Skip to content
Ymunwch â ni ym mis Medi. Gwneud cais drwy Glirio

Sefydlu Sgiliau Digidol

Mae'r broses sefydlu Hanfodion Digidol yn rhoi'r sgiliau digidol craidd sydd eu hangen arnoch fel glasfyfyriwr i astudio ym Met Caerdydd. Mae rhagor o fanylion TG yn yr adran Cwestiynau Cyffredin.

Byddwch yn dysgu am y technolegau a'r arferion digidol sy'n eich galluogi i ymgymryd â'ch astudiaethau wrth ddysgu yn y cnawd ac wrth ddysgu ar-lein.

Mae'r broses sefydlu yn archwilio systemau hanfodol fel Moodle, e-bost, ein Wi-Fi, rheoli eich dogfennau a Microsoft Teams – y platfform cyfathrebu digidol a fydd yn ganolog i'ch dysgu.

Dyma beth sydd angen i chi ei wneud:

  • Cwblhau a phasio'r e-wers sefydlu Hanfodion Digidol.
  • Mynychu a chwblhau'r sesiynau hyfforddi Cyflwyniad i Teams a Rheoli Dogfennau ym Met Caerdydd, sy'n adeiladu ar yr e-wers sefydlu.

Gallwch gwblhau'r e-wers Hanfodion Digidol unrhyw bryd - dylai gymryd tua 25 munud. Rydym yn awgrymu eich bod yn ei chwblhau cyn i chi gyrraedd Met Caerdydd.

Gallwch hefyd gofrestru ar gyfer y ddwy sesiwn hyfforddi. Bydd y rhain yn cael eu cynnal drwy gyfarfod Microsoft Teams yn yr Wythnos Groeso ac yn ystod pythefnos cyntaf y tymor. Cadwch lygad am ragor o wybodaeth yn eich ebyst Croeso.

Fel ein holl gyrsiau, mae cwblhau'r sesiwn sefydlu yn llwyddiannus yn arwain at fathodyn digidol Sefydlu Hanfodion Digidol – prawf o'ch sgiliau y gallwch eu rhannu'n hawdd gyda chyflogwyr. Ewch i'r dudalen Hanfodion Digidol i ddechrau.

Ewch i'r dudalen Hanfodion Digidol i ddechrau arni.