Skip to content
Ymunwch â ni ym mis Medi. Gwneud cais drwy Glirio

Unwaith y bydd eich lle wedi'i gadarnhau a'ch bod wedi cwblhau'r broses ymrestru ar-lein, gallwch lanlwytho ffotograff ar gyfer eich Cerdyn Met. Gallwch wirio statws ymrestru yma hefyd.

Gyda’ch cerdyn, gallwch ddefnyddio cyfleusterau pob campws, llety’r neuaddau (os ydych chi'n fyfyriwr preswyl), gwasanaethau Llyfrgell a TG, a chyfleusterau argraffu a chopïo hunanwasanaeth. Bydd angen eich Cerdyn Met arnoch hefyd os ydych chi'n ymuno â champfa'r Brifysgol (sy'n rhad ac am ddim i bob myfyriwr).

Bydd lanlwytho eich ffotograff yn sicrhau bod eich Cerdyn Met yn barod i'w argraffu pan fyddwch chi'n cyrraedd y campws – naill ai yn ein digwyddiad Byddwch yn Barod ar 5 Medi (bydd mwy o wybodaeth yn cael ei hanfon drwy e-bost) neu yn ystod yr Wythnos Groeso.

Os na allwch chi ddod i Byddwch yn Barod ar gyfer Met Caerdydd ond eich bod chi'n byw'n agos at ein campysau yng Nghyncoed neu Landaf ac wedi ymestru a lanlwytho'ch llun, gallwch chi gasglu'ch CerdynMet o lyfrgelloedd y campws o ddydd Llun, 8 Medi yn ystod oriau agor y llyfrgell. Ond os byddai'n well gennych chi aros tan yr Wythnos Groeso, mae hynny'n iawn!

Lanlwythwch eich ffotograff fel bod eich Cerdyn Met yn barod i chi ei gasglu yn ystod yr Wythnos Groeso