Concordat Datblygu Ymchwilwyr
Mae'r Concordat yn gytundeb rhanddeiliaid i gefnogi datblygiad gyrfa ymchwilwyr a'r amgylchedd ymchwil y mae'r gyrfaoedd hynny'n cael eu hadeiladu oddi mewn iddo. Mae rhagor o wybodaeth am y Concordat ar gael yma.
Mae'r pedwar grŵp rhanddeiliaid allweddol (Cyllidwyr, Sefydliadau, Ymchwilwyr a Rheolwyr Ymchwilwyr) yn ymrwymo i ystod o ymrwymiadau o dan dair egwyddor glir: Yr Amgylchedd a Diwylliant, Cyflogaeth a Datblygiad Proffesiynol a Gyrfaol, gyda'r nod o gynyddu atyniad a chynaliadwyedd gyrfaoedd ymchwilwyr.
Wedi’i lansio yn 2008, cafodd y Concordat gwreiddiol ei ailwampio'n sylweddol yn 2019 i gynnwys mesurau mwy uchelgeisiol a mwy o atebolrwydd i randdeiliaid
Daeth Met Caerdydd yn llofnodwr yn 2021, gydag arwydd yr IG i'r perwyl hwnnw ar 3 Chwefror. Gellir gweld copi o'r llythyr hwnnw yma.
Wrth lofnodi'r Concordat, mae'r Brifysgol wedi nodi ei hymrwymiad parhaus i gefnogi gyrfaoedd ein staff ymchwil, ond hefyd i weithio mewn partneriaeth â sefydliadau a chyllidwyr eraill i ddatblygu newidiadau systemig ehangach.
Cwrdd ag ein hymrwymiadau Concordat
Rheolir gweithredu'r Concordat i Gefnogi Datblygiad Gyrfa'r Ymchwilwyr gan Wasanaethau Ymchwil ac Arloesi, gyda chyfrifoldeb o ddydd i ddydd am weithredu'n disgyn ar Swyddog Datblygu Staff y Brifysgol sy'n eistedd ar y Grŵp Gweithredu Concordat (CIG). Caiff y CIG ei gadeirio gan Gyfarwyddwr Ymchwil y Brifysgol, ac mae'n cynnwys ymchwilwyr a rheolwyr ymchwil o bob rhan o'r Brifysgol. Mae'n adrodd cynnydd yn erbyn y Cynllun Gweithredu Concordat i Bwyllgor Ymchwil ac Arloesedd y Brifysgol yn flynyddol.
Mae Met Caerdydd yn parhau i gyflawni ei holl gyfrifoldebau llofnodol. Ceir tystiolaeth o'n hymrwymiad parhaus i gefnogi ymchwilwyr ar bob cam o'u gyrfaoedd yn ein Hadroddiadau Blynyddol i Fwrdd Llywodraethwyr y Brifysgol (ByLl).
Mae'r adroddiadau hyn wedi'u llofnodi gan Gadeirydd ByLl cyn eu cyflwyno ac mae i'w gweld yma:
- Adroddiad Blynyddol Concordat 2023-2024
- Adroddiad Blynyddol Concordat 2022-2023
- Adroddiad Blynyddol Concordat 2022
Cymryd rhan
Os ydych yn aelod o staff sydd â diddordeb yn y Concordat ac os hoffech gymryd rhan yn y gwaith o gefnogi'r gwaith o'i gyflwyno, cysylltwch ag Orla Govers ogovers@cardiffmet.ac.uk.