth gefn yn Beijing 2022 a chyflawni canlyniadau cryf ar gylchedau Cwpan y Byd a Chwpan Ewrop.

Astudiodd Adele gwrs Niwrowyddoniaeth Glinigol ym Met Caerdydd a dyfarnwyd Doethuriaeth mewn Seicoleg Glinigol iddi yn 2023.

Leon Greenwood

Llongyfarchiadau hefyd i Leon Greenwood, un o raddedigion gradd BSc Chwaraeon ac Addysg Gorfforol a gynrychiolodd Met Caerdydd fel sbrintiwr ac athletwr pêl-fasged yn ystod ei gyfnod yn astudio ym Met Caerdydd rhwng 2015-2018.

Four Cardiff Met athletes wearing medals
Leon Greenwood (chwith)

Ymunodd Leon â rhaglen Bobsled Prydain yn 2022 ac ers hynny mae wedi ennill medalau ym Mhencampwriaethau'r Byd ac Ewrop.

Mae bellach wedi cael ei ddewis ar gyfer criw bobsled pedwar dyn Tîm Prydain Fawr, gan nodi ei ymddangosiad cyntaf yn y Gemau Olympaidd.

Mica Moore

Mica Moore yw ein trydydd Olympiad. Yn gyn-sbrintiwr merched, bellach wedi cael ei dewis i gynrychioli tîm bobsled Jamaica yn ei hail Gemau Olympaidd y Gaeaf, gan gystadlu yn y monobob merched.

Cardiff Met student in black sportswear crouches on running track
Mica Moore

Cynrychiolodd Mica, a astudiodd BSc Addysg a Chwaraeon ac MSc Darlledu Chwaraeon ym Met Caerdydd ac sy'n dal i hyfforddi yn y Ganolfan Athletau Dan Do Genedlaethol, gynrychiolodd Prydain Fawr yn y digwyddiad bobsled dwy fenyw yng Ngemau Olympaidd y Gaeaf 2018 yn Ne Corea.

Dyma atgoffyn bod rhagoriaeth chwaraeon yn croesi ffiniau a disgyblaethau.

Yn ddiweddar, recordiodd Mica fideo am ei gobeithion Olympaidd, wedi'i ffilmio a'i olygu gan Devin Pote, un o fyfyrwyr Joe Towns, ar ei gwrs MSc Darlledu Chwaraeon.

Byddwn yn cefnogi Adele, Leon a Mica wrth iddyn nhw gystadlu ar lwyfan chwaraeon gaeaf mwyaf y byd. Pob lwc i'r tri.