Skip to content
Archebwch eich lle yn ein Diwrnod Agored Israddedig, cofrestrwch nawr

Eich Undeb Myfyrwyr

Ni yw Undeb Myfyrwyr Cardiff Met, curiad calon Prifysgol Met Caerdydd. Pan fyddwch chi'n ymuno â Met Caerdydd, byddwch chi'n dod yn rhan o Undeb y Myfyrwyr yn awtomatig, ac mae hynny'n golygu y gallwch chi gael gafael ar bopeth sydd gennym ni i'w gynnig o'r diwrnod cyntaf!

Rydym yn cefnogi eich taith fel myfyriwr, yn cynrychioli eich llais ac yn rhoi digon o gyfleoedd i chi gymryd rhan, cwrdd â phobl newydd a chael amser gwych ar hyd y ffordd. O fynychu ein digwyddiadau fel Ffair y Glas, mae rhywbeth i bawb gymryd rhan ynddo.

Mae ein clybiau chwaraeon yn teithio ledled y wlad, gan gystadlu ledled y DU yn BUCS, ac mae ein Cymdeithasau Undeb Myfyrwyr yn ffordd wych o gwrdd â phobl sy'n rhannu eich diddordebau, eich diwylliannau neu eich cyrsiau.

Mae gan bob myfyriwr lais pwerus, ac rydym yn awyddus i sicrhau eich bod yn cael eich clywed. Gan weithio gyda'n tîm o Arweinwyr Myfyrwyr, rydym yn creu polisi ac ymgyrchoedd i wneud eich bywyd fel myfyriwr yn well, gan ennill i chi a chyda chi.

Rydym yn cael ein harwain gan ein gwerthoedd, sef 'arwain gan fyfyrwyr', 'cydraddoldeb', 'grymuso', 'tryloywder' a 'hwyl', a dyma sylfaen ein hunaniaeth. Maen nhw'n llywio ein diwylliant, ein hymddygiadau ac yn rhoi pwrpas i fod y gorau y gallwn ni fod i chi.

Yn y pen draw, rydym yma i greu cymuned ffyniannus lle rydych chi'n cael eich grymuso i gysylltu a llwyddo. Rydych chi wrth wraidd popeth a wnawn!

I gael rhagor o wybodaeth, gallwch ddod o hyd i ni ar Instagram, TikTok a Facebook – @CardiffMetSU, mynd i gwefan Undeb y Myfyrwyr, anfonwch e-bost in ni at studentunion@cardiffmet.ac.uk, neu ymweld â ni yn ein swyddfeydd ar y ddau gampws.