Llais y Myfyrwyr
Mae gan Undeb y Myfyrwyr Swyddog Cymraeg sy’n cynrychioli ein myfyrwyr sy'n siarad Cymraeg. Mae’r swyddog yn aelod o bwyllgorau Cymraeg y Brifysgol er mwyn sicrhau bod llais ein myfyrwyr yn ganolog i’n holl weithrediadau.
- Mae Pwyllgor Defnyddio’r Gymraeg yn:
- Goruchwylio gweithrediad a monitro Safonau’r Gymraeg
- Sicrhau bod ein gwasanaethau Cymraeg yn hygyrch ac o ansawdd uchel
- Helpu normaleiddio’r defnydd o’r Gymraeg ar draws y Brifysgol
- Cangen y Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Dewch i adnabod ein Swyddog Cymraeg
Dewch i wybod mwy am Lloyd Brockhurst, ein Swyddog Cymraeg ar gyfer 2026-27.
Pa gwrs wyt ti’n astudio?
Dw i’n astudio Busnes a Rheolaeth (Cyllid) ac yn fy mlwyddyn olaf.
Sut brofiad wyt ti wedi’i gael fel myfyriwr Cymraeg ym Met Caerdydd?
Dw i’n cael profiad gwych fel myfyriwr ym Met Caerdydd. Dw i wedi gwneud ffrindiau newydd, ac mae sgwrsio â nhw wedi fy helpu i ddatblygu fy iaith. Fel myfyriwr Cymraeg, dw i mor ddiolchgar i’r darlithwyr am eu cymorth ac am fy annog i. Mae’r modiwlau opsiynol ychwanegol wedi helpu gwella fy Nghymraeg i hefyd.
Beth hoffet ti wneud i gefnogi myfyrwyr Cymraeg Met Caerdydd?
Fy ngobaith yw helpu annog myfyrwyr i ddefnyddio’r iaith - o ddysgwyr newydd i siaradwyr brodorol. Byddaf yn annog y myfyrwyr hyn i gymryd rhan mewn digwyddiadau ac i fanteisio o’r cymorth Cymraeg sydd ar gael, er mwyn helpu i gyfoethogi’r gymuned Gymraeg a gwella sgiliau pawb.
Sut gall myfyrwyr rannu eu safbwyntiau a’u syniadau gyda ti?
Gallant anfon e-bost at st20303531@cardiffmet.ac.uk a gallaf drefnu cwrdd â nhw am sgwrs ar-lein neu ar y campws.