Cydymffurfiaeth â Safonau’r Gymraeg
Sut gallwn ni sicrhau ein bod yn cydymffurfio â Safonau’r Gymraeg?
Mae gennym ddeddfwriaeth yng Nghymru i amddiffyn, hyrwyddo a hwyluso’r Gymraeg. Creodd Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 Safonau’r Gymraeg. Mae’r rhain yn rhoi’r hawl i bobl gael gwasanaethau gan Met Caerdydd drwy gyfrwng y Gymraeg ac yn sicrhau nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg.
Dylai pobl allu defnyddio’r Gymraeg fel rhan o’u bywydau bob dydd. Dylent gael yr un profiadau â siaradwyr Saesneg. Dylai’r Gymraeg fod yr un mor weladwy a hygyrch â’r Saesneg.
Isod mae tabl a grëwyd gan yr Uned Gymraeg i helpu ysgolion academaidd a gwasanaethau proffesiynol gwrdd â gofynion y safonau. Plis sicrhewch fod y camau canlynol yn cael eu cwblhau gan eich ysgol academaidd/gwasanaeth proffesiynol chi.
Amcan |
Cam(au) Gweithredu |
Llofnodion electronig a negeseuon allan o’r swyddfa dwyieithog |
Mae angen sicrhau bod gan y staff i gyd fersiwn ddwyieithog o'u llofnodion electronig a’u negeseuon allan o’r swyddfa. Mae canllawiau llawn a chyfarwyddiadau cam wrth gam ar gael ar dudalen Cymorth Cymraeg ar InSite. |
Y staff i gyd i ateb y ffôn yn ddwyieithog |
Gall ysgolion academaidd a gwasanaethau proffesiynol gysylltu â'r Uned Gymraeg i drefnu hyfforddiant. |
Codi ymwybyddiaeth am Safonau'r Gymraeg |
Mae angen i staff ym mhob ysgol academaidd a gwasanaeth proffesiynol fod yn ymwybodol o ofynion Safonau’r Gymraeg drwy gwblhau’r e-fodiwl gorfodol ar Yr Iaith Gymraeg a’i Diwylliant ym Met Caerdydd. Gall timoedd hefyd gysylltu â’r Uned Gymraeg i drefnu sesiwn Ymwybyddiaeth Iaith wyneb yn wyneb. |
Creu ffurflenni dwyieithog |
Dylai pob ffurflen sydd ar gael i fyfyrwyr, aelodau'r cyhoedd a sefydliadau allanol fod yn ddwyieithog. Mae hyn yn cynnwys ffurflenni mewn ffurf electronig (e.e. y rhai ar y wefan a’r fewnrwyd) a chopïau caled. Dylai'r ddwy iaith fod yr un mor hygyrch a gweladwy a’i gilydd. Os oes fersiynau Cymraeg a Saesneg ar wahân, rhaid i'r fersiwn Saesneg nodi'n glir bod fersiwn Gymraeg ar gael. Gall togl iaith gael ei ddefnyddio i wneud hwn yn glir ar ffurflenni electronig, ond fel arall, defnyddiwch y testun dwyieithog isod: Mae’r ffurflen hon hefyd ar gael yn Gymraeg / This form is also available in Welsh Mae angen cynhyrchu ffurflenni staff sy'n ymwneud â rhai meysydd yn ddwyieithog. Gweler y tabl ar ddiwedd y ddogfen hon. |
Anfon gohebiaeth |
Cysylltu â myfyriwr neu rywun allanol Y tro cyntaf i chi ohebu â nhw, (neu yn achos myfyriwr cofrestredig, i ddau unigolyn sy’n aelodau o’r un cartref - er enghraifft, y rhieni) gwnewch hynny’n ddwyieithog a gofynnwch iddynt a hoffent ohebu â chi yn Gymraeg, yn Saesneg neu'n ddwyieithog. Dylem gadw cofnod o'u dewis ac yna parhau i gysylltu â nhw yn eu dewis iaith (ieithoedd). Gan fod staff yn newid dros amser, plîs ail-wiriwch y dewis iaith o bryd i’w gilydd. Gallwch ohebu yn Saesneg yn unig â myfyrwyr Cymraeg eu hiaith pan fydd yn ymwneud â chyrsiau neu rannau o gyrsiau a gyflwynir yn Saesneg. Mewn gohebiaeth, cyhoeddiadau a hysbysiadau sy'n gwahodd ymatebion, rhaid i ni gynnwys y datganiad dwyieithog canlynol: Mae Met Caerdydd yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg a Saesneg a byddwn yn sicrhau ein bod yn cyfathrebu â chi yn eich dewis iaith boed yn Gymraeg, yn Saesneg neu'n ddwyieithog dim ond i chi roi gwybod i ni pa un sydd well gennych. Ni fydd gohebu yn Gymraeg yn creu unrhyw oedi. Cardiff Met welcomes correspondence in English and Welsh and we will ensure that we communicate with you in the language of your choice, whether that's English, Welsh or bilingual as long as you let us know which you prefer. Corresponding in Welsh will not lead to any delay.
