Efrydiaeth PhD: Celfydyddau Mynegiannol, Iaith a Lles
Mae’r Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol a’r Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd yn falch iawn o gynnig ysgoloriaeth Lles pedair blynedd a ariennir yn llawn ar: 'Archwiliad beirniadol o rôl y celfyddydau mynegiannol wrth gefnogi datblygiad iaith a'r effaith ar lesiant ymhlith disgyblion dwyieithog ifanc 7-11 oed'.
Mae'r ysgoloriaeth ymchwil yn rhan o brosiect Lles AHRC, a fydd yn ariannu 28 o ysgoloriaethau ymchwil ar draws prifysgolion Cymru. Bydd yr ysgoloriaeth ymchwil hon yn dechrau ym mis Hydref 2026.
Trosolwg o’r Prosiect
Mae diwygiad sylweddol wedi digwydd ym maes addysg yng Nghymru gyda chyflwyniad Cwricwlwm i Gymru, sef fframwaith statudol ar gyfer dysgwyr rhwng 3 a 16 oed. Nod y cwricwlwm yw meithrin dysgu gydol oes drwy bedwar diben craidd: datblygu dysgwyr uchelgeisiol a galluog, cyfranwyr mentrus a chreadigol, unigolion iach a hyderus, a dinasyddion egwyddorol a gwybodus. Trefnir y cwricwlwm o amgylch chwe Maes Dysgu a Phrofiad (MDPh) - gan gynnwys y Celfyddydau Mynegiannol, Iechyd a Lles, ac Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu - gyda phwyslais cryf ar ddilyniant, cynhwysiant a datblygu sgiliau trawsgwricwlaidd.
Mae’r Celfyddydau Mynegiannol yn meddiannu safle unigryw o fewn Cwricwlwm i Gymru, nid yn unig fel maes dysgu, ond hefyd fel dull addysgu sy’n medru cyfoethogi dysgu ar draws y cwricwlwm. Er bod tystiolaeth yn cysylltu’r celfyddydau mynegiannol â gwell lles a datblygiad ieithyddol, nid yw eu rôl mewn cyd-destunau ieithoedd lleiafrifol, megis y Gymraeg, wedi’i harchwilio’n ddigonol. Er bod y Cwricwlwm i Gymru yn annog cydweithio ag artistiaid ac ymagweddau creadigol i gefnogi dysgu, mae hyfforddiant cyfyngedig ym maes addysg gychwynnol athrawon yn aml yn tanseilio hyder ymarferwyr ac yn arwain at ddarpariaeth anghyson.
Mae’r celfyddydau mynegiannol yn chwarae rôl bwysig wrth gefnogi caffael iaith drwy greu cyfleoedd dilys, pwysau isel ar gyfer cyfathrebu. Mae gweithgareddau megis drama, adrodd straeon a cherddoriaeth yn cyfrannu at ddatblygu geirfa, rhuglder llafar ac ymwybyddiaeth ffonolegol—elfennau craidd i ddatblygiad llythrennedd. Mewn lleoliadau cyfrwng Cymraeg a dwyieithog, gall y dulliau hyn helpu i normaleiddio defnydd yr iaith a’i hymgorffori’n ystyrlon o fewn arferion diwylliannol. Er gwaethaf y potensial hwn, mae diffyg ymchwil sylweddol ar rôl y celfyddydau mynegiannol mewn cefnogi datblygiad ieithoedd lleiafrifol.
Bydd yr astudiaeth hon yn gweithio gyda 5–10 ysgol gynradd i werthuso sut y gall y celfyddydau mynegiannol gefnogi datblygiad sgiliau iaith Gymraeg sy’n dod i’r amlwg, yn ogystal â lles disgyblion yng Nghyfnod Cynnydd 1. Bydd y prosiect hefyd yn sefydlu rhwydwaith cydweithredol o ymarferwyr a disgyblion, gan hwyluso cyd-greu strategaethau sy’n berthnasol i’r cyd-destun lleol ac yn gynaliadwy dros amser. Bydd y dull hwn yn cefnogi datblygiad ieithyddol a lles disgyblion, ochr yn ochr â hybu twf proffesiynol ymarferwyr.
Mae’r amcanion ymchwil yn cynnwys:
- Ymchwilio i sut y mae’r celfyddydau mynegiannol yn cefnogi datblygiad cynnar y Gymraeg ymhlith disgyblion.
