Rhaglen Ysgol Gelf Agored Caerdydd 2026-27
Tymor yr hadref
Cyrsiau
Bydd Ysgol Gelf Agored Caerdydd yn agor ei drysau unwaith yn rhagor ym mis hydref 2026, ac mae casgliad eang o gyfleoedd dysgu ardderchog ar gael. O gyrsiau crochenwaith i beintio, o luniadu i ddylunio, ffotograffiaeth, gwneud printiau a chrefft, mae rhywbeth at ddant pawb.
Does dim ots p'un a ydych chi'n artist neu'n ddylunydd profiadol, yn paratoi portffolio i wneud cais am raglen gradd neu raglen Sylfaen, neu os nad ydych erioed wedi gafael mewn pensil o'r blaen. Mae'r cyrsiau a'r gweithdai yn ffordd wych o roi cynnig ar sgiliau newydd neu ddatblygu eich ymarfer ymhellach.
Sylwch, oni nodir yn wahanol yn nisgrifiad y cwrs, mae ein cyrsiau’n agored i'r rheiny sy'n 18 oed neu'n hŷn.
Gallwch gadw lle ar bob cwr: nawr.
Nodwch: Mae’n rhaid i bob cwrs gyrraedd isafswm o archebion i gael ei gynnal (8 fel arfer). Bydd y Brifysgol yn gofyn i chi a oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan mewn cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg fel rhan o’r broses hon.
Rydym wedi gwneud y broses archebu’n gyflymach, yn haws ac yn fwy hygyrch i'n cwsmeriaid. Gallwch nawr drefnu lle yn uniongyrchol ar unrhyw gwrs drwy siop ar-lein Met Caerdydd, sydd ar gael bob awr o'r dydd a'r nos, saith diwrnod yr wythnos, a'r cyntaf i'r felin yw hi. Byddwn yn dal i allu helpu i gadw llefydd dros y ffôn yn ystod yr wythnos, yn ystod oriau swyddfa, os oes angen.
Nodwch y bydd y broses archebu ar gyfer pob cwrs yn cau wythnos union cyn dechrau'r cwrs.
I ymuno â'n rhestr bostio ac i gael y wybodaeth ddiweddaraf am ein rhaglen o gyrsiau, e-bostiwch eich manylion cyswllt at coas@cardiffmet.ac.uk.
Lluniadu
Dyddiad: bob dydd Mawrth, yn dechrau ar 29 Medi, 7.00-9.00yh
Hyd y cwrs: 5 sesiwn
Pris: £125
Tiwtor: Christopher Holloway
Lefel: Dechreuwyr/Canolradd
Datblygwch eich sgiliau lluniadu mewn lleoliad stiwdio drwy archwilio casgliad o ddulliau ac agweddau gwahanol at luniadu, mewn amgylchedd creadigol a chefnogol.
Gan weithio o arsylwi, bydd y cwrs yn ymdrin ag astudiaeth o linell, tôn, siâp, gwead, graddfa a chyfansoddiad. Bydd y pynciau’n cynnwys bywyd llonydd, y ffigur, gofod mewnol ac amrywiaeth o senarios lluniadu arsylwadol. Bydd y cwrs hwn yn canolbwyntio ar egwyddorion lluniadu ac yn datblygu eich sgiliau mewn arsylwi a ffyrdd o weld.
Mae hwn yn ddosbarth a addysgir mewn amgylchedd stiwdio, lle anogir arbrofi a lle gallwch ddysgu trwy dynnu llun. Darperir hyfforddiant ac adborth un i un drwyddi draw.
Bydd angen i’r myfyrwyr ddod â'r canlynol gyda nhw: Bydd un bocs o siarcol helygen, detholiad o bensiliau lluniadu wedi'u graddio, rhwbiwr, papur cetris gwyn A1 ac A2 ar gael yn y dosbarth. Darperir ffioedd dysgu ar gyfer deunyddiau, felly mae'n ddoeth peidio â phrynu'n ddiangen cyn i'r cwrs ddechrau.
