Skip to content

Cynllunio eich Treuliau

Mae cynllunio eich cyllid yn rhan bwysig o baratoi ar gyfer bywyd prifysgol. Mae'r canllaw hwn yn rhoi trosolwg o gostau byw cyfartalog i helpu myfyrwyr newydd i amcangyfrif eu treuliau a chreu cyllideb realistig ar gyfer eu hamser yn y brifysgol.

Rydym yn cynghori pob myfyriwr i gynllunio ar gyfer eu costau disgwyliedig eu hunain, a sicrhau bod ganddynt ddigon o arian i dalu eu costau byw. Am ragor o wybodaeth neu gyngor ar gostau byw yng Nghaerdydd a chyllidebu ar gyfer bywyd myfyrwyr, cysylltwch â'r tîm cyngor ariannol drwy moneyadvice@cardiffmet.ac.uk

Treth y Cyngor

Mae myfyrwyr llawn amser mewn Addysg Uwch wedi'u heithrio rhag talu Treth y Cyngor. Os ydych chi'n byw gyda rhywun sy'n gymwys i dalu Treth y Cyngor, bydd eich Cyngor lleol yn cadarnhau'r taliadau blynyddol sy'n berthnasol.

Enghreifftiau o gostau amcangyfrifedig

Defnyddiwyd amcangyfrifon cenedlaethol a lleol yn yr enghreifftiau darluniadol isod i'ch helpu i gynllunio'ch costau amcangyfrifedig fel myfyriwr israddedig ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26.

Dylid defnyddio'r ffigurau a ddarperir fel canllaw i'ch helpu i gynllunio'ch cyllideb bersonol eich hun, yn seiliedig ar amcangyfrifon cenedlaethol a lleol. Bydd eich costau yn dibynnu ar y math o lety a ddewiswch, i ba raddau y byddwch yn dibynnu ar drafnidiaeth, a faint a ble rydych yn bwriadu cymdeithasu tra yn y brifysgol.

Math o lety Tâl misol arferol Hyd daliadaeth arferol Cost dros hyd y ddaliadaeth

Neuaddau Met Caerdydd - arlwyo [1]

£988.00 42 wythnos £9,576.00

Neuaddau Met Caerdydd – hunanarlwyo [2]

£879.67 42 wythnos £8,526.00

Neuaddau preifat eraill (ystod is) [3]

£693.33 44 wythnos £7,040.00

Neuaddau preifat eraill (ystod uwch) [4]

£1,382.33 51 wythnos £16,269.00

Rhannu tŷ preifat gan gynnwys biliau [5]

£650.00 51 wythnos £7,800.00

 

Costau 'hanfodol' eraill* Cost fisol arferol Cost Flynyddol (yn seiliedig ar 39 wythnos)

Teithio o gwmpas Caerdydd [6]

£50.00

£500.00

Ffôn symudol – ystod is [7]

£16.00

£160.00

Bwydydd a nwyddau ymolchi [7]

£144.00

£1,440.00

Argraffu a deunyddiau cwrs [8]

£42.00

£420.00

Trwydded deledu [9]

£14.54

£174.50

Golchi Dillad [10]

£28.00

£273.00

 

Costau 'anhanfodol'*

Cost fisol arferol

Cost Flynyddol (yn seiliedig ar 39 wythnos)

Tanysgrifiadau – ystod is (fesul tanysgrifiad) [11]

£9.99

£99.90

Cymdeithasu yng Nghaerdydd [7]

£51.00

£1,989.00

Bwyd o siopau cludfwyd a bwyta allan [7]

£48.00

£480.00

Gwyliau a digwyddiadau [7]

£29.00

£290.00

 

  1. Costau ar gyfer Neuaddau Met Caerdydd – yn seiliedig ar ystafell arlwyo ‘classic’ (contract 42 wythnos)
  2. Costau ar gyfer Neuaddau Met Caerdydd - yn seiliedig ar ystafell hunanarlwyo en-suite ‘premium’ (contract 42 wythnos). 
  3. Yn seiliedig ar ystafell hunanarlwyo ‘classic’yn Blackweir Lodge. Gall ffioedd, symiau blaendal a hyd gontractau amrywio'n sylweddol rhwng darparwyr llety preifat. Costau enghreifftiol yn unig yw'r rhain: cyfeiriwch at wefan y darparwr neuaddau preifat am y ffigurau cywir.
  4. Yn seiliedig ar ystafell en-suite ‘platinwm’ glyd (hunanarlwyo ar gyfer un person) yn Bridge Street Exchange. Gall ffioedd, symiau blaendal a hyd gontractau amrywio'n sylweddol rhwng darparwyr llety preifat. Costau enghreifftiol yn unig yw'r rhain: cyfeiriwch at wefan y darparwr neuaddau preifat am y ffigurau cywir.
  5. Yn seiliedig ar rent rhannu tŷ amcangyfrifedig arferol, yn ogystal â £100 y mis ar gyfer biliau – gall ffioedd amrywio 
  6. Yn seiliedig ar wybodaeth gan BwsCaerdydd, y tocynnau Metwibiwr sydd ar gael ac adborth gan fyfyrwyr. Rydym yn argymell yn gryf bod myfyrwyr yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus lle bynnag y bo modd yn hytrach na mynd â cheir i'r brifysgol. I fyfyrwyr sy'n byw y tu allan i Gaerdydd ac sy'n bwriadu teithio i Gaerdydd, mae rhagor o fanylion am gysylltiadau trafnidiaeth leol ar gael ar wefannau National Rail, National Express a BwsCaerdydd.
  7. Yn seiliedig ar yr Arolwg Arian Cenedlaethol o Fyfyrwyr diweddaraf ar gyfer 2025 a gyhoeddwyd gan Save the Student 
  8. Gall costau argraffu a deunyddiau cwrs amrywio – bydd eich Cyfarwyddwr Rhaglen a gwybodaeth am eich cwrs yn cadarnhau a oes angen prynu unrhyw beth. Mae ein canolfannau dysgu wedi'u stocio'n llawn gyda llyfrau a chyfnodolion, felly rydym yn cynghori peidio â phrynu deunyddiau ymlaen llaw oni bai eu bod yn cael eu hystyried yn hanfodol.  Efallai y byddwch chi'n gallu prynu eitemau hanfodol am gost is trwy brynu rhai ail law.
  9. Y gost lawn flynyddol ar gyfer 2025 yw £174.50 – dysgwch fwy am drwydded teledu i fyfyrwyr ar wefan Trwydded Teledu. Gellir talu'r ffi yn fisol gyda 6 rhandaliad o £29.10 yna taliadau o £14.54 y mis.
  10. Yn seiliedig ar un llwyth golchi a sychu yr wythnos yng ngolchdy Neuaddau Cyncoed