- Archwilio rôl y celfyddydau mynegiannol wrth hyrwyddo a chynnal lles disgyblion.
- Datblygu a gwerthuso fframwaith seiliedig ar y celfyddydau mynegiannol i gefnogi caffael y Gymraeg a lles disgyblion.
Bydd y dulliau ymchwil yn cynnwys defnyddio mesurau lles safonol ac asesiadau iaith Gymraeg, ynghyd ag arsylwadau, cyfweliadau lled-strwythuredig gydag ymarferwyr, a mewnbwn gan ddisgyblion drwy’r Dull Mosaig.
Bydd y PhD hwn yn cael ei oruchwylio gan Dr Rhiannon Packer, a Dr. Mirain Rhys, gydag Eve Oliver yn gweithredu fel Cynghorydd Proffesiynol.
Lleoliad
Rhaid i holl fyfyrwyr Lles ymgymryd â lleoliad am o leiaf dri mis. Yn achos y prosiect hwn, bydd y lleoliad yn cynnwys cyfres o elfennau cydgysylltiedig sydd wedi’u cynllunio i gefnogi’r myfyriwr i ddylunio fframwaith cydweithredol sy’n integreiddio’r celfyddydau mynegiannol er mwyn cefnogi llythrennedd dwyieithog a lles disgyblion.
Bydd y datblygiad proffesiynol yn cael ei arwain gan Eve Oliver, Arweinydd Celf a Dylunio ar draws rhaglenni Addysg Gychwynnol Athrawon. Gan dynnu ar ei phrofiad helaeth fel Arweinydd Cwricwlwm, bydd Eve yn sicrhau bod y lleoliadau’n adlewyrchu arferion gorau mewn addysgeg y celfyddydau mynegiannol ac yn cyd-fynd â blaenoriaethau Cwricwlwm i Gymru.
Bydd y lleoliad yn cynnwys y canlynol:
- Rhaglen sefydlu strwythuredig a fydd yn cyflwyno addysgeg y celfyddydau mynegiannol, trefniadau diogelu, a chynllunio gwersi, ynghyd ag arsylwadau o wersi mewn ysgolion partner.
- Cyfnod gweithio mewn un o’r ysgolion partner, gan alluogi’r myfyriwr i ddatblygu dealltwriaeth ddyfnach o sut y gall y celfyddydau mynegiannol gefnogi datblygiad cynnar y Gymraeg a chynnal lles disgyblion.
- Mynediad at rwydwaith eang o ysgolion ar draws De Cymru drwy'r Bartneriaeth Caerdydd ar gyfer Addysg Gychwynnol Athrawon, gan gefnogi gweithgareddau ymchwil a lleoliadau. Bydd archwiliad sgiliau cychwynnol yn llywio cynllun datblygu unigol, wedi’i ategu gan gyfleoedd hyfforddi sefydliadol.
- Gweithio’n agos gydag athrawon a disgyblion i feithrin deialog broffesiynol, rhannu arferion arloesol, a chreu cyfleoedd pwrpasol ar gyfer datblygu ymarferwyr.
- Archwilio cyfleoedd cysgodi gyda gweithwyr creadigol proffesiynol drwy bartneriaethau â sefydliadau celfyddydol ledled Cymru, er mwyn cryfhau’r sylfaen addysgeg a llywio datblygiad fframwaith ymarferol ar gyfer integreiddio’r celfyddydau mynegiannol mewn cyd-destunau addysg ddwyieithog.
Gweminar i ymgeiswyr
Cynhelir gweminar i'r ymgeiswyr ar 3 Mawrth am 4yp. Dyma gyfle i drafod prosiect Lles a gofyn cwestiynau.
Cofrestrwch ar gyfer y weminar i ymgeiswyr.
Meini Prawf Mynediad
I gael cyllid ysgoloriaeth ymchwil Lles, dylech feddu ar gymwysterau neu brofiad sydd gyfwerth â gradd anrhydedd yn y DU ar lefel dosbarth cyntaf neu ail ddosbarth uwch, neu radd Meistr. Croesewir ceisiadau hefyd gan fyfyrwyr â chefndiroedd academaidd anhraddodiadol.
