Skip to content
Ymunwch â ni ym mis Medi. Gwneud cais drwy Glirio

Llinell Gyngor Clirio

Mae Llinell Gyngor Clirio Met Caerdydd NAWR AR AGOR ac mae ein tîm ar gael i’ch helpu i sicrhau lle. Gallwch ffonio 0300 330 0755 neu Sgwrsio’n Fyw gyda ni ar y dudalen we hon.

Amseroedd Agor Llinell Gyngor Clirio

Gorffennaf 5 – 13 Awst 2024:

Dydd Llun – Dydd Iau: 8:30yb – 5yp.

Dydd Gwener: 8:30yb – 4:30yp.

Dydd Iau 14 Awst 2024 (Diwrnod Canlyniadau Safon Uwch):

Mae ein tîm o staff llinell gyngor ac academyddion ar gael ar yr adegau canlynol, i sgwrsio trwy’r opsiynau sydd ar gael i chi: 8:00yb – 6:30yh.

Beth i'w ddisgwyl pan fyddwch chi'n ffonio ddydd Iau 14 Awst.

Wrth ffonio, byddwch yn cael nifer o opsiynau:

Clirio – Dewiswch yr opsiwn hwn i wneud cais Clirio newydd i Brifysgol Met Caerdydd.

Fe gewch chi restr o opsiynau mewn perthynas â'r cwrs yr hoffech ei astudio ac yna fe gewch eich trosglwyddo i'r tîm cwrs mwyaf perthnasol.

Dewiswch yr opsiwn mwyaf priodol o blith:

  1. Chwaraeon
  2. Gwyddoniaeth Fiofeddygol a Phroffesiynau Gofal Iechyd
  3. Troseddeg, y Gyfraith, Seicoleg a Phlismona
  4. Busnes, Cyfrifeg a Chyllid, Marchnata, Twristiaeth, Lletygarwch a Digwyddiadau
  5. Addysg Gynradd ac Addysg Blynyddoedd Cynnar
  6. Cyfrifiadureg, Gemau a Pheirianneg
  7. Celf, Dylunio a Phensaernïaeth
  8. Saesneg, Ysgrifennu Creadigol a'r Cyfryngau
  9. Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol, Gwaith Cymdeithasol, Cymdeithaseg a Gwaith Ieuenctid
  10. Unrhyw ymholiadau eraill

Cadarnhad* – Dewiswch yr opsiwn hwn os ydych eisoes wedi gwneud cais, wedi derbyn eich canlyniadau ac eisiau cadarnhau eich lle. Gallwch hefyd ddefnyddio’r opsiwn hwn os oes gennych ymholiad cyffredinol.

*Sylwer, oherwydd y nifer uchel o alwadau y bydd y brifysgol yn eu derbyn ar 15fed a 16eg Awst, efallai y byddai’n well gennych wirio statws eich cais trwy UCAS ar www.ucas.com. Cyn gynted ag y bydd penderfyniad wedi ei wneud ar eich cais i ni, byddwch yn cael gwybod trwy UCAS.

Dewiswch yr opsiwn hwn os hoffech wneud cais neu ymholiad drwy gyfrwng y Gymraeg.

  • Dydd Gwener 15 Awst 2024: 8:30yb – 5yp
  • Dydd Sadwrn 16 Awst 2024: 9yb – 3yp
  • Dydd Sul 17 Awst 2024: 10yb – 3yp
  • Dydd Llun 18 Awst 2024 – ymlaen:
  • Dydd Llun – Dydd Iau: 8.30yb – 5yp. Dydd Gwener 4:30yp.

Os ydych chi am gysylltu â ni y tu allan i’r oriau hyn, neu os na allwch fynd trwodd ar y ffôn, gallwch wneud cais ar-lein trwy lenwi ein ffurflen gais clirio ar-lein. Gallwch hefyd anfon e-bost atom ar holiderbyniadau@metcaerdydd.ac.uk a bydd aelod o’r tîm yn dod yn ôl atoch cyn gynted â phosibl. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnwys amlinelliad byr o’r cwrs y mae gennych ddiddordeb ynddo, eich cymwysterau academaidd, ynghyd â’ch manylion cyswllt llawn, gan gynnwys e-bost dilys a rhif ffôn cyswllt. Nodwch: Byddwn yn ymdrechu bob amser i ymateb i’ch e-bost neu ymholiad ffôn o fewn 24 awr. Fodd bynnag, ar brydiau efallai y bydd angen i ni atgyfeirio ymgeisydd am benderfyniad academaidd a allai gymryd mwy o amser.