Rhaglen Ysgol Gelf Agored Caerdydd 2026-27
Tymor yr hadref
Cyrsiau
Bydd Ysgol Gelf Agored Caerdydd yn agor ei drysau unwaith yn rhagor ym mis hydref 2026, ac mae casgliad eang o gyfleoedd dysgu ardderchog ar gael. O gyrsiau crochenwaith i beintio, o luniadu i ddylunio, ffotograffiaeth, gwneud printiau a chrefft, mae rhywbeth at ddant pawb.
Does dim ots p'un a ydych chi'n artist neu'n ddylunydd profiadol, yn paratoi portffolio i wneud cais am raglen gradd neu raglen Sylfaen, neu os nad ydych erioed wedi gafael mewn pensil o'r blaen. Mae'r cyrsiau a'r gweithdai yn ffordd wych o roi cynnig ar sgiliau newydd neu ddatblygu eich ymarfer ymhellach.
Sylwch, oni nodir yn wahanol yn nisgrifiad y cwrs, mae ein cyrsiau’n agored i'r rheiny sy'n 18 oed neu'n hŷn.
Gallwch gadw lle ar bob cwr: nawr.
Nodwch: Mae’n rhaid i bob cwrs gyrraedd isafswm o archebion i gael ei gynnal (8 fel arfer). Bydd y Brifysgol yn gofyn i chi a oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan mewn cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg fel rhan o’r broses hon.
Rydym wedi gwneud y broses archebu’n gyflymach, yn haws ac yn fwy hygyrch i'n cwsmeriaid. Gallwch nawr drefnu lle yn uniongyrchol ar unrhyw gwrs drwy siop ar-lein Met Caerdydd, sydd ar gael bob awr o'r dydd a'r nos, saith diwrnod yr wythnos, a'r cyntaf i'r felin yw hi. Byddwn yn dal i allu helpu i gadw llefydd dros y ffôn yn ystod yr wythnos, yn ystod oriau swyddfa, os oes angen.
Nodwch y bydd y broses archebu ar gyfer pob cwrs yn cau wythnos union cyn dechrau'r cwrs.
I ymuno â'n rhestr bostio ac i gael y wybodaeth ddiweddaraf am ein rhaglen o gyrsiau, e-bostiwch eich manylion cyswllt at coas@cardiffmet.ac.uk.
Lluniadu
Dyddiad: bob dydd Mawrth, yn dechrau ar 29 Medi, 7.00-9.00yh
Hyd y cwrs: 5 sesiwn
Pris: £125
Tiwtor: Christopher Holloway
Lefel: Dechreuwyr/Canolradd
Datblygwch eich sgiliau lluniadu mewn lleoliad stiwdio drwy archwilio casgliad o ddulliau ac agweddau gwahanol at luniadu, mewn amgylchedd creadigol a chefnogol.
Gan weithio o arsylwi, bydd y cwrs yn ymdrin ag astudiaeth o linell, tôn, siâp, gwead, graddfa a chyfansoddiad. Bydd y pynciau’n cynnwys bywyd llonydd, y ffigur, gofod mewnol ac amrywiaeth o senarios lluniadu arsylwadol. Bydd y cwrs hwn yn canolbwyntio ar egwyddorion lluniadu ac yn datblygu eich sgiliau mewn arsylwi a ffyrdd o weld.
Mae hwn yn ddosbarth a addysgir mewn amgylchedd stiwdio, lle anogir arbrofi a lle gallwch ddysgu trwy dynnu llun. Darperir hyfforddiant ac adborth un i un drwyddi draw.
Bydd angen i’r myfyrwyr ddod â'r canlynol gyda nhw: Bydd un bocs o siarcol helygen, detholiad o bensiliau lluniadu wedi'u graddio, rhwbiwr, papur cetris gwyn A1 ac A2 ar gael yn y dosbarth. Darperir ffioedd dysgu ar gyfer deunyddiau, felly mae'n ddoeth peidio â phrynu'n ddiangen cyn i'r cwrs ddechrau.
