Darpariaeth iaith Gymraeg yn erbyn Darpariaeth iaith Saesneg - Canlyniadau graddedigion
Mae myfyrwyr sydd â sgiliau iaith Gymraeg a gwblhaodd ran o'u cwrs yn y Gymraeg dros 10% yn fwy tebygol o gyflawni canlyniadau lefel broffesiynol gwell a chael gyrfa sydd ar y trywydd iawn, o'i gymharu â'r rhai a astudiodd yn Saesneg yn unig.
Iaith | Mewn gwaith/mewn astudiaeth | Canlyniadau fel broffesiynol | Gyrfa ar y trywydd iawn |
---|---|---|---|
Astudio trwy gyfrwng y Saesneg | 95.2% | 76.9% | 77.9% |
Astudio trwy gyfrwng y Gymraeg | 98.7% | 89.7% | 90.6% |
Cyffredinol | 95.3% | 77.2% | 78.3% |
Mae nifer o fanteision dros ddewis astudio cwrs yn rhannol neu’n gyfan gwbl drwy gyfrwng y Gymraeg:
- Cyfle i dderbyn arian ychwanegol
- Darlithwyr ac adnoddau gwych
- Bod yn rhan o grwpiau llai eu maint
- Cyfle i ddatblygu terminoleg arbenigol mewn dwy iaith
- Datblygu sgiliau dwyieithog a fydd o fantais i ti wrth chwilio am swydd yn y dyfodol
- Ar gyfartaledd, mae cyflogau swyddi dwyieithog yn uwch
Pa gymorth sydd ar gael?
Os nad wyt ti’n teimlo’n ddigon hyderus i astudio cwrs yn gyfan gwbl trwy gyfrwng y Gymraeg, mae nifer o gyrsiau ar gael sy’n cynnig opsiwn i ti astudio rhan o dy gwrs trwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae cefnogaeth ar gael i fyfyrwyr sy’n astudio cyrsiau yn rhannol drwy gyfrwng y Gymraeg er mwyn eu cynorthwyo i wella eu sgiliau iaith lafar ac ysgrifenedig.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch ag unedgymraeg@cardiffmet.ac.uk.
“Yn fy marn i mae astudio’n ddwyieithog yn fantais fawr. Mae’n eich galluogi chi i ddatblygu sgiliau a fydd yn y pen draw yn ddeniadol wrth chwilio am swydd yn y dyfodol ac yn bendant dwi wedi elwa llawer o astudio drwy gyfrwng y Gymraeg”
– Cathrin Jones
Ba (Anrh) Busnes A Rheolaeth Gyda Rheoli Adnoddau Dynol