*Sylwer y bydd wythnos egwyl ar Ddydd Mawrth 27 Hydref (ar gyfer Hanner Tymor) a bydd y cyrsiau yn ailddechrau yr wythnos ganlynol, sy'n golygu y cynhelir y sesiwn olaf ddydd Mawrth 3 Tachwedd
Dyddiad: Bob dydd Mawrth, yn dechrau ar 10 Tachwedd, 7:00-9:00yh
Hyd y cwrs: 5 sesiwn
Pris: £135
Tiwtor: Christopher Holloway
Lefel: Pob Lefel
Mae bywluniadu’n cynnig cyfle i dynnu llun o’r ffurf ddynol a’i astudio ar hyd deg dosbarth â ffocws. Mae hwn yn ddosbarth sy’n agored i bawb, a fydd yn apelio at bob lefel gan gynnwys dechreuwyr.
Mae'r dosbarthiadau wedi'u strwythuro i roi ystod amrywiol o ystumiau i dynnu eu llun, rhai byr ac estynedig. Bydd y cwrs yn cynnwys ymarferion gosod a fydd yn rhoi cyfle i chi arbrofi a chymryd rhan mewn amrywiaeth o ddulliau tynnu llun. Bydd pob sesiwn yn rhoi’r cyfle i chi ddatblygu a mireinio eich ymateb eich hun i luniadu'r ffigwr.
Mae hwn yn ddosbarth a addysgir mewn amgylchedd stiwdio, lle anogir arbrofi a lle gallwch ddysgu trwy dynnu llun. Darperir hyfforddiant ac adborth un i un drwyddi draw.
Dylai'r myfyrwyr ddod â'r canlynol gyda nhw: Un bocs o siarcol helygen, detholiad o bensiliau lluniadu wedi'u graddio, rhwbiwr, efallai yr hoffech ddod â'ch llyfr braslunio eich hun, bydd papur cetris gwyn A1 ac A2 ar gael yn y dosbarth ar gyfer lluniadau mwy. Darperir ffioedd dysgu ar gyfer deunyddiau, felly mae'n ddoeth peidio â phrynu'n ddiangen cyn i'r cwrs ddechrau.
Peintio
Dyddiad: Dydd Mercher o 30 Medi, 7:00 -9:00
Hyd y cwrs: 10 sesiwn*
Pris: £230
Tiwtor: Christopher Holloway
Lefel: Croeso i bawb
Bydd y cwrs hwn yn archwilio agweddau technegol peintio mewn olew neu acrylig gydag astudiaeth o gyfansoddiad, lliw, ymarfer cymysgu ac arsylwi. Bydd pob dosbarth yn eich tywys drwy gamau cychwynnol peintio a sut i ddefnyddio'ch deunyddiau i ymateb i wahanol bynciau, gan eich arwain i greu sawl paentiad ac astudiaeth drwy gydol y cwrs.
Bydd y cwrs yn dechrau drwy archwilio hanfodion damcaniaeth lliw. Byddwn yn dysgu sut i reoli golau drwy ddefnyddio lliw a chysgod pan yn cymhwyso i ffurfiau syml a siapiau sylfaenol. Gan weithio tuag at gyfansoddiadau mwy sylweddol o arsylwi byddwch yn datblygu dealltwriaeth o raddfa, strwythur, cyfrannedd a gofod, a sut i greu dyfnder yn eich paentiad. Gall datblygu'r elfennau ffurfiol hyn yng nghyfnodau cychwynnol eich taith baentio fod o fudd mawr wrth ddatblygu hyder mewn peintio. Bydd y pynciau’n cynnwys gwrthrychau a bywyd llonydd, ffurfiau naturiol a mannau mewnol.
Bydd y cwrs yn addas i'r rhai sydd am ddatblygu eu profiad peintio gydag olew neu acrylig, wrth geisio hyfforddiant ynghylch yr elfennau peintio technegol a ffurfiol. Dosbarth a addysgir mewn amgylchedd stiwdio cefnogol yw hwn, lle darperir hyfforddiant ac adborth un i un drwy gydol y profiad. Trafodir cyfeiriadau perthnasol at enghreifftiau o weithiau celf cyfoes a hanesyddol i gyflwyno cysyniadau sy'n berthnasol i weithgareddau'r dosbarth.
