Mae ein Diwrnodau i Ymgeiswyr yn gyfle perffaith i chi ymgolli ym mywyd Met Caerdydd. Byddwch yn cael rhagflas o’r cwrs yr ydych wedi gwneud cais amdano, yn cael profiad o’n haddysgu a’n cyfleusterau o ansawdd uchel, yn ogystal â chwrdd â staff a myfyrwyr i sgwrsio am bopeth yn ymwneud â Met Caerdydd.
Bydd ystod o wasanaethau cymorth o bob rhan o’r Brifysgol hefyd wrth law i sgwrsio â nhw, gan gynnwys llety, chwaraeon perfformio, astudio trwy gyfrwng y Gymraeg, a mwy.
Wrth i ddyddiadau gael eu cadarnhau, bydd ein Tîm Derbyniadau yn cysylltu â chi gyda’r holl fanylion sydd eu hangen arnoch i gofrestru eich lle.
Noder: gall rhai Diwrnodau i Ymgeiswyr amrywio yn dibynnu ar y cwrs y gwneir cais amdano. Bydd pob gwahoddiad yn amlinellu’r rhaglen benodol y gallwch ei disgwyl ar y diwrnod.
Awgrymiadau i wneud y gorau o’ch diwrnod:
- Cymerwch ran yn eich sesiwn ymarferol. Manteisiwch i’r eithaf ar ddysgu sut beth yw astudio’r cwrs y gwnaethoch gais amdano.
- Sgwrsiwch gyda’n myfyrwyr. Gyda phwy well i siarad na rhywun sydd eisoes yn astudio gyda ni? Bydd ein llysgenhadon myfyrwyr o gwmpas drwy’r dydd i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.
- Sgwrsiwch gyda’n staff. Oes gennych chi gwestiwn penodol am eich cwrs? Mae ein timau addysgu yma i helpu.
- Cymerwch y daith. Peidiwch ag anghofio mynd ar daith campws i weld ein cyfleusterau, a mannau astudio a chymdeithasol.
- Dim o’r ardal leol? Treuliwch ychydig o amser yn crwydro ein prifddinas wych – gofod bach a hawdd ei lywio, a lle rydyn ni’n gobeithio y byddwch chi eisiau ei alw’n gartref.
- Ac yn olaf, cipiwch bicau ar y maen am ddim!
Wedi mynychu Diwrnod Agored yn barod?
Os ydych chi eisoes wedi mynychu Diwrnod Agored Met Caerdydd, dyma restr o’r pethau ychwanegol y byddwch chi’n eu profi trwy fynychu’ch Diwrnod i Ymgeiswyr ym Met Caerdydd:
| Diwrnod Agored | Diwrnod i Ymgeiswyr | |
|---|---|---|
|
Taith Campws |
✔ |
✔ |
|
Sgwrs Cwrs |
✔ |
✔ |
|
Taith Llety |
✔ |
✔ |
|
Gwybodaeth am Gyllid Myfyrwyr |
✔ |
✔ |
|
Gwybodaeth am Gyfleusterau Cefnogaeth |
✔ |
✔ |
|
Sesiwn Profiad Cwrs Profwch gynnwys eich cwrs gyda sesiwn flasu gan eich timau addysgu. Byddwch yn cael y cyfle i ddysgu’n uniongyrchol sut beth fyddai astudio’r cwrs o’ch dewis, gan brofi’r addysgu a’r cyfleusterau. |
✗ |
✔ |
|
Holi ac Ateb Panel Myfyrwyr Gofynnwch eich cwestiynau i’n myfyrwyr presennol, boed hynny’n gwestiynau ar fywyd myfyriwr yng Nghaerdydd, rhagolygon cyflogadwyedd, cyllidebu, gallwch glywed gan fyfyrwyr a oedd yn eich esgidiau ychydig flynyddoedd yn ôl. |
✗ |
✔ |
|
Holi ac Ateb Panel Rhieni Gall rhieni a gwesteion sy’n mynychu ofyn eu cwestiynau i’n panel o rieni myfyrwyr sydd wedi, neu sydd ar hyn o bryd, yn tywys eu myfyrwyr ar eu taith i’r brifysgol. |
✗ |
✔ |