*Sylwer y bydd wythnos egwyl ar Ddydd Mawrth 27 Hydref (ar gyfer Hanner Tymor) a bydd y cyrsiau yn ailddechrau yr wythnos ganlynol, sy'n golygu y cynhelir y sesiwn olaf ddydd Mawrth 3 Tachwedd
Dyddiad: Bob dydd Mawrth, yn dechrau ar 10 Tachwedd, 7:00-9:00yh
Hyd y cwrs: 5 sesiwn
Pris: £135
Tiwtor: Christopher Holloway
Lefel: Pob Lefel
Mae bywluniadu’n cynnig cyfle i dynnu llun o’r ffurf ddynol a’i astudio ar hyd deg dosbarth â ffocws. Mae hwn yn ddosbarth sy’n agored i bawb, a fydd yn apelio at bob lefel gan gynnwys dechreuwyr.
Mae'r dosbarthiadau wedi'u strwythuro i roi ystod amrywiol o ystumiau i dynnu eu llun, rhai byr ac estynedig. Bydd y cwrs yn cynnwys ymarferion gosod a fydd yn rhoi cyfle i chi arbrofi a chymryd rhan mewn amrywiaeth o ddulliau tynnu llun. Bydd pob sesiwn yn rhoi’r cyfle i chi ddatblygu a mireinio eich ymateb eich hun i luniadu'r ffigwr.
Mae hwn yn ddosbarth a addysgir mewn amgylchedd stiwdio, lle anogir arbrofi a lle gallwch ddysgu trwy dynnu llun. Darperir hyfforddiant ac adborth un i un drwyddi draw.
Dylai'r myfyrwyr ddod â'r canlynol gyda nhw: Un bocs o siarcol helygen, detholiad o bensiliau lluniadu wedi'u graddio, rhwbiwr, efallai yr hoffech ddod â'ch llyfr braslunio eich hun, bydd papur cetris gwyn A1 ac A2 ar gael yn y dosbarth ar gyfer lluniadau mwy. Darperir ffioedd dysgu ar gyfer deunyddiau, felly mae'n ddoeth peidio â phrynu'n ddiangen cyn i'r cwrs ddechrau.
Peintio
Dyddiad: Dydd Mercher o 30 Medi, 7:00 -9:00
Hyd y cwrs: 10 sesiwn*
Pris: £230
Tiwtor: Christopher Holloway
Lefel: Croeso i bawb
Bydd y cwrs hwn yn archwilio agweddau technegol peintio mewn olew neu acrylig gydag astudiaeth o gyfansoddiad, lliw, ymarfer cymysgu ac arsylwi. Bydd pob dosbarth yn eich tywys drwy gamau cychwynnol peintio a sut i ddefnyddio'ch deunyddiau i ymateb i wahanol bynciau, gan eich arwain i greu sawl paentiad ac astudiaeth drwy gydol y cwrs.
Bydd y cwrs yn dechrau drwy archwilio hanfodion damcaniaeth lliw. Byddwn yn dysgu sut i reoli golau drwy ddefnyddio lliw a chysgod pan yn cymhwyso i ffurfiau syml a siapiau sylfaenol. Gan weithio tuag at gyfansoddiadau mwy sylweddol o arsylwi byddwch yn datblygu dealltwriaeth o raddfa, strwythur, cyfrannedd a gofod, a sut i greu dyfnder yn eich paentiad. Gall datblygu'r elfennau ffurfiol hyn yng nghyfnodau cychwynnol eich taith baentio fod o fudd mawr wrth ddatblygu hyder mewn peintio. Bydd y pynciau’n cynnwys gwrthrychau a bywyd llonydd, ffurfiau naturiol a mannau mewnol.
