Skip to content

Cwestiynau Cyffredin am Gyllid Myfyriwr

Beth ydw i'n ei wneud os yw Cyllid Myfyrwyr yn aros am gadarnhad o bresenoldeb?

Mae'r broses hon yn cael ei chwblhau gan ein tîm Gwasanaethau Cofrestru ar ddechrau'r flwyddyn academaidd. E-bostiwch enrolment@cardiffmet.ac.uk am gymorth.

Beth ddylwn i ei wneud os ydw i'n derbyn Cyllid Myfyrwyr?

Byddwn yn derbyn cadarnhad o'ch cyllid yn uniongyrchol gan Gyllid Myfyrwyr. Byddem yn argymell eich bod yn gwneud cais gyda digon o amser, fel bod y cais wedi'i dderbyn cyn dechrau'r tymor.

Beth ydw i'n ei wneud os yw fy Nghyllid Myfyrwyr yn hwyr?

E-bostiwch tuitionfees@cardiffmet.ac.uk i roi gwybod os yw eich benthyciad ffi dysgu cyllid myfyrwyr yn hwyr, a rhowch wybod i ni am unrhyw ddiweddariadau a dderbyniwch gan Gyllid Myfyrwyr. Byddem yn eich annog i gysylltu â Chyllid Myfyrwyr yn rheolaidd.

Os na ddarperir cyllid erbyn dechrau tymor 2, efallai y bydd gofyn i chi ddechrau talu eich ffioedd yn y cyfamser. Unwaith y byddwn yn derbyn cyllid gan Gyllid Myfyrwyr, bydd unrhyw ordaliadau yn cael eu hail-dalu. 

A fydd yn rhaid i mi dalu fy Ffioedd Dysgu os byddaf yn tynnu'n ôl o'm cwrs?

Os ydych am dynnu'n ôl o'ch cwrs, bydd eich dyddiad tynnu'n ôl yn penderfynu faint o'ch ffi ddysgu sy'n daladwy. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth, gan gynnwys dadansoddiad o ddyddiadau, yma: Tynnu'n ôl a Ffioedd.

Faint fydd yn rhaid i mi ei dalu os oes angen i mi ail-wneud astudiaethau? 

Os ydych yn ail-wneud unrhyw elfen o astudiaethau eich blwyddyn flaenorol, bydd tâl yn cael ei gyfrifo yn seiliedig ar nifer y credydau y mae angen i chi ailgofrestru amdanynt, a bydd yn ystyried unrhyw lwfans a wneir drwy'r weithdrefn Amgylchiadau Lliniarol (gweler y Llawlyfr Myfyrwyr). Bydd y tâl hwn yn elfen pro-rata o'ch ffi safonol e.e. os ydych chi'n fyfyriwr 'Cartref' ar raglen Israddedig amser llawn (ar £9,790.00) sydd angen ail-wneud 60 Credyd (o 120), eich tâl fydd £4,895.00.

Beth ddylwn i ei wneud os ydw i'n cael fy noddi?

Darparwch lythyr noddwr ar bapur â phennawd/cyfeiriad e-bost y cwmni – dylid lanlwytho hwn yn ystod eich cofrestriad ar-lein neu ei anfon drwy e-bost at enrolment@cardiffmet.ac.uk.

Bydd angen i'r llythyr noddwr gadarnhau'r wybodaeth ganlynol:

  • Enw'r noddwr
  • Cyfeiriad post
  • Cyfeiriad e-bost
  • Lefel y cyllid
  • Enw a rhif y myfyriwr
  • Rhif archeb brynu (os yw’n berthnasol) 

Ar ôl i ni dderbyn hyn, gallwn ddiweddaru eich cofnod myfyriwr a bilio'ch noddwr yn uniongyrchol. Bydd angen i chi wneud hyn ar gyfer pob blwyddyn o astudio.

Beth ddylwn i ei wneud os ydw i'n derbyn bwrsari’r GIG?

Bydd GIG Cymru yn ein hysbysu'n uniongyrchol pa fyfyrwyr sy'n cael eu hariannu. Os ydych chi'n derbyn anfoneb ffioedd dysgu, cysylltwch â thîm Bwrsari’r GIG i wirio a oes problem gyda'ch cyllid.

A allaf dalu mewn rhandaliadau os ydw i'n hunan-ariannu?

Gallwch - gallwch wneud taliad yn llawn neu sefydlu rhandaliadau (Taliadau Cerdyn Cylchol).

Mae cynlluniau rhandaliadau ar gael i fyfyrwyr Cartref a Rhyngwladol.

Gweler y Dudalen Taliadau i gael gwybodaeth am sut a phryd i dalu.

Sut allaf sefydlu cynllun rhandaliadau?

Os ydych chi'n dewis talu eich ffioedd dysgu mewn rhandaliadau, gallwch dalu trwy gytundeb Taliad Cerdyn Cylchol. Ewch i'r ddolen yn eich cyfrif cyllid ar MetCentral.

I fewngofnodi, rhowch eich manylion cyfeiriadur gweithredol yn y fformat st12345678@outlook.cardiffmet.ac.uk a'ch cyfrinair.

Gweler y cyfarwyddyd ar Sefydlu Rhandaliadau trwy Daliadau Cerdyn Cylchol (RCP).

Faint yw fy ffioedd?

Mae’r holl ffioedd dysgu ar gael yma: Ffioedd Dysgu.

Ydw i’n gymwys ar gyfer unrhyw ysgoloriaethau neu fwrsarïau?

Gellir dod o hyd i wybodaeth am ysgoloriaethau sydd ar gael i fyfyrwyr cartref yma: Bwrsariaethau ac Ysgoloriaethau.

Gellir dod o hyd i wybodaeth am ysgoloriaethau sydd ar gael i fyfyrwyr rhyngwladol yma: Gwneud Cais am Ysgoloriaethau Met Caerdydd.

A allaf gael gostyngiad Cyn-fyfyrwyr?

Gellir ddod o hyd i'r holl wybodaeth am y Gostyngiad i Gyn-fyfyrwyr yma: Gostyngiad i Gyn-fyfyrwyr.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach neu os ydych am gadarnhau a ydych yn gymwys, e-bostiwch scholarship@cardiffmet.ac.uk.