Gan gydweithio gydag athrawon, ar gyfer athrawon, fel athrawon, i ysbrydoli meddyliau Cymru yn y dyfodol – mae'r Partneriaeth Caerdydd yn cydweithio â sefydliadau blaenllaw i ddarparu addysg ymarferol o ansawdd uchel i athrawon.
Y Partneriaeth Caerdydd
Mae'r Partneriaeth Caerdydd yn cydweithredu er mwyn sicrhau bod ein hathrawon dan hyfforddiant nid yn unig yn cyflawni, ond yn ceisio rhagori ar y safonau proffesiynol ar gyfer Statws Athro Cymwysedig (SAC) trwy addysg broffesiynol o ansawdd uchel sy'n drylwyr yn ymarferol ac yn heriol yn ddeallusol.
Yn unol â blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ac amcanion Prifysgol Metropolitan Caerdydd, nod Partneriaeth Caerdydd yw bod yn lle teg a chroesawgar ar gyfer pob athro dan hyfforddiant a staff sydd ynghlwm wrth addysg gychwynnol i athrawon. Mae hyn yn golygu bod yn rhagweithiol wrth addysgu am y gwahanol fathau o hiliaeth gan sicrhau bod pob rhanddeiliad yn dangos ymrwymiad at arfer gwrth-hiliol ac at les y gymdeithas gyfan.
Darparwr AGA achrededig Cyngor y Gweithlu Addysg yn Ne Ddwyrain Cymru.
Podlediad 'Emma & Tom Talk Teaching'
"Emma a Tom Talk Teaching" yw ein podlediad, a gyflwynir gan ddarlithwyr Met Caerdydd, Emma Thayer a Tom Breeze, sy’n cynnal trafodaethau dwfn, cyfweliadau manwl, ac adolygiadau o’r llyfrau a’r erthyglau diweddaraf ynglŷn ag addysg.