UCCE Caerdydd De Cymru
Croeso i wefan UCCE Caerdydd De Cymru, cartref y Crimson Caps!
Ffurfiwyd UCCE Caerdydd De Cymru (Crimson Caps) gan dair prifysgol: Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol De Cymru.
Mae'r UCCE, y mae pob un ohonynt yn cael cyllid bob blwyddyn gan yr MCC (Clwb Criced Marylebone), wedi'u hanelu at fyfyrwyr gwrywaidd a benywaidd sydd â'r potensial i chwarae criced o’r radd flaenaf, a myfyrwyr benywaidd sydd wedi chwarae ar lefel uwch o fewn y siroedd. Nod UCCE yw rhoi cyfle i gricedwyr ifanc talentog gael cyfleoedd hyfforddi a chwarae ar y lefel uchaf wrth fynd ymlaen â’u haddysg.
Mae’r UCCE wedi'i leoli ym mhrif ddinas Cymru ac o'i chwmpas, ac mae yna gysylltiadau trafnidiaeth rhagorol rhwng y tri sefydliad partner.
Mae UCCE De Cymru Caerdydd, yn chwarae gemau cartref ar gaeau a ddefnyddir gan Glwb Criced Sir Morgannwg, gan gynnwys Gerddi Sophia.
Met Caerdydd yw'r canolbwynt ar gyfer gweithrediadau’r Ganolfan o ddydd i ddydd. Mae hyfforddiant hefyd yn cael ei gynnal ym Mhrifysgol Caerdydd ac yn ysgol griced dan do CCS Morgannwg yn stadiwm SWALEC.
Cysylltwch â michael@glamorgancricket.co.uk am ragor o wybodaeth.
Gallwch wneud cais i ddod yn aelod o sgwad UCCE Caerdydd De Cymru trwy e-bostio'ch CV at michael@glamorgancricket.co.uk.
Ers sefydlu UCCE Caerdydd De Cymru mae rhai o'r chwaraewyr wedi cael contractau proffesiynol ac wedi chwarae criced o’r radd flaenaf. Yn eu plith mae:
- Dan Douthwaite, Asa Tribe (CCS Morgannwg)
- Aaron Nijjar (CCS Essex)
- Kieran Bull (CCS Morgannwg)
- Jake Libby (CCS Swydd)
- Matthew Hobdon (CCS Sussex)
- Fabian Cowdrey (CCS Caint)
- Andrew Salter (CCS Morgannwg)
- Heather Knight (Lloegr)
- Andrew Balbirnie (CCS Middlesex ac Iwerddon)