Os ydych yn derbyn gohebiaeth Gymraeg, cofiwch ateb yn Gymraeg - mae hyn yn cynnwys negeseuon awtomatig yn ogystal â'r ateb (neu atebion) dilynol. Mae canllawiau llawn a chyfarwyddiadau cam wrth gam ar gael ar dudalen Cymorth Cymraeg ar InSite.
Cysylltu â staff Dim ond gohebiaeth (e.e. e-byst a negeseuon Teams) a anfonir at yr holl staff ar draws y brifysgol gyfan sydd angen bod yn ddwyieithog. Dylai’r testun Cymraeg ymddangos ar y chwith, neu uwchben y testun Saesneg fel mai hwnnw sy’n debygol o gael ei ddarllen yn gyntaf. |
Cynhyrchu deunyddiau sy'n cael eu harddangos yn gyhoeddus yn ddwyieithog |
Mae angen sicrhau bod yr holl ddeunyddiau y mae'r Brifysgol yn eu harddangos yn gyhoeddus (gan gynnwys baneri, posteri a nwyddau) yn cael eu cynhyrchu’n ddwyieithog. |
Cynhyrchu deunyddiau cyhoeddusrwydd a hysbysebu yn ddwyieithog
|
Mae angen sicrhau bod yr holl ddeunyddiau cyhoeddusrwydd a hysbysebu (gan gynnwys pamffledi, taflenni, unrhyw ymgyrchoedd marchnata, arddangos a hysbysebu, posteri a datganiadau i'r wasg) a arddangosir neu unrhyw ddeunydd a anfonir at fyfyrwyr neu’n allanol, gael eu cynhyrchu'n ddwyieithog. |
Creu dogfennau dwyieithog
|
Dylai pob dogfen sydd ar gael i fyfyrwyr, aelodau'r cyhoedd a sefydliadau allanol (gan gynnwys cylchlythyrau, tystysgrifau, trwyddedau, gweithdrefnau, rheolau a rheoliadau) fod yn ddwyieithog. Mae hyn yn cynnwys dogfennau mewn ffurf electronig (e.e. y rhai ar y wefan a’r fewnrwyd) a chopïau caled. Dylai'r ddwy iaith fod yr un mor hygyrch a gweladwy a’i gilydd. Os oes fersiynau Cymraeg a Saesneg ar wahân, rhaid i'r fersiwn Saesneg nodi'n glir bod fersiwn Gymraeg ar gael - defnyddiwch y testun dwyieithog isod: Mae’r ddogfen hon hefyd ar gael yn Gymraeg / This document is also available in Welsh Gall dogfennau sy’n ymwneud â darpariaeth academaidd nad yw ar gael yn Gymraeg fod yn uniaith Saesneg. Mae angen cynhyrchu dogfennau staff sy'n ymwneud â rhai meysydd yn ddwyieithog. Gweler y tabl ar ddiwedd y ddogfen hon. |
Arwyddion a hysbysiadau dwyieithog |
Dylai bob arwydd a hysbysiad newydd - gan gynnwys rhai dros dro - gael eu harddangos yn ddwyieithog. Mae hyn hefyd yn cynnwys unrhyw arwyddion sy'n cael eu hailosod neu eu hadnewyddu. Dylai’r testun Cymraeg ymddangos ar y chwith, neu uwchben y testun Saesneg fel mai hwnnw sy’n debygol o gael ei ddarllen yn gyntaf. |
Gwasanaethau ar-lein dwyieithog
|
Apiau Dylai apiau FyMetCaerdydd, Chwaraeon Met Caerdydd a Gwobrau Met yn ogystal â phob ap newydd a gynhyrchir gan, neu ar ran y Brifysgol, fod ar gael yn ddwyieithog a dylent fod yn gwbl weithredol yn Gymraeg (rhaid i bopeth weithio). Rhaglenni Dylai Safleoedd Dysgu Rhithiol y Brifysgol (Moodle, Met Connect a Mahara) fod ar gael yn ddwyieithog. Nid yw hyn yn cynnwys testun sy’n ymwneud â darpariaeth a gyflwynir yn Saesneg yn unig. |
Cyfryngau cymdeithasol dwyieithog |
