Skip to content

Athletau - Cwrdd â'r Tîm

Side view of sprinter running on a track Side view of sprinter running on a track
01 - 02

Mae ein Rhaglen Athletau yn cael ei harwain gan Bennaeth Athletau, Rhiannon Hawker, a'i chefnogi gan ein Cydlynydd Clybiau a Chystadlaethau, Emily Thomas.

Phil Warwicker, ein Prif Hyfforddwr Athetau i Blant, sy'n arwain ar gyflwyno'r Rhaglen i Blant a chlwb Saethwyr Caerdydd.

Rhiannon Hawker

Rhiannon Hawker

Pennaeth Athletau

o Mae Rhi yn gyn-fyfyriwr balch o Brifysgol Met Caerdydd ar ôl treulio 5 mlynedd fel myfyriwr israddedig a meistr yma, cyn iddi raddio a chael ei phenodi’r Bennaeth Cystadlaethau, Athletau Cymru.

Dychwelodd i Brifysgol Met Caerdydd fel Pennaeth Athletau ym mis Mai 2023 ac mae'n goruchwylio'r system athletau yn y brifysgol, gan gynnwys y rhaglenni perfformio, iau, digwyddiadau, myfyrwyr ac ymgysylltu cymdeithasol ac yn cystadlu'n rhyngwladol yn y ras 800m.

Placeholder Image

Phil Warwicker

Prif Hyfforddwr Athletau Iau

Phil yw Prif Hyfforddwr ein rhaglen Athletau Iau, Athletau Saethyddion Caerdydd, y mae wedi'i datblygu ers ffurfio'r clwb yn 2012. Mae'r rhaglen hon yn cynnig gwaith hyfforddi â thâl i'n myfyrwyr, yn ogystal â lleoliadau, tra byddant yn astudio yn y brifysgol. Yn ogystal â rheoli'r rhaglen iau, mae Phil yn hyfforddi grŵp o Neidwyr Llorweddol, gan gynnwys Emily Thomas (Ll 6.14); Luca Phillips (Dan 17 LLl 7.36); Abdul Afolabi (Dan 20 TJ 14.40); a Beca Roberts (TJ 11.90).

Placeholder Image

Emily Thomas

Cydlynydd Clybiau a Chystadlaethau

Rhi is a proud alumna of Cardiff Met having spent 5 years as an undergraduate and masters student here, before graduating and securing a role within Welsh Athletics as the Head of Competition.

She returned to Cardiff Met as the Head of Athletics in May 2023 and oversees the athletics system at the university, including the performance, junior, events, student and social engagement programmes whilst still competing internationally over 800m.

Placeholder Image

James Thie

Uwch Ddarlithydd Hyfforddi Chwaraeon a Pherfformiad (Athletau)

Mae James yn Uwch Ddarlithydd sy’n arbenigo ym maes Datblygu Chwaraeon yn y Brifysgol ac Ymgynghorydd Perfformiad ac yn Arweinydd Dygnwch ar gyfer y Clwb Athletau. Mae James yn un o'n hyfforddwyr dawnus iawn. Ers dechrau hyfforddi yn 2008, mae wedi hyfforddi grŵp hynod lwyddiannus o athletwyr gan gynnwys BUCS, enillwyr medalau cenedlaethol a rhyngwladol, ac mae wedi bod yn rhan o Staff Olympaidd Tîm GB am 2 Gemau.

Ochr yn ochr â'i waith yn y brifysgol, mae James yn gweithio'n rheolaidd fel sylwebydd a darlledwr i sefydliadau fel Marathon Llundain, grŵp The Great Run ac Eurosport.

Hyfforddwyr a Staff Perfformiad

Yn ogystal, rydym yn gweithio gyda nifer o Hyfforddwyr Perfformiad dawnus ac angerddol sy'n darparu hyfforddiant i'n myfyrwyr drwy gydol eu hamser ym Met Caerdydd.  Mae’r tîm hefyd yn gweithio ochr yn ochr â phwyllgor clwb y myfyrwyr i sicrhau bod gan bob athletwr fynediad at gyfleoedd hyfforddi a chystadlu.