Beth sydd angen i fyfyrwyr ddod gyda nhw
Myfyrwyr i ddod â: Lliw Olew / Acrylig o Safon Myfyrwyr neu Artistiaid:
- Coch Cynnes e.e. – Cadmium Red
- Coch Oer e.e. - Alizarin Crimson neu Quinacridone Red
- Glas Cynnes e.e. –Cerulean, Manganîs neu Pthalo Blue
- Glas Oer e.e.- Ultramarine Blue
- Melyn Cynnes e.e. - Cadmium Yellow
- Melyn Oer e.e. – Lemon Yellow
- Yellow Ochre
- Viridian Green
- Titanium White
- Du
Gall myfyrwyr ddod â lliwiau ychwanegol os dymunant.
Hefyd: clytiau, palet, cyllyll palet, tâp masgio, brwsys gwastad a/neu grwn - os yn bosibl meintiau 2, 4 ac 8, gwirod gwyn neu dyrpentin ar gyfer artistiaid ag arogl isel (ar gyfer peintwyr olew), jar golchi brwsys, deunyddiau lluniadu (pensil, siarcol, rhwbiwr), gall ffedog fod yn ddefnyddiol.
Arwynebau o wahanol feintiau i beintio arnynt fel – cynfas wedi'i brimio, bwrdd cynfas, papur olew wedi'i brimio / pad papur acrylig, byrddau wedi'u primio, pa un bynnag rydych chi'n teimlo'n gyfforddus yn ei ddefnyddio.
*Sylwer y bydd wythnos egwyl ar Ddydd Mawrth 28 Hydref (ar gyfer Hanner Tymor) a bydd y cyrsiau yn ailddechrau yr wythnos ganlynol, sy'n golygu y cynhelir y sesiwn olaf ddydd Mawrth 9 Rhagfyr
Printiau
Dyddiad: Dydd Mercher o 30 Medi 6.30-8.30pm
Hyd y cwrs: 6 sesiwn
Pris: £160
Tiwtor: Russell John
Lefel: Dechreuwyr/Canolradd
Mae argraffu colagraff yn ffordd wych o ddod â gwead, chwareusrwydd a byrfyfyrdod i'ch delweddau. Mae'n ein galluogi i wneud pethau sy'n gymharol anodd mewn prosesau gwneud printiau eraill, fel 'jig-so' gwahanol ddarnau o ddelwedd gyda'i gilydd, defnyddio techneg rhyddhad ac in-taglio gyda'i gilydd, a defnyddio ystod eang o offer bob dydd i gyflawni gwead a gwneud marciau diddorol ac uniongyrchol. Yn ystod y cwrs 6 wythnos hwn, byddwch yn cael eich cyflwyno i hanfodion gwneud printiau a sut mae'r technegau hyn yn berthnasol i golagraff. Bob wythnos byddwch yn datblygu, golygu a mireinio delweddau cymhleth wrth gael eich tywys drwy'r broses ddiddorol hon. Erbyn diwedd y cwrs byddwch wedi cynhyrchu cyfres o brintiau colagraff mewn amrywiaeth o liwiau a chyfansoddiadau.
Dylai myfyrwyr ddod â'r canlynol gyda nhw:
- Slagpel a/neu gyllell Stanley
- Pensiliau lluniadu
- Delweddau a ddarganfuwyd a/neu ddelweddau personol, llungopïau, toriadau o gylchgronau
Rhoddir cyngor arall yn ystod y sesiwn gyntaf.
Dyddiad: Bob dydd Mercher, yn dechrau ar 11 Tachwedd 2026, 6.30:00-8:30yr
Hyd y cwrs: 6 Sesiwn
Pris: £160
Tiwtor: Russell John
Lefel: Dechreuwyr/Canolradd
Poblogeiddiwyd printiau torlun leino dull lleihau gan Picasso a'i brif argraffydd, Hidalgo Arnéra. Mae'n dechneg print beiddgar a lliwgar.
Yn y cwrs hwn cewch eich tywys drwy ddatblygu a chynhyrchu cyfres o brintiau torlun leino dull lleihau.
