Skip to content

Arholiadau Ar-lein ACCA

Mae ACCA yn cynnig arholiadau cyfrifiadurol ar gyfer y saith papur cyntaf o fewn cyfres o wobrau Sylfaenol mewn Cyfrifeg.

Cynhelir yr arholiadau mewn canolfannau sydd wedi’u trwyddedu gan ACCA.

Arholiadau a Ffioedd

  • Busnes a Thechnoleg (BT) – £160
  • Cyfrifeg Ariannol (FA) – £160
  • Cyfraith Gorfforaethol a Busnes (LW-ENG) – £185
  • Cyfraith Gorfforaethol a Busnes (LW-GLO) – £185
  • Cyfrifeg Rheoli (MA) – £160
  • Cofnodi Trafodiadau Ariannol (FA1) – £110
  • Busnes a Thechnoleg (FBT) – £160
  • Cyfrifeg Ariannol (FFA) – £160
  • Cynnal Cofnodion Ariannol (FA2) – £110
  • Cyfrifeg Rheoli (FMA) – £160
  • Gwybodaeth Rheoli (MA1) – £110
  • Rheoli Costau a Chyllid (MA2) – £110

Dyddiadau

I gofrestru ar gwrs ACCA ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, ewch i’n Siop Ar-lein neu cysylltwch â csm-enterprise@cardiffmet.ac.uk am fwy o wybodaeth am dulliau cofrestru a thalu.

Lleoliad

  • Campws Llandaf, Bloc O, Ystafell O1.19

Os ydych chi’n bwriadu sefyll arholiadau CBE ACCA, rhaid eich bod wedi cofrestru gydag ACCA. Bydd y ganolfan angen y wybodaeth bersonol ganlynol gennych chi yn ogystal â phrawf eich bod chi’n fyfyriwr cofrestredig a chymwys:

  • eich rhif cofrestru myfyriwr ACCA
  • dyddiad geni (ar ffurf diwrnod, mis, blwyddyn)
  • enw llawn a chyfeiriad
  • y cymhwyster rydych chi’n astudio ar ei gyfer
  • cyfeiriad e-bost
  • rhif ffôn
  • rhyw

Bydd y wybodaeth yn cael ei ddefnyddio at ddibenion eich cofrestru fel myfyriwr ar gyfer yr arholiadau a hysbysu ACCA o ganlyniadau eich arholiadau yn unig. Mae’n ofynnol i’r ganolfan eich hysbysu am y defnydd o’r manylion personol hyn a’r diben y bydd y wybodaeth yn cael ei defnyddio ar ei gyfer o dan delerau Deddf Diogelu Data’r DU.

Dylech hefyd fod yn ymwybodol bod gan ACCA hawl i ddarparu gwybodaeth o’r fath i’r ganolfan yn ôl yr angen. Dim ond at ddibenion gweinyddu’r arholiadau y bydd ACCA yn gwneud hynny a gellir trosglwyddo gwybodaeth o’r fath i ganolfan mewn gwlad lle nad oes Hawliau Diogelu Data yn bodoli.

I brofi eich bod wedi cofrestru ac yn gymwys i sefyll y CBE gofynnol, bydd gofyn i chi ddarparu eich rhif cofrestru, dyddiad geni a manylion cyswllt i’r ganolfan. Rhaid i chi hefyd ddarparu ffurf ddilys a swyddogol o ddogfen adnabod â llun, e.e., pasbort. Os na fyddwch yn darparu ffurf swyddogol o ddogfen adnabod â llun, ni ellir cael lle ar gyfer sesiwn CBE.