Skip to content

Canolfan Ymchwil Cyfrifiadura Creadigol

A close-up of a laptop computer. On the laptop screen is a map of the world. A close-up of a laptop computer. On the laptop screen is a map of the world.
01 - 02

Mae'r Ganolfan Ymchwil Cyfrifiadura Greadigol (CCRC) yn cynnal ymchwil arloesol mewn gwyddor data, deallusrwydd artiffisial (AI) a rhyngweithio rhwng pobl a chyfrifiaduron (HCI) i fynd i'r afael â heriau cymhleth cymdeithasol sy’n effeithio ar lesiant pobl.

Yn rhan o Ysgol Dechnolegau Caerdydd, mae'r Ganolfan yn datblygu cymwysiadau a thechnolegau arloesol ar gyfer ystod amrywiol o ddefnyddwyr a phrofiadau, gyda'r nod o wneud y defnydd gorau o bobl a pheiriannau.

Mae'n cydweithio â sefydliadau academaidd, partneriaid diwydiant a chymunedau yng Nghymru ac ar draws y byd i archwilio croestoriad rhwng technoleg, creadigrwydd a phobl.

Mae'r Ganolfan hefyd yn darparu gwasanaethau ymgynghori ar gyfer amrywiaeth o ddiwydiannau, gan gynnwys peirianneg feddalwedd, addysg, busnes, gofal iechyd a gemau, ymhlith eraill. 

Mae Dr Fiona Carroll, Dr Hasan Kahtan Al-Ani a Dr Joel Pinney yn cydweithio â Miller Research ar hyn o bryd, ar ôl cael comisiwn gan Lywodraeth Cymru i arwain astudiaeth ar ddiffinio’r Safon Ofynnol ar gyfer Bywyd Digidol (MDLS) yng Nghymru.

Mae'r prosiect arloesol hwn yn ceisio mynd i'r afael ag anghydraddoldeb digidol drwy benderfynu beth sy'n sefydlu gwaelodlin dderbyniol ar gyfer cynhwysiant digidol – gan gynnwys mynediad at ddyfeisiau, cysylltedd rhyngrwyd, llythrennedd digidol, a'r gallu i ymgysylltu'n ddiogel ac yn hyderus ar-lein.

Themâu ymchwil

Dyma brif themâu ymchwil y Ganolfan:

  • Gemau – Mae'r thema hon yn archwilio gemau fel arteffactau diwylliannol, cymdeithasol a thechnolegol cymhleth. Mae'n archwilio sut mae gemau'n cael eu dylunio, eu datblygu, eu chwarae a'u deall, gan ystyried eu heffaith ar ymddygiad pobl, hunaniaeth a chymdeithas.
  • Technoleg addysgol – Mae'r thema hon yn canolbwyntio ar ddylunio, datblygu, gwerthuso ac effaith technoleg mewn lleoliadau addysgol. Mae'n cwmpasu defnyddio technoleg i wella profiadau addysgol presennol a chreu offer arloesol ar gyfer ffurfiau newydd o ddysgu ac addysgu.
  • Peirianneg feddalwedd a deallusrwydd artiffisial – Mae'r thema hon yn archwilio’r croestoriad rhwng peirianneg feddalwedd a deallusrwydd artiffisial, gan ganolbwyntio ar sut y gall deallusrwydd artiffisial wella dylunio, datblygu, cynnal a chadw ac optimeiddio systemau meddalwedd.
  • Deallusrwyd Artiffisial a data – Mae'r thema hon yn ymchwilio i sut y gall algorithmau AI uwch a dulliau sy'n seiliedig ar ddata drawsnewid amrywiol ddiwydiannau ac ymchwil. Mae hefyd yn cwmpasu ymchwil arloesol mewn cynhyrchiant taenlenni ac asesu risg.
  • Iechyd a thechnoleg sy'n canolbwyntio ar bobl – Mae'r thema hon yn astudio'r berthynas ddeinamig rhwng pobl, iechyd a thechnoleg, gan ganolbwyntio ar sut y gall arloesiadau digidol wella darpariaeth gofal iechyd, canlyniadau cleifion a lles corfforol a meddyliol cyffredinol.

Defnyddio arbenigedd CCRC

Gan gyfuno degawdau o brofiad yn y diwydiant ag arbenigedd academaidd, mae'r Ganolfan yn cynnig gwasanaethau ymgynghori i sefydliadau ar draws ystod eang o sectorau – yma yng Nghymru a thu hwnt.