Mae'r ysgoloriaeth hon ar gael i fyfyrwyr cartref a rhyngwladol. Ni chodir tâl y gwahaniaeth mewn ffioedd rhwng cyfradd y DU a rhyngwladol ar fyfyrwyr rhyngwladol. Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Gofynion Iaith Gymraeg
Rhaid i’r ymgeisydd llwyddiannus fod yn ddefnyddiwr hyfedr o’r Gymraeg, (ar lefel C1–C2) yn unol â Fframwaith Cyfeirio Cyffredin Ewrop ar gyfer Ieithoedd (CEFR). Disgwylir i’r ymgeisydd weithio’n ddwyieithog drwy gydol y prosiect; fodd bynnag, bydd iaith y cyflwyniad terfynol (h.y. y traethawd hir) yn agored i drafodaeth.
Bydd cymhwysedd yn y Gymraeg yn cael ei asesu fel rhan o’r broses ymgeisio.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae Lles yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth ac i greu amgylchedd cynhwysol i bawb. Rydym yn croesawu ceisiadau gan holl aelodau’r gymuned fyd-eang, heb ystyried oedran, anabledd, rhyw, hunaniaeth rhywedd, ailbennu rhywedd, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd neu famolaeth, crefydd neu gred a chyfeiriadedd rhywiol.
Asesiad
Caiff ymgeiswyr sy'n cyrraedd y rhestr fer eu gwahodd i gyfweliad. Fel rhan o'r broses gyfweld, gofynnir i ymgeiswyr roi cyflwyniad byr ac ateb cyfres o gwestiynau gan banel. Gellir cynnal cyfweliadau wyneb yn wyneb, ond dylent fod ar gael hefyd dros Zoom/Teams i'r holl fyfyrwyr sy'n dymuno cymryd rhan drwy'r cyfryngau hynny. Rydym yn gallu talu am gostau teithio a llety dros nos ar gyfer cyfweliadau. Ar gais, gellir cynnal y cyfweliadau yn Gymraeg.
Sut i gyflwyno cais
Rhaid i geisiadau, gan gynnwys yr holl ddogfennau gofynnol, gael eu derbyn erbyn 27 Mawrth 2026 i ESSHResearchDegrees@cardiffmet.ac.uk.
Rhaid i'ch cais gynnwys:
- CV- Gall hyn fod ar ffurf naratif, gan ddangos sut rydych wedi ymgymryd â phrofiad, taith addysgol a/neu waith sy'n arddangos eich potensial
- Datganiad sy'n nodi eich diddordeb yn y prosiect hwn, eich syniadau ar ei gyfer a'ch addasrwydd i ymgymryd ag ef (uchafswm o 2 dudalen)
- Geirdaon academaidd neu broffesiynol (rhaid i ymgeiswyr ofyn i ganolwyr a chynnwys y geirdaon gyda'u ceisiadau. Rhaid i'r geirda gynnwys manylion am gryfderau ymchwil yr ymgeisydd).
- Tystysgrifau a thrawsgrifiadau gradd (gan gynnwys cyfieithiadau os yw'n berthnasol)
- Os yw'n berthnasol, prawf o hyfedredd yn Saesneg
Oherwydd nifer y ceisiadau a dderbynnir, ni chaiff ceisiadau anghyflawn eu hystyried.
Yn dilyn’r proses ddethol, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael gwahoddiad i gofrestru ar ein rhaglen PhD drwy ein porth ymgeisio Hunanwasanaeth. Yma bydd gofyn i chi lenwi ffurflen gais Prifysgol Metropolitan Caerdydd ac uwchlwytho'r holl ddogfennaeth.
Cyllid
Mae'r ysgoloriaeth ymchwil a ariennir gan yr AHRC yn talu ffïoedd dysgu ac ariantal blynyddol di-dreth yn unol ag isafswm cyfraddau UKRI (£20,780 ar gyfer 2025/26 ar hyn o bryd) ac mae'n cynnwys Grant Cymorth Hyfforddiant Ymchwil. Croesewir ceisiadau amser llawn a rhan-amser. Os oes gennych anabledd, efallai y bydd gennych hawl i'r Lwfans i Fyfyrwyr Anabl ar ben eich ysgoloriaeth ymchwil.
Ariennir yr ysgoloriaeth ymchwil hon fel rhan o ddyfarniad doethurol ehangach a ariennir gan yr AHRC o'r enw "Lles".