Rhaid i gyfrifon lefel corfforaethol y Brifysgol, yn ogystal â’r rhai sy’n gweithredu ar lefel ysgol academaidd/gwasanaeth proffesiynol gael eu cynnal yn ddwyieithog.* Gall unrhyw gyfrifon ychwanegol a sefydlir o dan y lefel hon weithredu yn Saesneg yn unig. * Nid yw hyn yn cynnwys cyfrifon LinkedIn. Mae ymadroddion cyffredin ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol ar gael ar dudalen Cymorth Cymraeg ar InSite. |
Gwefan ddwyieithog |
Rhaid i holl gynnwys ar fersiwn Gymraeg a Saesneg y wefan fod yr un peth (gan gynnwys tudalennau cyfredol, newydd a diwygiedig yn ogystal â dogfennaeth).* Dylid diweddaru'r ddwy iaith ar yr un pryd, er mwyn sicrhau nad yw'r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na'r Saesneg. Rhaid i'r cynnwys Cymraeg fod yn gwbl weithredol (rhaid i bopeth weithio). Dylem nodi’n glir ar y dudalen Saesneg ei bod hefyd ar gael yn Gymraeg a darparu dolen uniongyrchol i’r dudalen Gymraeg ar y dudalen Saesneg gyfatebol. Dylem hefyd ddarparu'r un rhyngwyneb a dewislenni ar bob tudalen p’un a ydyn nhw yn Gymraeg neu yn Saesneg. * Yr unig eithriad yw gwybodaeth sy'n targedu myfyrwyr rhyngwladol yn unig. |
Mewnrwyd ddwyieithog |
Dylai testun pob tudalen a’r holl gynnwys cysylltiedig ar gyfer myfyrwyr (MetCanolog, CanolbwyntMet a’r Academi Ddoethurol) fod ar gael yn ddwyieithog a bod yn gwbl weithredol yn Gymraeg, oni bai eu bod yn targedu cynulleidfa ryngwladol yn unig yn benodol. Dylai testun pob tudalen a'r holl gynnwys cysylltiedig ar gyfer staff (InSite) fod yn ddwyieithog. Heblaw y nodir hynny mewn safon arall (e.e. rhai ffurflenni a dogfennau penodol - gweler y tabl ar ddiwedd y ddogfen hon), gall unrhyw gynnwys sy’n cael ei storio y tu ôl i fur gwarchod, h.y. sydd ar gael i rai aelodau o staff yn hytrach na’r holl staff, fod yn uniaith Saesneg. Dylem nodi’n glir ar y dudalen Saesneg ei bod hefyd ar gael yn Gymraeg a darparu dolen uniongyrchol i’r dudalen Gymraeg ar y dudalen Saesneg gyfatebol. Dylem hefyd ddarparu'r rhyngwyneb a'r dewislenni ar bob tudalen yn Gymraeg. |
Cadw gwasanaethau Gymraeg
|
Mae angen sicrhau nad yw’r holl wasanaethau Cymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na'r rhai Saesneg drwy sicrhau:
|
Monitro'r defnydd o ddogfennaeth a gwasanaethau Cymraeg |
Mae angen sicrhau bod cofnod yn cael ei gadw o bawb sy'n gofyn am ddogfennaeth neu wasanaethau yn y Gymraeg. |
Dyma’r ffurflenni a’r dogfennau staff y mae'n rhaid eu cynhyrchu'n ddwyieithog:
Ffurflenni Staff |
Dogfennau Staff |
|
|
Dylai staff, myfyrwyr ac aelodau o’r cyhoedd sy’n siarad Cymraeg allu byw eu bywydau drwy gyfrwng yr iaith felly mae’r gwasanaethau hyn yn bwysig iawn.
Mae’n hawdd sicrhau gwasanaethau dwyieithog o safon uchel cyn belled â’ch bod yn blaengynllunio ac yn ystyried y Gymraeg o’r cychwyn cyntaf. Cofiwch fod help ar gael gan y Criw Cyfieithu, sy’n cynnig gwasanaeth prawfddarllen hefyd. Mae canllawiau ar gael ar dudalen y Gwasanaeth Cyfieithu ar InSite. Anfonwch unrhyw gynnwys sydd i’w weld o amgylch y campysau i’w brawfddarllen wedi unrhyw waith dylunio er mwyn ei wirio’n derfynol cyn i’r deunydd fynd i’w gynhyrchu.
Os oes unrhyw gwestiynau gyda chi, cysylltwch â’r Uned Gymraeg os gwelwch yn dda.