Skip to content
Ymunwch â ni ym mis Medi. Gwneud cais drwy Glirio

Ein Cymuned Gymraeg a Chyfleoedd drwy gyfrwng y Gymraeg

Mae gennym gymuned Gymraeg fywiog ym Met Caerdydd, sy'n cynnwys siaradwyr a dysgwyr Cymraeg, ac mae digon o gyfleoedd a gweithgareddau i gymryd rhan ynddynt.

Gallwch ddysgu mwy ar ein tudalennau Astudio drwy gyfrwng y Gymraeg.

Datblygu sgiliau Cymraeg i hybu eich gyrfa

Mae sgiliau Cymraeg yn hynof werthfawr yng Nghymru, yn broffesiynol ac yn gymdeithasol. Mae gan Lywodraeth Cymru weledigaeth o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, felly mae galw cynyddol am sgiliau Cymraeg yn y gweithlu ledled Cymru.

Mae Met Caerdydd yn cynnig llawer o gyfleoedd i ddatblygu, gwella a defnyddio'r sgiliau hyn.

Cymraeg i bawb

Am y tro cyntaf, bydd gwersi Cymraeg am ddim ar gael i holl fyfyrwyr Prifysgol Met Caerdydd ym mis Medi 2025. Mae lleoedd yn gyfyngedig a byddant ar gael ar sail y cyntaf i'r felin.

Newydd i'r Gymraeg neu wedi astudio'r Gymraeg mewn ysgol cyfrwng Saesneg?

I fyfyrwyr ar y rhaglenni isod, bydd y gwersi hyn wedi'u teilwra i'ch meysydd astudio a byddant yn rhan o amserlenni’ch cwrs:

  • Addysg (Blwyddyn 1 o astudio)
  • Plismona (Blwyddyn 1 o astudio)
  • Therapi Iaith a Lleferydd (Blwyddyn 1 o astudio)

Gall pob myfyriwr arall gofrestru ar gyfer ein gwersi Cymraeg ar ddechrau'r tymor. I gofrestru, dewch draw i stondin Yr Uned Gymraeg yn yr Hwb Wybodaeth yn ystod Wythnos Groeso, lle gallwch gofrestru a chael rhagor o wybodaeth.

Ydych chi eisoes yn siarad Cymraeg?

Mae Met Caerdydd eisiau eich cefnogi i ddefnyddio eich Cymraeg fel rhan o'ch astudiaethau ac ym mywyd beunyddiol. Os ydych chi'n rhugl, bron yn rhugl neu'n astudio modiwlau drwy gyfrwng y Gymraeg, gallwch ymuno ag un o'n dosbarthiadau lefel hyfedredd. Bydd hyn yn helpu i roi hwb i’ch hyder mewn Cymraeg ysgrifenedig, Cymraeg academaidd a defnyddio’r iaith yn gyhoeddus.

Cewch glywed mwy am y cyfleoedd hyn yn ystod yr Wythnos Groeso.