Cyngor Ariannol | Prifysgol Metropolitan Caerdydd
Sut y Gallwn Ni Helpu
Yn ystod eich amser yn y Brifysgol, efallai y bydd angen cyngor arnoch ar gyllidebu neu gyllid myfyrwyr.
Rydym yn cynnig apwyntiadau galw heibio i drafod cyllidebu a rheoli arian, cyllid myfyrwyr, a chymorth i ddatrys materion gyda Chyllid Myfyrwyr. Gallwn helpu gyda:
- bryderion am arian
- Cyllid Myfyrwyr
- cyllid brys
- cyllidebu a rheoli arian
- cymorth ychwanegol i’r rhai sy'n gadael gofal a myfyrwyr sydd wedi ymddieithrio
- pryderon ynglŷn â gwario e.e., gamblo neu chwarae gemau
- goblygiadau ariannol ailadrodd, gohirio neu dynnu'n ôl o astudiaethau
Gall myfyrwyr hefyd gael mynediad at gyngor arbenigol yn rhad ac am ddim gan ein darparwyr partner Money Saviour CIC a Cyngor ar Bopeth Caerdydd a Bro Morgannwg, gan gynnwys cyngor ar ddyledion, budd-daliadau, tai, defnyddwyr, a theulu.
Myfyrwyr Newydd a Darpar Fyfyrwyr
Rydym yn deall y bydd gan ddarpar fyfyrwyr a rhieni/gwarcheidwaid gwestiynau ynghylch pa gyllid sydd ar gael i fyfyrwyr, a sut/pryd i wneud cais.
Mae ein tîm Cynghori Ariannol yma drwy gydol y flwyddyn i ateb ymholiadau a darparu cymorth wrth gynllunio cyllideb i fyfyrwyr.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, anfonwch e-bost atom at moneyadvice@cardiffmet.ac.uk.
Trosolwg o'r gefnogaeth sydd ar gael:
- Pobl sy'n gadael gofal a myfyrwyr sydd wedi ymddieithrio
- Gwneud cais am Gyllid Myfyrwyr
- Bwrsariaeth GIG a chyllid Gwaith Cymdeithasol
- Cyllidebu fy hawl i Gyllid Myfyrwyr
Am gyngor penodol yn seiliedig ar eich amgylchiadau unigol, cysylltwch â ni ar moneyadvice@cardiffmet.ac.uk neu cysylltwch â'ch benthyciwr yn uniongyrchol.
Trefnu Apwyntiad
Gall myfyrwyr cyfredol drefnu apwyntiad a bwrw golwg ar sesiynau galw heibio drwy fewngofnodi i CanolbwyntMet.
Gallwch hefyd drefnu apwyntiadau drwy’r parth-g.
Gall ddarpar fyfyrwyr e-bostio’r tîm cyngor ariannol ar moneyadvice@cardiffmet.ac.uk i wneud apwyntiad neu i ofyn unrhyw gwestiwn.
Cysylltu â Ni
Gallwch hefyd ymweld â’r parth-g neu gysylltu â ni ar:
- E-bost: moneyadvice@cardiffmet.ac.uk
- Ffôn: +44 (0)29 2041 6170