Mae'r Ganolfan yn cynghori ar ddylunio, gweithredu ac optimeiddio atebion sy'n seiliedig ar dechnoleg sy'n cynnwys:

  • Deallusrwydd Artiffisial a pheirianneg feddalwedd
  • Rhyngweithio rhwng pobl a chyfrifiaduron
  • Hygyrchedd a chynhwysiant
  • Risg a chynhyrchiant taenlen
  • Technoleg addysg
  • Modelau iaith mawr (LLM)

A gall y datrysiadau ymarferol, sy'n seiliedig ar dystiolaeth, hyn helpu sefydliadau:

  • Gwella eu heffeithlonrwydd
  • Gwella profiad y defnyddiwr
  • Mabwysiadu AI yn gyfrifol
  • Lleihau risg sefydliadol
  • Gwneud penderfyniadau cyflymach a mwy effeithiol

Mae gwaith yn y gorffennol yn cynnwys ymgynghori ar bedagogeg addysgu a dysgu ac asesu, cyfrifiadura drwy gyfrwng y Gymraeg mewn addysg uwch, a dad-wladychu cwricwlwm a chyflwyniad.

Cysylltu â ni

I gael rhagor o wybodaeth am weithio gyda CCRC, anfonwch e-bost at ccrc.info@cardiffmet.ac.uk.

Mae'r Rhwydwaith Cymorth Dysgu Technoleg Ddigidol (DTLSN) – prosiect dan arweiniad aelod o'r Ganolfan, Dr Fiona Carroll – yn darparu cyrsiau addysg ddigidol, gweithdai, clybiau STEAM a gwersylloedd hyfforddi i ysgolion, elusennau, busnesau a sefydliadau ledled Cymru.

Darganfod mwy ynglŷn â'r DTLSN.

Lawrlwythwch yr astudiaeth achos Ymchwil ac Arloesi DTLSN.

Mae Partneriaegthau Trosglwyddo Gwybodaeth (KTP) yn bartneriaeth a ariennir yn rhannol rhwng busnes, prifysgol a graddedigion sydd wedi'i chynllunio i ymgorffori arbenigedd academaidd, cyflymu arloesedd a gyrru newid strategol.

Yn y fideo hwn, mae'r arweinydd thematig Dr Simon Thorne yn trafod prosiect KTP gydag Yard, asiantaeth dechnegol a digidol, a helpodd i gadw'r busnes ar flaen y gad yn y farchnad.

Gallwch ddarllen mwy am y prosiect yn adroddiad y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Prifysgolion a Busnes 'State of the Relationship'.

Cyfleusterau arbenigol

Mae'r Ganolfan wedi'i chyfarparu â labordy amlbwrpas pwrpasol sydd wedi'i gynllunio ar gyfer ei hastudiaethau defnyddioldeb, hygyrchedd a chynhwysiant, yn ogystal â datblygiad arloesol.

Mae'r labordy yn cynnwys cap Rhyngwyneb Ymennydd-Cyfrifiadur (BCI) g.tec ar gyfer monitro EEG amser real, Pecyn Datblygu GSR Consensys ar gyfer mesur cynhyrfu emosiynol trwy ddargludedd croen, a systemau olrhain llygaid ar gyfer dadansoddi sylw gweledol a rhyngweithio defnyddwyr.

Yn ategu'r rhain mae synwyryddion RFID ar gyfer olrhain gwrthrychau clyfar a galluoedd argraffu 3D Creality ar gyfer creu prototeipiau cyflym o galedwedd wedi'i deilwra a chydrannau rhyngweithiol.

Partneriaethau

Staff allweddol

Cyhoeddiadau diweddaraf

Gweler y cyhoeddiadau diweddaraf gan y Ganolfan.

Straeon dan sylw

Gwobrau

Dyfarnwyd Gwobr Gymrodoriaeth Addysgu Genedlaethol nodedig i Dr Fiona Carroll yn 2024.

Anrhydeddwyd Dr Raj Ramachandran gan Brifysgol Tamil, Thanjavur, Tamil Nadu, yn 2015 i gydnabod ei gyfraniad at faes cyfrifiadura Tamil. 

Dysgwch fwy

Ewch i dudalen chwiliwr ymchwil Canolfan Ymchwil Cyfrifiadura Creadigol i ddysgu mwy am ei haelodau, allbynnau ymchwil, cydweithrediadau a sut mae ei gwaith yn cyfrannu at Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig.

Gallwch hefyd ddilyn y Ganolfan ar LinkedIn.