Skip to content

Ein Cymdeithas Gymraeg

Rydym yn falch o fod yn brifysgol yng Nghymru ac rydym yn ymrwymo i hyrwyddo a dathlu'r iaith Gymraeg a'i diwylliant. Yn y Met rydym yn dathlu pob digwyddiad Cymraeg sydd yn y calendr flynyddol, Dydd Gwyl Dewi, Diwrnod Santes Dwynwen, Dydd Miwsig Cymru a llawer mwy.

Cadwch lygad ar ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol am ddigwyddiadau Cymraeg yn ystod yr wythnos groeso – Instagram: @cangenmetcaerdydd

Rydym yn gwahodd myfyrwyr i ymuno â’n Côr Cymraeg bywiog, sy’n dod ag aelodau staff a myfyrwyr ynghyd. Croeso cynnes i ddysgwyr Cymraeg hefyd.

Bydd ymarferion wythnosol yn cael eu cynnal drwy gydol eich tymor cyntaf wrth i ni baratoi ar gyfer dau uchafbwynt cyffrous yn galendr y côr: perfformio yn y Wasanaeth Nadolig yn Eglwys Gadeiriol Llandaf a chanu yng nghinio mawreddog y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Mae'r GymGym yn gymdeithas wedi rheoli gan Brifysgol Caerdydd yn croesawu myfyrwyr Cymraeg o Brifysgol Met Caerdydd. Mae’n gymdeithas i fyfyrwyr y ddinas i ddod at ei gilydd er mwyn cymryd rhan a mwynhau amryw o weithgareddau sydd yn hybu a dathlu'r Gymraeg. Cynhelir nifer fawr o ddigwyddiadau gwahanol trwy gydol y flwyddyn sy'n cynnwys lot o gymdeithasu, digon o hwyl, ond hefyd yn ffordd arbennig i wneud ffrindiau newydd yn y Gymraeg!

Cliciwch yma er mwyn dysgu mwy am y gymuned hon

Mae Caerdydd yn gartref i leoliadau cerddoriaeth fyw gwych; o un o stadia amlycaf y byd i leoliadau gigs bach ar lawr gwlad, sy’n anadl einioes y sin gerddoriaeth sy’n datblygu yn y ddinas, gan gynnwys artistiaid pop Cymraeg. Mae Clwb Ifor Bach, un o’r lleoliadau bach ar lawr gwlad, wedi bod ar flaen y gad yn niwylliant Cymru ers dros 40 mlynedd, mae’n dod â’r gerddoriaeth orau absoliwt o Gymru a thu hwnt i’w torfeydd.

Mae Castell Caerdydd, yng nghanol y ddinas, yn symbol trawiadol o hanes Cymru, gan gyfuno elfennau Rhufeinig, Normanaidd a Fictoraidd. Mae Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan, ychydig y tu allan i'r ddinas, yn amgueddfa awyr agored mae rhaid ei gweld, sy'n dod â threftadaeth Cymru'n fyw gyda adeiladau hanesyddol wedi'u hailadeiladu a chrefftau traddodiadol.

Gwyliwch sioe yng Nghanolfan Mileniwm Cymru – boed yn ddrama Gymraeg, opera neu gerddorfa, mae'r Ganolfan yn dirnod diwylliannol ac yn drysor pensaernïol.

Os mae rygbi yw eich pethe, daliwch gêm rygbi yn Stadiwm y Principality a theimlwch angerdd cefnogwyr Cymru.

Mae Caerdydd hefyd yn gartref i dîm pêl-droed cenedlaethol Cymru. Cynhelir gemau cartref yn Stadiwm Dinas Caerdydd, lle mae’r Wal Goch—y llysenw ar gyfer y gefnogaeth deyrngar—yn creu awyrgylch trydanol.

www.croesocaerdydd.com

Mae Tafwyl yn ŵyl sy’n dod â’r gorau o gerddoriaeth, celfyddydau a diwylliant Cymraeg ynghyd yng nghalon Caerdydd. Mae’r ŵyl yn cynnig profiad unigryw ac ymdrochol i bawb, p’un a ydych yn siaradwr Cymraeg brodorol neu’n syml â diddordeb mewn darganfod harddwch yr iaith Gymraeg.

TAFWYL – Gŵyl Gymraeg Caerdydd

Rydym yn cynnig llawer o gyfleoedd i astudio trwy’r Gymraeg, ac mae ein darpariaeth cyfrwng Cymraeg ymhlith yr ehangaf yng Nghymru. Mae’r ddarpariaeth israddedig yn amrywio o gyrsiau sy’n cynnig ambell fodiwl trwy gyfrwng y Gymraeg, i eraill lle mae modd astudio’r cwrs cyflawn yn Gymraeg. Mae’n bosib i chi astudio modiwlau trwy gyfrwng y Gymraeg hyd yn oed os ydych yn astudio yn Saesneg yn bennaf. Ceir hefyd warant o Diwtor Personol Cymraeg. 

Rydym yn cynnig gwersi Cymraeg a dosbarthiadau Gwella dy Gymraeg YN RHAD AC AM DDIM i fyfyrwyr yn yr Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd a’r Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol.

Mae sgiliau Cymraeg yn werthfawr iawn yng Nghymru, yn broffesiynol ac yn gymdeithasol. Mae Met Caerdydd yn cynnig llawer o gyfleoedd i ddatblygu, gwella a defnyddio’r sgiliau hyn.

Bydd cofrestru ar agor yn ystod Wythnos Groeso. Ewch i un o Hybiau campws i siarad ag aelod o'r Uned Gymraeg.