Bydd y cwrs yn addas i'r rhai sydd am ddatblygu eu profiad peintio gydag olew neu acrylig, wrth geisio hyfforddiant ynghylch yr elfennau peintio technegol a ffurfiol. Dosbarth a addysgir mewn amgylchedd stiwdio cefnogol yw hwn, lle darperir hyfforddiant ac adborth un i un drwy gydol y profiad. Trafodir cyfeiriadau perthnasol at enghreifftiau o weithiau celf cyfoes a hanesyddol i gyflwyno cysyniadau sy'n berthnasol i weithgareddau'r dosbarth.
Beth sydd angen i fyfyrwyr ddod gyda nhw
Myfyrwyr i ddod â: Lliw Olew / Acrylig o Safon Myfyrwyr neu Artistiaid:
- Coch Cynnes e.e. – Cadmium Red
- Coch Oer e.e. - Alizarin Crimson neu Quinacridone Red
- Glas Cynnes e.e. –Cerulean, Manganîs neu Pthalo Blue
- Glas Oer e.e.- Ultramarine Blue
- Melyn Cynnes e.e. - Cadmium Yellow
- Melyn Oer e.e. – Lemon Yellow
- Yellow Ochre
- Viridian Green
- Titanium White
- Du
Gall myfyrwyr ddod â lliwiau ychwanegol os dymunant.
Hefyd: clytiau, palet, cyllyll palet, tâp masgio, brwsys gwastad a/neu grwn - os yn bosibl meintiau 2, 4 ac 8, gwirod gwyn neu dyrpentin ar gyfer artistiaid ag arogl isel (ar gyfer peintwyr olew), jar golchi brwsys, deunyddiau lluniadu (pensil, siarcol, rhwbiwr), gall ffedog fod yn ddefnyddiol.
Arwynebau o wahanol feintiau i beintio arnynt fel – cynfas wedi'i brimio, bwrdd cynfas, papur olew wedi'i brimio / pad papur acrylig, byrddau wedi'u primio, pa un bynnag rydych chi'n teimlo'n gyfforddus yn ei ddefnyddio.
*Sylwer y bydd wythnos egwyl ar Ddydd Mawrth 28 Hydref (ar gyfer Hanner Tymor) a bydd y cyrsiau yn ailddechrau yr wythnos ganlynol, sy'n golygu y cynhelir y sesiwn olaf ddydd Mawrth 9 Rhagfyr
Printiau
Dyddiad: Dydd Mercher o 30 Medi 6.30-8.30pm
Hyd y cwrs: 6 sesiwn
Pris: £160
Tiwtor: Russell John
Lefel: Dechreuwyr/Canolradd
Mae argraffu colagraff yn ffordd wych o ddod â gwead, chwareusrwydd a byrfyfyrdod i'ch delweddau. Mae'n ein galluogi i wneud pethau sy'n gymharol anodd mewn prosesau gwneud printiau eraill, fel 'jig-so' gwahanol ddarnau o ddelwedd gyda'i gilydd, defnyddio techneg rhyddhad ac in-taglio gyda'i gilydd, a defnyddio ystod eang o offer bob dydd i gyflawni gwead a gwneud marciau diddorol ac uniongyrchol. Yn ystod y cwrs 6 wythnos hwn, byddwch yn cael eich cyflwyno i hanfodion gwneud printiau a sut mae'r technegau hyn yn berthnasol i golagraff. Bob wythnos byddwch yn datblygu, golygu a mireinio delweddau cymhleth wrth gael eich tywys drwy'r broses ddiddorol hon. Erbyn diwedd y cwrs byddwch wedi cynhyrchu cyfres o brintiau colagraff mewn amrywiaeth o liwiau a chyfansoddiadau.
Dylai myfyrwyr ddod â'r canlynol gyda nhw:
- Slagpel a/neu gyllell Stanley
- Pensiliau lluniadu
- Delweddau a ddarganfuwyd a/neu ddelweddau personol, llungopïau, toriadau o gylchgronau
Rhoddir cyngor arall yn ystod y sesiwn gyntaf.