Gan ddefnyddio brasluniau, delweddau a ffotograffau a ddarganfuwyd byddwn yn creu cyfansoddiadau personol sy'n defnyddio’r cyfyngiadau cynhenid o brinto leino dull lleihau a defnyddio ei ymddangosiad beiddgar a lliwgar.
Bob wythnos byddwn yn ymateb i'r hyn rydym wedi'i greu o'r blaen ac yn adeiladu ar lwyddiannau, gan ein galluogi i greu argraffiad o brintiau sy'n manteisio ar y dechneg wych hon.
Beth sydd angen i'r myfyrwyr ddod gyda nhw?
-
Delweddau i chi eu darganfod a/neu ddelweddau personol, llungopïau, toriadau o gylchgronau
Bydd cyngor arall yn cael ei roi yn ystod y sesiwn gyntaf.
Dyddiad: Bob dydd Iau, yn dechrau ar 1 Hydref 2026, 6.30:00-8:30yr
Hyd y Cwrs: 8 sesiwn
Pris: £220
Tiwtor: Russell John
Lefel: Dechreuwyr/Canolradd
Lithograffeg Cerrig yw yn un o'r technegau printio traddodiadol mwyaf pwysig, a ddefnyddiwyd ers cannoedd o flynyddoedd gan artistiaid i wneud rhifynnau mawr o brintiau celfyddyd gain, a chan gwmnïau i wneud pob math o ddeunydd wedi'u brintio o ddefnydd pecynnu i bosteri. Yn y cwrs hwn byddwch yn cael eich tywys trwy ddatblygu a chynhyrchu print lithograffeg cerrig eich hun. Byddwch yn gweithio trwy'r broses argraffu lithograffeg cerrig cyfan, o baratoi calchfaen lithograffeg i wneud marciau i argraffu nifer o brintiau celfyddyd gain. Bob wythnos byddwn yn darganfod mwy o'r broses a ffyrdd cyffrous o ddatblygu ac adeiladu ar yr hyn yr ydym eisoes wedi'i wneud. Byddwch yn creu rhifyn o brintiau sy'n manteisio ar y dechneg wych hon.
Beth sydd angen i'r myfyrwyr ddod gyda nhw?
-
Delweddau a ddarganfuwyd a/neu ddelweddau personol, llungopïau, toriadau o gylchgronau. Rhoddir mwy o gyngor yn ystod y sesiwn gyntaf.
Ffotograffiaeth
Dyddiad: Bob dydd Iau, yn dechrau ar 7 Hydref 2026, 6.30:00-9:00yr
Hyd y cwrs: 5 sesiwn
Pris: £245
Tiwtor: Nik Roche
Lefel: Dechreuwyr
Nod y cwrs hwn yw eich helpu i gaffael gwybodaeth am dechnegau ac offer camera proffesiynol yn ogystal â'ch annog i ddatblygu eich sgiliau llythrennedd gweledol er mwyn sefydlu dull effeithiol a phersonol o greu delweddau.
Bydd yn rhoi'r sgiliau ymarferol sydd eu hangen arnoch i ddechrau defnyddio technegau ffotograffig sylfaenol yn hyderus, gan gynnwys rheoli dinoethiad, dyfnder ffocws, dal symudiad a rheoli ffeiliau. Ochr yn ochr â hyn, byddwch yn dysgu ystyried ac ymarfer cysyniadau sylfaenol mewn fframio a chyfansoddiad.
Byddwch yn dysgu sut i weithredu camera SLR Digidol a datgloi ei photensial i wella eich ffotograffiaeth a chynhyrchu portffolio unigol gan ddefnyddio'r sgiliau a'r wybodaeth rydych wedi'u hennill. Byddwch yn derbyn hyfforddiant a chyngor un i un, gyda thasgau annibynnol wythnosol i'w cwblhau ac adolygiad portffolio grŵp terfynol gan eich tiwtor a chynrychiolydd o Ffotogallery Caerdydd.
Dylai myfyrwyr ddod â'r canlynol gyda nhw:
- Camera SLR Digidol gyda Chardiau Cof.
Rhoddir cyngor pellach ar offer yn ystod y sesiwn gyntaf.