Dyddiad: Bob dydd Mercher, yn dechrau ar 11 Tachwedd 2026, 6.30:00-8:30yr
Hyd y cwrs: 6 Sesiwn
Pris: £160
Tiwtor: Russell John
Lefel: Dechreuwyr/Canolradd
Poblogeiddiwyd printiau torlun leino dull lleihau gan Picasso a'i brif argraffydd, Hidalgo Arnéra. Mae'n dechneg print beiddgar a lliwgar.
Yn y cwrs hwn cewch eich tywys drwy ddatblygu a chynhyrchu cyfres o brintiau torlun leino dull lleihau.
Gan ddefnyddio brasluniau, delweddau a ffotograffau a ddarganfuwyd byddwn yn creu cyfansoddiadau personol sy'n defnyddio’r cyfyngiadau cynhenid o brinto leino dull lleihau a defnyddio ei ymddangosiad beiddgar a lliwgar.
Bob wythnos byddwn yn ymateb i'r hyn rydym wedi'i greu o'r blaen ac yn adeiladu ar lwyddiannau, gan ein galluogi i greu argraffiad o brintiau sy'n manteisio ar y dechneg wych hon.
Beth sydd angen i'r myfyrwyr ddod gyda nhw?
-
Delweddau i chi eu darganfod a/neu ddelweddau personol, llungopïau, toriadau o gylchgronau
Bydd cyngor arall yn cael ei roi yn ystod y sesiwn gyntaf.
Dyddiad: Bob dydd Iau, yn dechrau ar 1 Hydref 2026, 6.30:00-8:30yr
Hyd y Cwrs: 8 sesiwn
Pris: £220
Tiwtor: Russell John
Lefel: Dechreuwyr/Canolradd
Lithograffeg Cerrig yw yn un o'r technegau printio traddodiadol mwyaf pwysig, a ddefnyddiwyd ers cannoedd o flynyddoedd gan artistiaid i wneud rhifynnau mawr o brintiau celfyddyd gain, a chan gwmnïau i wneud pob math o ddeunydd wedi'u brintio o ddefnydd pecynnu i bosteri. Yn y cwrs hwn byddwch yn cael eich tywys trwy ddatblygu a chynhyrchu print lithograffeg cerrig eich hun. Byddwch yn gweithio trwy'r broses argraffu lithograffeg cerrig cyfan, o baratoi calchfaen lithograffeg i wneud marciau i argraffu nifer o brintiau celfyddyd gain. Bob wythnos byddwn yn darganfod mwy o'r broses a ffyrdd cyffrous o ddatblygu ac adeiladu ar yr hyn yr ydym eisoes wedi'i wneud. Byddwch yn creu rhifyn o brintiau sy'n manteisio ar y dechneg wych hon.
Beth sydd angen i'r myfyrwyr ddod gyda nhw?
-
Delweddau a ddarganfuwyd a/neu ddelweddau personol, llungopïau, toriadau o gylchgronau. Rhoddir mwy o gyngor yn ystod y sesiwn gyntaf.
Ffotograffiaeth
Dyddiad: Bob dydd Iau, yn dechrau ar 7 Hydref 2026, 6.30:00-9:00yr
Hyd y cwrs: 5 sesiwn
Pris: £245
Tiwtor: Nik Roche
Lefel: Dechreuwyr
Nod y cwrs hwn yw eich helpu i gaffael gwybodaeth am dechnegau ac offer camera proffesiynol yn ogystal â'ch annog i ddatblygu eich sgiliau llythrennedd gweledol er mwyn sefydlu dull effeithiol a phersonol o greu delweddau.
Bydd yn rhoi'r sgiliau ymarferol sydd eu hangen arnoch i ddechrau defnyddio technegau ffotograffig sylfaenol yn hyderus, gan gynnwys rheoli dinoethiad, dyfnder ffocws, dal symudiad a rheoli ffeiliau. Ochr yn ochr â hyn, byddwch yn dysgu ystyried ac ymarfer cysyniadau sylfaenol mewn fframio a chyfansoddiad.
Byddwch yn dysgu sut i weithredu camera SLR Digidol a datgloi ei photensial i wella eich ffotograffiaeth a chynhyrchu portffolio unigol gan ddefnyddio'r sgiliau a'r wybodaeth rydych wedi'u hennill. Byddwch yn derbyn hyfforddiant a chyngor un i un, gyda thasgau annibynnol wythnosol i'w cwblhau ac adolygiad portffolio grŵp terfynol gan eich tiwtor a chynrychiolydd o Ffotogallery Caerdydd.
Dylai myfyrwyr ddod â'r canlynol gyda nhw:
- Camera SLR Digidol gyda Chardiau Cof.
Rhoddir cyngor pellach ar offer yn ystod y sesiwn gyntaf.
Cwrs Adeiladu Portffolio Celf a Dylunio Dydd Sadwrn
Yn dechrau yn Hydref 2026 | Paratowch ar gyfer Ceisiadau Prifysgol ym mis Ionawr 2027
Ydych chi'n gwneud cais am gwrs celf neu ddylunio yn y brifysgol? Eisiau codi eich portffolio gyda gwaith ymarferol, creadigol a chynaliadwy? Ymunwch â'n Cwrs Adeiladu Portffolio — rhaglen tair sesiwn, a fydd yn digwydd ar ddyddiau Sadwrn, a gynlluniwyd i'ch helpu i lunio portffolio cymhellol, parod ar gyfer y brifysgol gan ddefnyddio technegau mynegiannol, arbrofol a digidol.
Wedi'i gynnal yn Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd, ysgol gelf fywiog gyda dros 150 mlynedd o dreftadaeth greadigol, mae'r cwrs hwn yn rhoi mynediad i chi i weithdai proffesiynol, tiwtoriaid arbenigol, ac amgylchedd cefnogol lle gall eich syniadau ffynnu.
🖥️ Sesiwn 1: Cyflwyniad i Ddylunio â Chymorth Cyfrifiadur 3D
Dylunio'n ddigidol, meddyliwch yn dri dimensiwn.
Dan arweiniad Peter Pickford, mae'r sesiwn hon yn cyflwyno myfyrwyr i hanfodion Dylunio â Chymorth Cyfrifiadur 3D. Dysgu sut i wneud y canlynol:
- Creu brasluniau 2D gyda'r dimensiynau a'r cyfyngiadau cywir
- Defnyddio offer 3D craidd i adeiladu cyrff solet
- Deall rhannau a chynulliadau
- Addasu dyluniadau gan ddefnyddio offer Dylunio â Chymorth Cyfrifiadur cyffredin
- Cynhyrchu lluniadau technegol yn effeithlon
Mae'r sesiwn hon yn ddelfrydol ar gyfer myfyrwyr sydd â diddordeb mewn dylunio cynnyrch, pensaernïaeth, neu unrhyw ddisgyblaeth lle mae prototeipio digidol yn allweddol.
Unwaith y byddwch wedi gorffen y sesiwn CAD, bydd arweiniad ar gael ynghylch opsiynau ar gyfer symud ymlaen i addysg bellach.
🖼️ Sesiwn 2: Gwneud Printiau Cynaliadwy
Darganfyddwch harddwch yn yr hyn sy'n cael ei anwybyddu.
Gan ddefnyddio inciau Tetra Pak wedi'u hailgylchu ac inciau sy'n seiliedig ar ddŵr, bydd myfyrwyr yn creu printiau gweadog wedi'u hysbrydoli gan wrthrychau rhydlyd, wedi'u taflu. Dysgwch sut i wneud y canlynol:
- Defnyddio’r offer ysgythru i greu marciau mynegiannol
- Incio’r platiau gyda thechnegau amrywiol
- Llunio’r printiau i archwilio gwead a llinell
- Cofleidio cynaliadwyedd drwy weithio gyda deunyddiau gwastraff
🌿 Sesiwn 3: Gwneud Inc Naturiol a Lluniadu Botanegol
Creu gyda deunydd natur, o ddeunydd natur.
Archwiliwch gelfyddyd hynafol gwneud inc gan ddefnyddio deunyddiau planhigion a gwrthrychau a ddarganfuwyd. Bydd myfyrwyr yn:
- Gwneud inciau a brwsys naturiol o ddeunyddiau organig
- Llunio bywyd llonydd botanegol neu gweithiwch yn ein gardd llifyn a ffibr
- Arbrofi gyda gwneud marciau mynegiannol
- Creu llyfr plygu allan o astudiaethau inc
- Dysgu prosesau hanesyddol gwneud inc
- Mynd â ryseitiau ac offer adref i'w harchwilio'n barhaus
Ar ddiwedd y sesiwn olaf hon bydd aelod profiadol o staff wrth law i gynnal adolygiad portffolio a rhoi cyngor ac awgrymiadau ar sut i deilwra'ch portffolio yn barod ar gyfer cyfweliad, gan gynnwys ffyrdd o ansawdd uchel o enghreifftio'ch gwaith.
👩🏫 Cwrdd â'r Tiwtoriaid
Sian Lester
Yn artist, dylunydd ac addysgwr llawrydd gyda dros 25 mlynedd o brofiad yn y diwydiannau creadigol, mae Sian wedi tywys myfyrwyr drwy baratoi portffolio ers dros ddegawd. Mae ei sesiynau’n ddiddorol, yn gefnogol, ac wedi’u teilwra i’ch helpu i ddisgleirio yn eich ceisiadau prifysgol.
Peter Pickford
Dechreuodd Peter ei yrfa fel peiriannydd safle graddedig cyn symud i weithio gyda thechnolegau digidol o fewn yr Amgylchedd Adeiledig. Mae ganddo ddiddordeb cryf yn y ffordd mae'r amgylchedd adeiledig yn cael ei gyfathrebu'n weledol trwy gydol cylch bywyd prosiect. Yn 2020 cwblhaodd radd meistr mewn Modelu Gwybodaeth Adeiladu ar gyfer Peirianneg Glyfar o Ysgol Peirianneg Caerdydd lle canolbwyntiodd ar ddefnyddio LiDAR ar gyfer ôl-ffitio adeiladau preswyl. O fewn CSAD mae'n rhan o grŵp ymchwil Amgylchedd Adeiledig Cynaliadwy a Gwydn lle mae'n parhau â'i ymchwil i'r maes pwnc hwn.
📅 Manylion y Cwrs
- Pryd: Dyddiaday Sadwrn
10.00yb – 1.00yp ar 14 Tachwedd
10.00yb – 12.00yp ar 21 Tachwedd
10.00yb – 1.00yp ar 28 Tachwedd - Pwy: Myfyrwyr 16–18 oed yn gwneud cais i brifysgol o fis Ionawr 2027 ymlaen
- Ble: Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd, Campws Llandaf, Rhodfa’r Gorllewin.
- Cost: £95 am y 3 sesiwn
- Deunyddiau a Ddarperir: Mae’r holl ddeunyddiau hanfodol wedi'u cynnwys
Pam Ymuno?
- Adeiladu portffolio amrywiol a chreadigol
- Dysgu technegau cynaliadwy, mynegiannol a digidol
- Meithrin hyder yn eich llais artistig
- Derbyniwch arweiniad arbenigol gan addysgwyr profiadol
- Cysylltwch â chyfoedion o'r un anian sy'n paratoi ar gyfer prifysgol